English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Croesawu Cŵn...... Os ydych chi'n chwilio am rywle i fynd am seibiant bach haeddiannol, cofiwch fod angen seibiant bach ar eich ci hefyd. Y gwyliau gorau yw'r rheiny sy'n cael eu treulio yng nghwmni teulu a ffrindiau ac os byddwch chi'n dewis Sir Gâr, does dim angen ichi adael eich ffrind gorau gartre. Petai gwefan TripAdvisor ar gael i gŵn, rydym ni'n siŵr y byddai Sir Gâr yn cael 5 seren ganddyn nhw.

Gan fod Sir Gâr mor agos, does dim angen i'ch ci dreulio gormod o amser yn y car - mae'r antur newydd nesa ar y gorwel. Yma, gellir mynd â'ch ci am wâc ar amrywiol draethau, llwybrau troellog neu goetiroedd. Bydd eich cŵn wedi blino'n lân erbyn diwedd y dydd mae hynny'n ffaith.

Mae nifer o dafarndai, caffis, gwestai ac atyniadau yn Sir Gâr yn rhoi croeso twymgalon i gŵn. Byddai'n annheg iddyn nhw golli allan ar yr hwyl. Sir Gâr - y lle delfrydol i gŵn a'u perchnogion fel ei gilydd.

Dog Friendly things to do

Atyniadau sy'n Croesawu Cŵn

Pam gadael eich ci bach gartref pan allwch chi ddod â'ch ci ar antur hefyd? Mae atyniadau Sir Gâr yn hapus i groesawu cŵn, gan helpu i sicrhau bod eich diwrnodau allan fel teulu yn ddiffwdan! Boed ar drywydd gerddi godidog neu'n cychwyn ar deithiau cerdded yng nghefn gwlad, does dim prinder o hwyl i blesio chi a'ch ci ar ddyddiau allan yn Sir Gâr!

Dog Friendly walks

Teithiau cerdded sy'n croesawu cŵn

Ewch i grwydro amrywiaeth o lwybrau cerdded sy'n addas i chi a'ch ci, gyda digon o le i grwydro a mwynhau harddwch cefn gwlad Sir Gâr.
P'un a ydych chi am fynd am dro hamddenol neu daith gerdded fwy egnïol, mae'r llwybrau hyn sy'n croesawu cŵn yn addas i bawb ac yn cynnwys llawer o dirweddau hardd. Felly, ewch amdani, ac ymgolli yn ysblander naturiol llwybrau cerdded Sir Gâr!
Rydym wrth ein bodd yn gweld lluniau ohonoch chi a'ch ci allan yn Sir Gâr, felly cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar Twitter ac Instagram

Dog friendly beaches

Traethau sy'n croesawu cŵn

Mae traethau Sir Gâr yn parhau i fod ymhlith y llefydd mwyaf poblogaidd yn y sir i ymweld â nhw yn yr haf neu'r gaeaf, ac maent yn berffaith ar gyfer cerdded yn y gaeaf neu grwydro yn yr heulwen yn ystod y misoedd cynhesach! Un o'r pethau gorau am daith i'r traeth yn y gaeaf yw bod cŵn yn cael eu caniatáu ar holl draethau Sir Gâr! Mae'n annhebygol y bydd eich ci yn gwerthfawrogi machlud haul hardd neu am dynnu llun gyda'i ffôn, ond bydd bendant yn hoffi'r amrywiaeth eang o draethau y gall fynd i redeg a cherdded arnynt ac o bosibl nofio ynddynt. Rydym wedi llunio rhestr o'r goreuon.

Cŵn Instagram

Dog friendly beaches

Os ydych chi'n chwilio am y lle delfrydol i ddiddanu eich ci, dyma'r lle i chi! Rydym wedi chwilio am rai o'r cyfrifon Instagram gorau i gŵn yn Sir Gâr, er mwyn i chi ddod o hyd i'r mannau perffaith i dynnu lluniau a rhoi pawen lawen!

Llety sy'n croesawu cŵn

Staying

Os ydych chi'n ystyried gwyliau byr yn Sir Gâr, ond hefyd angen rhywle i ddod â'ch ci, dim problem! Mae gennym ddigon o atyniadau a theithiau cerdded sy'n croesawu cŵn, byddwch yn bendant yn cael eich temtio i ymestyn eich ymweliad â Sir Gâr ac aros am wyliau byr.

Llefydd bwyta sy'n croesawu cŵn

Places to eat

Pan fyddwch chi a'ch ffrind gorau wedi crwydro a rhedeg ar lwybrau cerdded gorau Sir Gâr, bydd angen aros am egwyl a chael rhywbeth i'w fwyta boed yn fisged neu fyrgyr. Dyma rai o'n hargymhellion ar gyfer lleoedd i chi roi cynnig arnynt ar ddiwedd eich diwrnod.

Y Côd Cŵn

Rydym am i chi a'ch ci gael gwyliau hwyliog a di-straen. Rydym hefyd am ddiogelu anifeiliaid fferm a chynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr, yn ogystal â sicrhau y gall pawb fwynhau cefn gwlad, p'un a oes ganddynt gi ai peidio.