English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae tref fechan Sanclêr yn gorwedd yng nghornel dde-orllewinol Sir Gaerfyrddin, oddeutu 8 milltir o Gaerfyrddin ei hun. Saif oddi ar briffordd yr A40 ychydig cyn y gyffordd â'r A477. Mae hyn yn ei gwneud yn lle delfrydol i dorri’r daith a threulio ychydig oriau. Ar gyfer cerddwyr, mae Sanclêr wedi ei lleoli ar Lwybr Arfordirol Cymru, ac mae'n llecyn poblogaidd i gael seibiant rhwng Llansteffan a Thalacharn.

Gwêl ymwelwyr amrywiaeth o siopau annibynnol, lleoedd i fwyta yn ogystal â thafarndai lleol.

Er mwyn dod i adnabod Sanclêr yn well, fe wnaethom ofyn i Olive Bowen ac Yvonne Griffiths Rogers, perchnogion siop leol, ddweud ychydig mwy wrthym am eu Mae Olive ac Yvonne yn rhedeg siop fach annibynnol yn y dref - Pethau Olyv. Yma fe ddewch o hyd i ddillad, bagiau llaw a gemwaith hardd, cewch hefyd roi cynnig ar eu coffi a'u cacennau. Cyn-nyrsys seiciatryddol yw Olive ac Yvonne, sydd wedi troi'n entrepreneuriaid. Maent hefyd wrth eu bodd yn siarad am Sanclêr. Mae enw’r siop, Pethau Olyv, yn adlewyrchu cymeriad Cymreig y gymuned hon yn agos i’r ffin â Sir Benfro. Byddwch yn aml yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn y siopau a'r tafarndai lleol.

Roedd Olive ac Yvonne yn awyddus i esbonio, pan fyddwch yn ymweld â'r dref, eich bod yn cael dwy Sanclêr am bris un. Mae prif ran y dref ac mae hefyd Sanclêr Isaf, lle mae Afon Cynin yn cyfarfod Afon Taf, wrth iddi wneud ei ffordd i Fae Caerfyrddin, oddeutu 7 cilometr i’r de. Mae Llwybr Arfordirol Cymru yn dilyn yr afon i Dalacharn, tref yr aber a enwogwyd gan Dylan Thomas, y bardd a'r awdur o Gymru. Gellir dod o hyd i gysylltiadau Sanclêr â'r môr wrth gei'r dref, lle mae paneli yn adrodd stori Porthladd Sanclêr, glan yr afon a'r glanfeydd, a fodolai yn ystod y 19eg ganrif ac oedd yn dal i gael eu defnyddio yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Hefyd yn Sanclêr Isaf, fe welwch eglwys hardd y Santes Fair Magdalen. Codwyd yr adeilad rhestredig Gradd II hwn yn y 12fed Ganrif gan y teulu St Clare Normanaidd. Cafodd ei rhestru oherwydd bod yr eglwys ganoloesol, sydd wedi cael ei hadfer, yn cynnwys rhai o'r enghreifftiau gorau o gerfiadau Normanaidd yn y sir. Mae Castell Sanclêr gerllaw ac mae’n enghraifft hynod o gynllun mwnt a beili’r 12fed ganrif. Sonnir amdano hyd yn oed yng ngweithiau Gerallt Gymro, y teithiwr a’r hanesydd canoloesol.

Terfysgoedd a Chwedlau

Cysylltir Sanclêr yn agos â Therfysgoedd enwog Rebecca. Gwrthryfel y bobl oedd hwn i brotestio yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder. Tollau ar ffyrdd a phontydd oedd y prif reswm dros y terfysgoedd a ddigwyddodd yn rhannau gwledig gorllewin Cymru rhwng 1839 a 1843. Yn ystod y terfysgoedd, ymosododd dynion, wedi eu gwisgo fel merched, ar y tollbyrth. Galwent eu hunain yn ‘Rebecca a'i merched'. Yn 1842 dinistriwyd tollborth ar y Ffordd Galch yn Sanclêr. Caiff y digwyddiad hwn ei goffáu mewn cerflun wedi'i lifoleuo sy'n sefyll yn Sanclêr yn agos i’r tollborth gwreiddiol. Mae'r bobl yn y cerflun wedi'u cerfio allan o foncyff cedrwydd 120 mlwydd oed. Mae'n lleoliad gwych ar gyfer llun i gofio'ch ymweliad â'r dref.

