English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae Caerfyrddin ar lannau Afon Tywi, tua 8 milltir cyn i'r afon hardd hon lifo i Fae Caerfyrddin. Yma mae afon hiraf Cymru yn afon lanwol o hyd, a dyna pam mai Caerfyrddin oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru ar un adeg. Dros y canrifoedd mae'r afon wedi llunio hanes y dref, gan ddarparu amddiffyniad, cyfleoedd hamdden a bywoliaethau.

Mae pobl wedi pysgota yn Afon Tywi o gwryglau yng Nghaerfyrddin ers cyn i'r Rhufeiniaid ddod. Erbyn hyn, ychydig iawn o bysgotwyr mewn cwryglau sydd ar ôl ond mae hi dal yn bosibl eu gweld yn pysgota am eog a sewin yng nghwryglau traddodiadol Caerfyrddin.

Dywed rhai mai Caerfyrddin yw tref hynaf Cymru, ac mae ganddi hanes cyfoethog a lliwgar. Heddiw mae Caerfyrddin yn parhau i fod yn dref sirol ac mae Neuadd y Sir yn sefyll yn falch uwchben Afon Tywi wrth ochr Castell Caerfyrddin. Mae ymweliad â'r dref yn rhywbeth y dylai pob un ymwelydd â'r sir gael profiad ohono. Darllenwch isod i ddarganfod beth fyddwch yn dod o hyd iddo.

Dod o hyd i'r hud a lledrith

Un o drigolion cynnar enwocaf Caerfyrddin oedd y dewin Myrddin. Gan fod Caerfyrddin yn golygu caer Myrddin, mae llawer o bobl yn credu bod y dref wedi ei henwi ar ôl dewin y Brenin Arthur. Mae Llyfr Du Caerfyrddin - y llawysgrif hynaf a ysgrifennwyd yn gyfan gwbl yn y Gymraeg - yn cynnwys cerddi am Myrddin.

Un o'r chwedlau am Myrddin a Chaerfyrddin yw hanes Derwen Myrddin. Roedd wedi'i lleoli ger Heol y Prior yng nghanol y dref ac mae'r chwedl yn awgrymu, pe bai'r goeden yn cwympo, y byddai trychineb yn digwydd yn y dref. Er iddi gwympo, mae Caerfyrddin yn dal i ffynnu heddiw.

Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili gerllaw yw'r lle gorau i ddysgu mwy am orffennol y dref. Yn ogystal â chwedlau Arthuraidd, gall ymwelwyr ddysgu am gysylltiad y dref â'r Brodyr Llwyd, ei chyfnod yn gadarnle y Demetiaid Celtaidd, ei rôl ganolog yn natblygiad Siartiaeth yng Nghymru, a'i gorffennol Rhufeinig. Er bod llawer o'r dystiolaeth o Moridunum - enw Caerfyrddin fel Caer Rufeinig - o dan strydoedd y dref, gellir gweld olion yr amffitheatr, sef yr un fwyaf gorllewinol yn yr Ymerodraeth Rufeinig, hyd heddiw.

Pleser i Siopwyr

Mae Caerfyrddin yn dref farchnad ers y cyfnod Rhufeinig ac mae'r farchnad dan do fodern yn gwerthu popeth o gelf a chrefft i fwyd a diod leol chwe diwrnod yr wythnos. Ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, mae'r farchnad awyr agored yn dod i'r dref ac, ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, mae'r farchnad ffermwyr yn denu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Y tu hwnt i'r farchnad, mae Caerfyrddin yn llawn siopau annibynnol diddorol ac yn cynnig cyfleoedd siopa fel y dylent fod.

