English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Lawrlwytho map                      Lawrlwythwch daflen Ffordd Wledig y Porthmyn (pdf)

Cenarth

Ar y ffin â Cheredigion, mae Cenarth yn llecyn prydferth iawn sy'n enwog am ei rhaeadrau ar afon Teifi. Yn ymyl y rhaeadrau, dathla Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl y cwch bach traddodiadol o groen anifail neu gynfas diddos wedi'i ymestyn dros ffrâm helyg wedi'i wau. Mae'r cwrwgl wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn y parthau hyn ers tro byd i bysgota sewin (brithyll y môr).

Cerddwch lan i'r pentref i fwrw golwg ar yr Ale House, sef bwthyn gwyngalchog o gerrig ar bwys tafarn y Tair Pedol, gyferbyn â'r efail. Gerllaw gwelir hen gwrwgl yn hongian y tu allan i dafarn y White Hart, sef hen adeilad gwyngalchog arall o gerrig, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif.

Castellnewydd Emlyn

Wrth yrru i'r dwyrain ar yr A484, byddwch yn dilyn ystumiau afon Teifi drwy dwnnel o goed, a rholiwch y ffenestri i lawr i fwynhau'r awyr iach ar eich ffordd i Gastellnewydd Emlyn.

Saif y castell mewn man amlwg uwchlaw un o droeon afon Teifi, a'r porthdy o'r 14eg ganrif sydd fwyaf nodedig erbyn heddiw o ran yr hyn sy'n weddill. Yn ôl y chwedl, yn y fan hon cafodd y ddraig olaf yng Nghymru - y Wiber - ei lladd, ac mae cerflun o ddraig sydd wedi'i wneud o bren yn cadw llygad ar y dyffryn islaw.

Mae'r farchnad da byw fawr yn adleisio gorffennol a ddaeth â chyfoeth i'r dref am ganrifoedd, gan fod hwn yn fan aros pwysig ar lwybr y porthmyn o orllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i Lanymddyfri. Byddai tafarnau di-ri wedi bod yno ar un adeg, yn gwasanaethu porthmyn ac eraill oedd yn ymwneud â'r farchnad. Mae sawl tafarn yno o hyd, ac yn eu plith mae Gwesty'r Emlyn, sydd bellach yn cynnwys deli Petit Biarritz Basque. Cadwch lygad am Neuadd Cawdor gerllaw, adeilad marchnad lle mae tŵr y cloc, sy'n gartref i ganolfan Hanes Emlyn a Theatr yr Atig.

Taith fer i Henllan a Dre-fach Felindre

Os ewch chi yn eich blaen i'r dwyrain ar hyd glan ddeheuol Afon Teifi, rhyw hanner milltir i'r gogledd o'r ffordd fawr mae rheilffordd gul Dyffryn Teifi yn Henllan, a thua'r un pellter i'r de mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre. Y tu hwnt i'r troad am Henllan, cymerwch y B4335 a glynu wrth yr afon cyn i'r ffordd ddringo o'r dyffryn yn y pen draw, i ddatgelu golygfeydd o fryniau mwy garw tua'r dwyrain.
I'r dwyrain o Lanfihangel-ar-arth, mae'r ffordd yn gwyro i'r gogledd drwy bentref hir Llanllwni ac mae llethrau Mynydd Llanllwni i'r dwyrain i'w gweld rhwng y bylchau yn y cloddiau a'r tai – i Lanybydder. Ddwy ganrif yn ôl, byddai'r strydoedd wedi atseinio i sain carnau'r gwartheg a chri'r porthmyn, ond bellach pentref tawel arall ydyw yn harddwch y Sir Gâr wledig, sydd â'i dafarndai wedi diflannu i bob pwrpas.

O Gwm-ann, ychydig i'r de o Lanbedr Pont Steffan, trowch i'r de-ddwyrain i'r A482 ac yna fforchio cyn pen dim i'r chwith wrth hen dafarn y Ram Inn, sef adeilad gwyngalchog o'r 16eg ganrif, i deithio ar lonydd serth a throellog. Â'r cloddiau'n uchel ar bob llaw, wedi'u haddurno gan redyn a mwsogl, a'r bryniau fel petaent yn cau amdanoch, rydych bellach ar eich ffordd i wlad y porthmyn go iawn. Cymerwch bwyll, nid yn unig am fod y lonydd yn droellog ac yn gul, ond hefyd am fod y golygfeydd i'r dwyrain tuag at fryniau deheuol Mynyddoedd y Cambria yn syfrdanol

Ffarmers

Arhoswch am ychydig yn Ffarmers, a enwyd ar ôl tafarn y Farmers' Arms, sydd bellach wedi cau. Heddiw mae'r pentref bach hwn yn gartref i'r Drovers' Arms, sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned, a byddai'r dafarn hon wedi bod yn lle hoff gan borthmyn gwydn y dyddiau a fu. Mae'n debyg bod y tŷ crand gyferbyn – hen siop y pentref – hefyd yn dafarn ar un adeg; roedd y perchnogion stoc cyfoethog yn yfed yma tra bo'r porthmyn cyffredin yn yfed yn y dafarn symlach ar draws y ffordd.

I'r de o Ffarmers, wrth fynd i ailymuno â'r A482, mae'r ffordd yn rhyfedd o syth – sy'n amlygu ei gwreiddiau fel ffordd Rufeinig, a adeiladwyd i gysylltu caerau ym Moridunum (Caerfyrddin) a mannau eraill yng Nghymru â'r mwyngloddiau aur cyfagos. Nid yw'n syndod i'r porthmyn hefyd ddilyn y llwybr defnyddiol hwn, er iddynt orfod talu am y fraint erbyn y 19eg ganrif – mae'r tolldy, sydd bellach yn dŷ preifat, yn dal i sefyll ar y ffordd i'r gogledd o Bumsaint.

