O fis Hydref tan fis Mai, bydd arfordir Sir Gâr yn croesawu cŵn a bydd hawl ganddynt i grwydro'n rhydd gan na fydd unrhyw derfynau na chyfyngiadau i'w cerddwyr.
Does dim lle gwell i fynd â'ch ci am dro nag ar draethau euraidd, tywodlyd Sir Gâr. Mae gyda ni rai o'r traethau hiraf yn y DU ac mae pob rhan ohonynt ar agor yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf (o 1 Hydref hyd at 30 Ebrill), heb unrhyw derfynau na chyfyngiadau, i gerddwyr cŵn. Hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf, mae'r rhan fwyaf o'r traethau ar agor i'r rheiny sy'n mynd â'u cŵn am dro. Cadwch lygad am yr arwyddion!
Yn sicr mae gan Sir Gâr ddigon o dywod i redeg trwyddo, ei dyrchu a rholio ynddo; gweler traethau Sir Gâr i gael mwy o wybodaeth.
Cefn Sidan
Mae traeth hiraf Cymru, Cefn Sidan, yn ymestyn am wyth milltir ysblennydd ar hyd arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin. Gan mai milltir yn unig o’r traeth sy’n barth di-gŵn rhwng dechrau mis Mai a diwedd mis Medi, mae saith milltir o draeth godidog ar agor i’w fwynhau gan gŵn a’u perchenogion hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf. Dilynwch yr arwyddion (Llwybr y Cŵn i'r Traeth).



Pentywyn
Ceir yma saith milltir o dywod euraid gogoneddus sy’n edrych dros Benrhyn Gŵyr. Mae'r cyfyngiadau ar gŵn ar Draeth Pentywyn yn berthnasol i'r rhan rhwng y ddwy lithrfa, sy'n dal i roi digon o le chwarae i gŵn.
DS: Mae rhan o'r traeth godidog saith milltir o hyd yn cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer tanio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 16:15 a chodir baneri coch pan fydd hyn yn digwydd. Cysylltwch â Rheolwr y Maes Tanio er mwyn cael gwybod amser tanio drwy ffonio 01994 452310 neu drwy fynd i pendine.qinetiq.com
Mae Trwyn Ginst rhwng Pentywyn a Thalacharn sef rhan o Draeth Pentywyn na wŷr llawer amdani. Mae Trwyn Ginst yn fan gwych ar gyfer cŵn sydd ar dennyn. Fel ei gymydog mae Trwyn Ginst yn cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer tanio.



Llansteffan
Mae'r traeth tywodlyd euraid hwn yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr cŵn ac mae'r tir o amgylch y castell yn wych ar gyfer mynd â'r ci am dro. Mae cyfyngiadau mewn grym ar draeth Llansteffan lle mae stribyn o'r traeth ar gau i gŵn ac wedi'i farcio'n glir ag arwyddion.



Parc Arfordirol y Mileniwm



Glanyfferi
Mae pentref hyfryd arfordirol Glanyfferi yn edrych draw dros y dŵr at Lansteffan a’i gastell Normanaidd balch. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar gŵn ar y traeth braf hwn ar lan yr afon ac felly gallwch ymarfer hynny a fynnwch ar eich ci a mwynhau’r olygfa ar yr un pryd.
Fel traeth Glanyfferi sydd gerllaw, mae croeso i gŵn trwy gydol y flwyddyn ar draeth Llanismel.


Porth Tywyn
Mae dau draeth sy'n croesawu cŵn ym Mhorth Tywyn y naill ochr a’r llall i'r harbwr. Mae traeth tywodlyd hardd, dŵr môr glas a golygfeydd godidog o oleudy hardd yn y ddau le, a chaniateir cŵn arnynt trwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu eu bod yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Unwaith y bydd chwant bwyd ar y bobl a bydd y rhai blewog wedi defnyddio'u holl egni, bydd Harbour Light Tea Room a Crazy Crepes yn rhoi croeso cynnes ichi.



Ginst Point

Mae Trwyn Ginst rhwng Pentywyn a Thalacharn sef rhan o Draeth Pentywyn na wŷr llawer amdani. Mae Trwyn Ginst yn fan gwych ar gyfer cŵn sydd ar dennyn. Fel traeth Pentywyn, caiff Trwyn Ginst ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer tanio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 16:15 a chodir baneri coch pan fo hyn yn digwydd. Cysylltwch â Rheolwr y Maes Tanio er mwyn cael gwybod amser tanio drwy ffonio 01994 452310 neu drwy fynd i pendine.qinetiq.com.