Ar Heol y Brenin, fe welwch Oriel Heol y Brenin. Dyma oriel dan arweiniad artistiaid sy'n dangos celfyddyd gain, cerameg, ffotograffiaeth, gwydr lliw, turnio coed, tecstilau a cherfluniau. Mae llawer o'r artistiaid wedi eu lleoli yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r holl waith ar gael i'w brynu

Trysorau o'r oes a fu

Mae chwilio am drysorau o'r oes a fu a hen bethau yn apelio at lawer o ymwelwyr ac, yng Nghaerfyrddin, mae yna lawer o lefydd i ddod o hyd i ddarn unigryw i fynd ag atgofion o Sir Gaerfyrddin adref gyda chi. Mae Found and Seek yn arbenigo mewn pethau unigryw, anghyffredin, gwreiddiol a diddorol. Yn ogystal ag eitemau o'r oes a fu a hen bethau, fe welwch eitemau wedi'u gwneud â llaw gan wneuthurwyr o bob cwr o Gymru. Gallwch hyd yn oed ddysgu gwneud rhywbeth eich hun. Ar benwythnosau, mae'r busnes teuluol hwn yn cynnig cyrsiau gof yn Sanclêr gerllaw.

Mae Canolfan Antîcs Caerfyrddin ar Heol y Prior yn llawn o hen bethau, eitemau i'w casglu, eitemau retro ac eitemau o'r oes a fu. Ac, os ydych chi'n mynd am dro o amgylch y dref, mae mannau tebyg i'w darganfod o amgylch pob cornel. Cadwch lygad am Second Hand Rose, The Old Curiosity, Audrey Bell Antiques a llawer mwy. Mae gan Lwybr Hen Bethau a Nwyddau Ail Law Sir Gaerfyrddin awgrymiadau ynghylch chwilio am drysorau ar draws y sir.

Ar y fwydlen

Ar ôl chwilio am hen drugareddau, bydd arnoch angen rhywbeth i'w fwyta neu i'w yfed, felly efallai yr hoffech roi cynnig ar fwyty The New Curiosity ar Heol y Brenin. Mae'n cael ei redeg gan Dan a Rachel Williams, sy'n bâr priod, ac mae'r cynnyrch sy'n cael ei gynnwys yn eu prydau yn ffres ac yn lleol, gan gynnwys pysgod o Afon Tywi a chig oen morfa heli o Benrhyn Gŵyr gerllaw.

Caiff bwyd llysieuol a fegan ei weini mewn sawl man o gwmpas y dref.  Mae opsiynau llysieuol blasus yn The Warren. Mae'r caffi/bwyty teuluol hwn, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn hybu bwyd syml, gonest ac iachus, ac maen nhw'n driw i'w gair. Mae gan Waverley Stores yn Heol Awst fwyty llysieuol a fegan hefyd.

 

Fe welwch chi lefydd gwych i fwyta yn yr ardal wledig o gwmpas Caerfyrddin hefyd. Mae Y Polyn wedi'i leoli ar hen ffordd porthmyn yn Nyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Yma mae'r awyrgylch yn anffurfiol, ond mae'r bwyd o'r safon orau. Mae bron bopeth yn lleol ac yn cael ei wneud ar y safle. Mae'r fwydlen yn newid yn ddyddiol ond gallwch bron bob amser fwynhau tatws Dauphinoise enwog Y Polyn.

Mae'r cawsiau yn Y Polyn yn cael eu cyflenwi gan Blasus Delicatessen yng Nghaerfyrddin. Mae'r enw Blasus yn addas iawn i'r siop fwydydd hon. Yn eiddo i Paul a Delyth, maen nhw'n arbenigwyr mewn bwyd a gwin da. Unwaith eto, mae llawer o'r cynnyrch yn lleol - fel mêl Cilgwenyn Bee Farm yn Llangennech.

Argymhellion

Cyfle i dynnu llun – Yr olygfa i lawr Dyffryn Tywi o gastell Caerfyrddin.

Rhywbeth y mae'n rhaid i ymwelwyr ei wneud – Mynd i chwilio am drysorau yn y siopau eitemau o'r oes a fu a hen bethau yn y dref.

Hanes Rhyfeddol – cysylltiadau Caerfyrddin â'r dewin Myrddin a chwedl Arthuraidd.

Y Trysor Cudd – Yr amffitheatr fwyaf gorllewinol yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Ffefryn Personol – Chorizo mewn crwst pwff yn Blasus.

Lle i gael lluniaeth – Y Sied yn Rhodfa'r Santes Catrin am grempogau blasus.

Caerfyrddin

Pethau i’w gwneud