Pumsaint a Dolaucothi

Yn y pentref bach hwnnw, gyferbyn â'r Dolaucothi Arms, mae'r hen efail, a sefydlwyd yn 1756. Ymhell cyn iddo ddod yn fan aros pwysig i'r porthmyn, roedd ffawd Pumsaint ynghlwm wrth Fwyngloddiau Aur Dolaucothi. Mae gwaith cloddio wedi bod yn digwydd yno ers cyfnod y Rhufeiniaid, a chodwyd Pumsaint ar safle caer Rufeinig Luentinum. Heddiw gallwch grwydro'r mwyngloddiau, sydd oddi ar yr A482 ac yn cael eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar daith dywysedig.

Caio

Wedi mynd heibio i Ddolaucothi, cadwch i fynd ar hyd ffyrdd serth, cul i Caio. Dyma fan pwysig arall ar un adeg ar gyfer masnachu da byw, sydd bellach yn bentref bach lliwgar mewn dyffryn cuddiedig â hen eglwys draddodiadol.

Taith fer i Randir-mwyn
Mae cryn dipyn o esgyn a disgyn y tu hwnt i'r man hwn, ac rydych yn siŵr o weld barcutiaid coch yn hofran oddi fry cyn cyrraedd Dyffryn Tywi i'r gogledd o Lanymddyfri. Wedi croesi pont garreg gul Dolauhirion ar gyrion y dref, mae taith arall i'w dilyn: trowch i'r chwith i ddilyn afon Tywi i Randir-mwyn, lle mae bryniau coediog ar y naill ochr a'r llall, er mwyn darganfod rhai o'r golygfeydd mwyaf gogoneddus yng ngorllewin Cymru.

 

Llanymddyfri

Fel arall, trowch i'r dde i gyrraedd Llanymddyfri – calon gwlad y porthmyn. Hyd yn oed heddiw, mae'r arwerthiant da byw wythnosol yn fusnes mawr, ac mae gan y dref atgofion lu o dreftadaeth y porthmyn. Nid oes rhyw lawer yn weddill o'r castell o'r 13eg ganrif, sy'n cael ei warchod gan gerflun unigryw o ŵr sy'n cynrychioli gwrthsafiad y Cymry, sef Llywelyn ap Gruffydd Fychan.

Gerllaw, gyferbyn â Gwesty'r Castell a'r tu allan i amgueddfa Llanymddyfri, saif cerflun arall: porthmon barfog llond ei groen yn gwisgo côt hir, het a ffon – pob modfedd ohono'n ddyn cefn gwlad annibynnol, gwydn. Yn y Kings Head, gyferbyn â'r hen farchnad, sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn 1799, gan ddarparu gwasanaethau ar gyfer porthmyn; agorwch y drws i weld y ffrâm pren hynafol. Heddiw mae gan y dref amryw lefydd atyniadol i aros, bwyta ac yfed ynddynt – rhowch gynnig ar y Bear Inn am ddanteithion llysieuol, Gwesty'r Castell am fwyd tafarn o safon, neu La Patisserie am gacennau ardderchog.

Llanymddyfri

Fel arall, trowch i'r dde i gyrraedd Llanymddyfri – calon gwlad y porthmyn. Hyd yn oed heddiw, mae'r arwerthiant da byw wythnosol yn fusnes mawr, ac mae gan y dref atgofion lu o dreftadaeth y porthmyn. Nid oes rhyw lawer yn weddill o'r castell o'r 13eg ganrif, sy'n cael ei warchod gan gerflun unigryw o ŵr sy'n cynrychioli gwrthsafiad y Cymry, sef Llywelyn ap Gruffydd Fychan.

Gerllaw, gyferbyn â Gwesty'r Castell a'r tu allan i amgueddfa Llanymddyfri, saif cerflun arall: porthmon barfog llond ei groen yn gwisgo côt hir, het a ffon – pob modfedd ohono'n ddyn cefn gwlad annibynnol, gwydn. Yn y Kings Head, gyferbyn â'r hen farchnad, sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn 1799, gan ddarparu gwasanaethau ar gyfer porthmyn; agorwch y drws i weld y ffrâm pren hynafol. Heddiw mae gan y dref amryw lefydd atyniadol i aros, bwyta ac yfed ynddynt – rhowch gynnig ar y Bear Inn am ddanteithion llysieuol, Gwesty'r Castell am fwyd tafarn o safon, neu La Patisserie am gacennau ardderchog.

Bwyta 

Ble i fwyta ac yfed ar hyd y llwybr

> Riverside Café

> Royal Oak

> The Bear, Llandovery

> Myddfai Community Centre

Gorffwys

Ble i aros dros nos

> Emlyn Hotel, Newcastle Emlyn

> Brynglas Cottage, Rhandirmwyn

> Drovers B&B, Llandovery

Ailwefru 

Pwyntiau gwefru trydan ar hyd y llwybr. Rydym yn ychwanegu mwy o daliadau at ein rhwydwaith. Rydym yn eich annog i ddefnyddio ein Map Zap isod i:

> dod o hyd i dâl yn agos atoch chi

> gweld y taliadau sydd ar gael

Mynediad Zap map

Ffordd Wledig y Porthmyn

Cam tri