Gerllaw, yng Nghanolfan Grefftau’r Porth, fe welwch lu o grefftau lleol. Cewch gymryd set o glustffonau fydd yn eich tywys ar hyd Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr. Dywed Olive ac Yvonne wrthym fod hon yn ffordd wych o ddysgu mwy am y dref. Gan ddilyn ffyrdd a llwybrau cyhoeddus, mae'r llwybr 1.5 milltir yn cysylltu 12 safle hanesyddol ac yn mynd â chi heibio i ddigonedd o siopau a lleoedd i fwyta, os bydd arnoch angen gorffwys eich coesau.

Mae'n hawdd dilyn y llwybr oherwydd ei fod wedi'i farcio ag arwydd baedd, anifail a ddewiswyd oherwydd ei fod yn symbol pwysig mewn llên gwerin Geltaidd. Mae’r Twrch Trwyth yn gysylltiedig â chwedl Culhwch ac Olwen yn y Mabinogi - straeon rhyddiaith cynharaf llenyddiaeth Prydain, ac â'r Brenin Arthur chwedlonol. Menter gan Gyngor Tref Sanclêr yw Llwybr Treftadaeth y Dref ac mae'n dangos pa mor awyddus yw pobl y dref i groesawu ymwelwyr ac i adrodd hanes y dref.

Cymeriad y Dref a’i Phobl

Pwysleisiai Olive ac Yvonne wrthym mor groesawus yw’r dref. Maen nhw'n dweud bod ymwelwyr yn gweld Sanclêr yn gyfeillgar ac yn hamddenol iawn. Pa amser bynnag o'r flwyddyn y byddwch yn dewis ymweld, mae'r croeso yn y siopau a'r tafarndai lleol bob amser yn gynnes. Fel y dywed Yvonne “Mae fel camu yn ôl i amser pan oedd pawb yn adnabod ei gilydd. A sôn am dafarndai, fe welwch dair yn y dref - y Corvus, y Savoy a'r Llew Du, ac fel y dywed Yvonne, “Rydyn ni’n cael ein difetha gan y dewis o fwyd a diod yn Sanclêr.”

Dyma lle rydych chi'n debygol o ddod o hyd i gymeriadau'r dref. Dywedodd Olive wrthym “Mae yna lwythi!” ond siaradai’n annwyl iawn am Ted Gammage. Gellir gweld Ted o amgylch y dref ar ei sgwter trydan ac, yn ôl Olive, “Mae wedi cymryd lle’r papur newydd lleol gyda’i fwletinau bob dydd a gyda’r nos. Os oes arnoch chi eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn Sanclêr - gofynnwch i Ted."

Ymweld ag un, cael un am ddim.

Mae Olive ac Yvonne yn rhedeg siop fach annibynnol yn y dref - Pethau Olyv. Yma fe ddewch o hyd i ddillad, bagiau llaw a gemwaith hardd, cewch hefyd roi cynnig ar eu coffi a'u cacennau. Cyn-nyrsys seiciatryddol yw Olive ac Yvonne, sydd wedi troi'n entrepreneuriaid. Maent hefyd wrth eu bodd yn siarad am Sanclêr. Mae enw’r siop, Pethau Olyv, yn adlewyrchu cymeriad Cymreig y gymuned hon yn agos i’r ffin â Sir Benfro.

Awgrymiadau Olive ac Yvonne

Y Lle Gorau i fynd am Dro - y tro ar hyd glan yr afon i Sanclêr Isaf ac ymlaen i Dalacharn.

Yr hyn y mae’n rhaid i Ymwelwyr ei Wneud - dilyn Llwybr Treftadaeth sain y dref.

Y Lle i Dynnu Llun - cerflun Terfysgoedd Rebecca

Y Trysor Cudd - Sanclêr Isaf

Eu Ffefryn Personol - Rhowch gynnig ar bastai arobryn o siop Gigydd Deuluol Deri Page

Y Lle i gael Lluniaeth - Bistro Mols     

Sanclêr

Aros