English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Boed yn deithiau cerdded ar hyd y traeth neu'n deithiau cerdded mynyddig, mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau ac erwau o gefn gwlad agored yn Sir Gaerfyrddin ichi eu mwynhau gyda'ch ci.

Rydym ni i gyd yn gwybod bod eich cyfaill pedair coes yn mwynhau wâc dda. Mae Sir Gaerfyrddin yn lle delfrydol i unrhyw gerddwr, p'un a ydych yn chwilio am daith gerdded hamddenol ar hyd yr arfordir neu yng nghefn gwlad neu am daith sy'n fwy heriol ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae nifer o'n teithiau cerdded yn haws nag erioed ar gyfer perchenogion cŵn yn sgil gosod sticlau a gatiau sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol sy'n golygu y gallwch chi fwynhau diwrnod didrafferth yn y wlad.

Carreg Cennen

Yn sefyll yn urddasol oddeutu 900 troedfedd uwchlaw Afon Cennen ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, prin y gall unrhyw gastell arall yn Ewrop honni lleoliad mwy ysblennydd na Charreg Cennen. Mae dau lwybr yma y gallwch chi eu dilyn sy’n addas i gŵn. Mae un yn arwain i’r castell ar frig y bryn lle cewch eich rhyfeddu gan y golygfeydd eang a phanoramig. Mae'r llwybr arall yn eich tywys chi o amgylch troed y bryn lle saif y castell ac ar hyd glannau tawel Afon Cennen.

DS: Byddwch yn ofalus o amgylch y defaid a’r gwartheg yn y caeau cyfagos. Dylid cadw cŵn dan reolaeth dynn neu ar dennyn.
Dilynwch yr arwyddion Coch ar gyfer y llwybr hirach a'r arwyddion Melyn ar gyfer y llwybr byrrach.

Mwy o wybodaeth yma

Llyn y Fan Fach

Mae’r ardal wyllt a garw o amgylch Llyn y Fan, ar gyrion dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi bod yn adnabyddus ers canrifoedd. Roedd yn gartref i Feddygon canoloesol Myddfai, meibion Arglwyddes chwedlonol y llyn.

Mae’r daith gerdded heriol 10 milltir o hyd yn mynd â chi o amgylch y llynnoedd lle gellir gweld rhai o'r golygfeydd mwyaf godidog. Dyma ddiwrnod allan gwych i chi a’ch cyfaill gorau.

Mwy o wybodaeth yma

 

 

Parc a Chastell Dinefwr

Ceir yma deithiau cerdded gwych i ymestyn cymalau cŵn a phobl a hynny dros dirweddau bendigedig - taith hamddenol o amgylch gwartheg gwynion y parc er mwyn cael cipolwg ar y gwartheg a’r lloi, neu daith gerdded fwy heriol i fyny at Gastell Dinefwr lle gallwch chi a’ch ci fwynhau golygfeydd o Ddyffryn Tywi. Gallwch hefyd alw yn y ciosg sy'n gwerthu byrbrydau yn y maes parcio. Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hamser yn y parc gofynnir i chi gadw eich ci ar dennyn a chodi ei faw. Yr unig ardaloedd na chaniateir cŵn iddynt (ac eithrio cŵn tywys) yw'r parc ceirw hynafol, y rhodfa bren a Phlas Dinefwr. Mae gan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fwthyn gwyliau yn Ninefwr sef Penparc, sy'n croesawu cŵn. Trwy aros yno gall ymwelwyr gael mynediad hwylus i'r teithiau cerdded hyn sy'n croesawu cŵn.

Mwy o wybodaeth yma 

Rhodfa Glan yr Afon Dyffryn Aman

Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth i fynd am dro ar y penwythnos gyda'ch ci, ond nad ydych chi am fynd i rywle sy'n rhy heriol, mae taith gerdded glan yr afon Dyffryn Aman yn opsiwn perffaith.

Gorffennwch eich taith gerdded gyda chinio neu swper cynnar yn y Llew Coch yn Llandybïe, sy'n gweini bwyd tafarn blasus ac yn rhoi croeso cynnes i gŵn. Fe'ch cynghorir i archebu ymlaen llaw.

Mwy o wybodaeth yma

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli

Yn ymestyn am 13 milltir ddi-draffig mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn nefoedd i gerddwyr cŵn ac yn lle delfrydol i deuluoedd ifanc â chŵn sydd eisiau digon o le i fwynhau eu teithiau cerdded. Lluniwyd y parc drwy drawsnewid tir diwydiannol diffaith yn gyfleuster hamdden ac yn atyniad unigryw i dwristiaid.

Mae St. Elli’s Bay yn dod â blas y Rifiera i Barc Arfordirol y Mileniwm ac mae llwyth o ddewis o hufen iâ yn y gelateria.
Wedi’i leoli yng nghanol y parc mae harbwr Porth Tywyn, yn enwog am ei oleudy, sydd wedi'i leoli ar forglawdd gorllewinol yr harbwr allanol ers 1842. Mae'n un o'r ychydig bethau sy'n ein hatgoffa fod hwn ar un adeg yn ddoc allforio glo pwysig.

Mwy o wybodaeth yma

Llwybr Pen-blwydd Dylan Thomas

Gadwch i'ch ci ddilyn ôl troed Dylan Thomas ar hyd Taith Gerdded ei Ben-blwydd, sydd tua 3 milltir ac yn cynnwys golygfeydd ardderchog o'r aber draw i Benrhyn Gŵyr, Dinbych-y-pysgod, Ynys Bŷr a hyd yn oed mor bell â Gogledd Dyfnaint. Ym 1944, ysgrifennodd Dylan 'Poem in October' am

Mwy o wybodaeth yma