Lawrlwytho map Lawrlwythwch daflen Ffordd Wledig y Porthmyn (pdf)
Caerfyrddin
Dechreuwch drwy fynd am dro yng Nghaerfyrddin; tref hynaf Cymru yn ôl y sôn. Bellach yn ganolfan fasnachol brysur, nid nepell o ganol y dref mae porthdy'r castell, a ailadeiladwyd yn 1409 ar ôl i Owain Glyndŵr ddinistrio'r un oedd yno cynt.
O Faes Nott, sef safle'r farchnad ganoloesol, ewch lawr Heol y Santes Fair i gyrraedd y farchnad dan do boblogaidd.
Nawr gyrrwch i'r gorllewin o ganol y dref ar hyd y B4312 rhwng tai crand Heol Picton, yng nghysgod y gofeb i Thomas Picton, un o arwyr Rhyfeloedd Napoleon (roedd Picton hefyd yn gaethfeistr creulon). Ar waelod Rhiw'r Gofeb, dilynwch y B4312 a gwyro i'r chwith tua'r de-orllewin i Lan-gain a thu hwnt.
Llansteffan
Parciwch islaw castell trawiadol Llansteffan sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, wrth aber tywodlyd afon Tywi. Mae tai tlws yn wynebu'r traeth, ac rydych yn siŵr o gael eich temtio gan yr arogl fydd yn dod o stondin Pysgod a Sglodion enwog Florries. Cerddwch ar hyd y traeth yng nghwmni'r gwylanod, y morfrain, a phïod y môr i fwynhau golygfeydd dros yr aber tuag at Lanyfferi a Bae Caerfyrddin.
Dilynwch y B4312 i'r gorllewin, allan o'r pentref, gan fynd heibio'r Old Pound Gallery, sydd mewn adeilad crwn, melyn, anarferol yr olwg, yn ymyl tŵr carreg sgwâr Eglwys Sant Steffan. Ewch ar hyd y ffordd gul, droellog i Lan-y-bri; mae'r cloddiau a'r gwrychoedd uchel yn rhoi'r argraff bod pobl wedi bod yn troedio'r lonydd hyn ers canrifoedd – ac mae'n siŵr fod hynny'n wir.
Cofiwch edrych i'r chwith i weld golygfeydd gwych o aber afon Taf a Thalacharn, a chadwch lygad am y meini hirion a henebion eraill mewn caeau cyfagos: yn annisgwyl efallai, ceir nifer o greiriau Neolithig yn y rhan fach hon o Sir Gâr.
Sanclêr
I'r gogledd o Langynog, ymunwch â ffordd ddeuol yr A40 am ychydig i'r gorllewin hyd at Sanclêr. Yn y dref fach groesawgar hon: mae Y Gat / The Gate mewn hen felin a adeiladwyd o gerrig. Er mai prin yw gweddillion y castell mwnt a beili i'r de o'r dref, fe welwch atgofion eraill o hanes yr ardal yma. Mae symbolau ar waith haearn a meinciau yn dwyn i gof hanes y Brenin Arthur yn hela'r Twrch Trwyth, ac mae cerflun Terfysgoedd Beca yn coffau'r rhan fu gan y dref ym mhrotestiadau'r 1840au yn erbyn codi tollau ar deithwyr (yn cynnwys porthmyn) a ddefnyddiai ffyrdd y rhanbarth.
Taith fer i Landdowror
Dafliad carreg i'r de-orllewin o Sanclêr mae Llanddowror. Yma mae'r hen loc, lle cedwid da byw dros nos, a gwesty Picton House – tafarn o ddyddiau'r goetsh fawr y mae rhannau o'r adeilad yn dyddio o 1630 – yn adrodd cyfrolau am fywydau'r porthmyn a theithwyr eraill.
Talacharn
Mae Stryd Fawr Sanclêr (A4066) yn arwain i'r de i hyfrydwch Talacharn. Yn fwyaf adnabyddus fel cartref olaf a man gorffwys y bardd Dylan Thomas, byddai'r pentref yn fan digon swynol hyd yn oed heb ei gysylltiadau llenyddol amlwg.
