English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Pethau Rhamantus i'w Gwneud

Beth yw'r ddelwedd sydd gennych chi o'r gwyliau rhamantus perffaith?

Rydym yn hynod falch o'n sir a'i golygfeydd, ei cherddoriaeth, ei bwyd ac ati, ac yn dwlu ar rannu ei rhyfeddodau. Rydych yn sicr o gael croeso mawr lle bynnag yr ewch yn y sir a byddem wrth ein bodd petaech yn ymweld â hi.

Beth am gwtsio yn Sir Gaerfyrddin? Nid oes lle gennym i sôn am yr holl bethau sydd i'w gwneud yn Sir Gaerfyrddin, felly dyma ein 10 peth mwyaf rhamantus i'w gwneud.

1. Tirweddau Cariad

Ewch am dro ar hyd un o'n traethau godidog, fel Bae Scott yn Llansteffan. Mae'r cildraeth anghysbell yn lle perffaith i fynd am dro rhamantus.

2. Dyma'r cynnig perffaith

Mae'n sicr fod Llyn y Fan yn un o safleoedd picnic mwyaf dramatig y Deyrnas Unedig. Mae'n edrych dros lyn rhewlifol Llyn y Fan Fach ar ochr orllewinol Bannau Brycheiniog.

 

3. Beicio Di-draffig

Ewch am daith ramantus ar feic ar hyd Parc Arfordirol y Mileniwm. Mae ein llwybr beicio pwrpasol 10 milltir o hyd yn cynnig golygfeydd godidog o'r traethau eang, y tonnau trawiadol, a'r arfordir hyfryd, gan edrych dros Fae Caerfyrddin prydferth.

4. Adfail Rhamantus

Ewch i ymweld â Chastell Carreg Cennen, sy'n un o'r llefydd mwyaf rhamantus yng Nghymru. Mae golygfeydd panoramig a rhyfeddol, a thramwyfa do bwaog sy'n ddigon i ddychryn dyn, ac ogof danddaearol ac annaearol. 

5.Teithiau Gyrru

Ewch am daith yn y car drwy ein hardaloedd gwledig prydferth. Mae sêr Top Gear yn dwlu ar wefr yr A4069, un o lwybrau gyrru gorau Cymru o ran golygfeydd. Dechreuwch ym Mrynaman, i'r de o Fannau Brycheiniog, ac ewch am Langadog, sydd ychydig i'r gogledd ohonynt (neu i'r gwrthwyneb).

6. Beth am dretio eich cariad?

Ewch am dro hamddenol o amgylch siopau Sir Gaerfyrddin. Mae ein trefi marchnad bywiog yn llawn o siopau chwaethus unigryw sy'n adlewyrchu'r bywiogrwydd hudolus hwnnw.

7. Cwtsio

Ymlaciwch yn rhai o lefydd moethus Sir Gâr.

8. Coffi yng Nghartref Dylan Thomas

Cafodd un o'n beirdd amlycaf Dylan Thomas ei swyno gan aber disgleiriog afon Taf, felly mae'n sicr o wneud argraff ar eich cariad.

9. Triniaethau sba i ddau?

Gallwch ymlacio a mwynhau eich hunan yn llwyr yng Nghlwb Iechyd a Sba Monks, ac yna i orffen beth am gael pryd bendigedig yn y bwyty sy'n edrych dros y cwrs golff ysblennydd gyda golygfa o'r môr sy'n newid yn barhaus?

10. Yr Awyr Dywyll

Beth am wireddu eich breuddwydion a threulio noson gyda'r sawl sy'n annwyl i chi o dan wybren dywyll Sir Gâr.