

Grey Alders
Cig eidion a chig dafad Cymreig, seidr sych a sebon cartref yn uniongyrchol o'r fferm. Rydym yn hongian ein cig dafad yn yr oerwr am 42 diwrnod a'n cig eidion o wartheg sy'n cael eu bwydo ar laswellt am 56 diwrnod. Mae ein seidr Tafod Teilo yn 6% abv. Mae'r siop fferm ar agor chwe diwrnod yr wythnos.
Ble i ddod o hyd i ni
Wernlwyd,Pen-y-bont,Caerfyrddin,SA33 6QN

Stacey's Kitchen
Coffi arbenigol ac amrywiaeth arbennig o gacennau. Ciniawau ysgafn fel ciabattas a byrddau pigo. Bwyd tymhorol wedi'i wneud o gynnyrch o'n gardd furiog ein hunain. Tiroedd hardd i fynd am dro bach (i losgi calorïau'r cacennau). Yn croesawu cŵn.

Sloppy Joes Streetfood Hq
Rydym yn fwyty Bwyd Stryd sy'n croesawu teuluoedd yng nghanol tref Caerfyrddin. Gyda dewisiadau fel Fat Cow Patties, Pork Bon Bons a Mac Fries ynghyd â Slushies i'r Plant. Bar â thrwydded lawn, Penwythnosau o Gerddoriaeth Fyw a 22 math o Hufen Ia o Gymru

Fortunes Valley Ltd
Bwyty a chludfwyd Tsieineaidd Fortune House
Cysylltwch â ni
Ble i ddod o hyd i ni
2 Priory Street, Carmarthen, Wales, SA31 1LS

The Warren
Bwyty/Caffi teuluol yw The Warren sydd wedi ennill sawl gwobr, sy'n cael ei redeg ar sail gynaliadwy ac sy'n gweithredu 100% ar Ynni Adnewyddadwy. Mae'n gweini bwyd syml, gonest ac iachus sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol, tymhorol ac organig.
Ble i ddod o hyd i ni
The Warren 11 Mansel Street Carmarthen SA311PX

HMY
HMY yw man lle daw ein hangerdd am liw, coffi a chymuned at ei gilydd. Mae cymuned wrth wraidd popeth a wnawn. Mae ein baristas proffesiynol yn trawsnewid espresso yn waith celf.
Ble i ddod o hyd i ni
41-45 Richmond Terrace Carmarthen Carmarthenshire SA31 1HG Wales

CWRW
Siop gwrw arbenigol, bar a lleoliad cerdd. Mae'n dod â'r dewis gorau o gwrw yn Sir Gaerfyrddin. Mae ein gofod yn wahanol i unrhyw le arall yng Nghaerfyrddin ac rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau; megis cerddoriaeth, celf a chwrw gwych.
Ble i ddod o hyd i ni
32 King Street SA31 1BS