O'r maes parcio islaw adfeilion trawiadol y castell ar y clogwyn, mwynhewch olygfeydd aber afon Taf, gan wrando ar bïod y môr yn chwibanu a synau'r caiacwyr yn symud yn llyfn drwy'r dŵr. Dilynwch y llwybr i'r gogledd, gan fynd o gwmpas cragen wag y castell, a dringo'r grisiau i fyny at sied ysgrifennu Dylan Thomas, sydd wedi'i dodrefnu'n union fel yr oedd pan ysgrifennodd Under Milk Wood yno. Daliwch ati hyd nes cyrraedd y 'Boat House', lle'r oedd Dylan yn byw gyda'i wraig, Caitlin, yna dringwch i Stryd y Brenin a'i hadeiladau Sioraidd. Yfwch beint yn hoff dafarndy Dylan, Gwesty Browns, neu dewiswch o blith sawl coffáu a thafarn arall sydd ar hyd y ffordd ac i lawr ar sgwâr Y Mâl.
Traeth Pentywyn
Lle mae afonydd Tywi a Thaf yn uno wrth lifo i Fae Caerfyrddin, mae ehangder Traeth Pentywyn heddiw yn denu cerddwyr a cherddwyr cŵn i fan lle bu arloeswyr moduro ar un adeg yn cystadlu i dorri record cyflymder y byd ar dir. Rydych yn cyrraedd Pentywyn ar yr A4066 o Dalacharn, ac mae'r traeth saith milltir sy'n ymestyn i'r dwyrain yn syfrdanol, yn enwedig pan fydd llewych yr haul yn pefrio ar y tonnau bâs. Cyn hir, bydd amgueddfa newydd Traeth y Gwibwyr yn dathlu'r arloeswyr mentrus hynny, a bydd golygfa werth chweil o'r eco-hostel fydd yno. Mae bwyty Asiaidd da iawn yma hefyd – yn ogystal â hufen iâ a physgod a sglodion wrth gwrs.
Hendy-gwyn ar Daf
Ewch tua'r gogledd-orllewin gan adael yr arfordir ar hyd y B4314, drwy bentrefi Rhos-goch a Thafarnspeit; dyma i chi gefn gwlad godidog. Yn Nhafarnspeit, trowch i'r B4328 i Hendy-gwyn ar Daf. Heddiw mae'n dref dawel, fach, ac yn lle da i siopa am nwyddau, ond yn y 10fed ganrif hwn oedd y man lle aeth Brenin Cymru, Hywel Dda ati i lunio cyfres o gyfreithiau ar gyfer Cymru. Caiff hyn ei gydnabod yng Nghanolfan Hywel Dda a'r gerddi coffa heddychlon yn ei hymyl.
Gellir cyrraedd gogledd Sir Gâr yn hwylus ar yr A40 a'r A478, ond mae Ffordd Wledig y Porthmyn yn bwrw tua'r gogledd-ddwyrain i berfeddion cefn gwlad. Arhoswch am ennyd yn Abaty Hendy-gwyn, lle mae amlinell lom yn datgelu muriau a safle eglwys abaty o'r 12fed ganrif.
Cenarth
Cadwch fynd i'r gogledd heibio i Winllan Jabajak – cysylltwch ymlaen llaw i drefnu ymweliad a sesiwn blasu – a beth am ystyried taith ar hewlydd bach y wlad i brynu cawsiau Perl Las, Dôl Las, a Pherl Wen yng Nghaws Cenarth. Ond gofalwch eich bod yn neilltuo amser i fwynhau rhaeadrau a phentref bach hanesyddol Cenarth.
Bwyta
Ble i fwyta ac yfed ar hyd y llwybr
> The Warren
> Mol’s Bistro
> Ferryman Deli
> Roadhouse
> Ty Te Cenarth
Gorffwys
Ble i aros dros nos
> Spilman Hotel
> Sticks Inn, lansteffan
> Browns Hotel
> Jabajaks
Ailwefru
Pwyntiau gwefru trydan ar hyd y llwybr. Rydym yn ychwanegu mwy o daliadau at ein rhwydwaith. Rydym yn eich annog i ddefnyddio ein Map Zap isod i:
> dod o hyd i dâl yn agos atoch chi
> gweld y taliadau sydd ar gael