Chwilio am leoedd newydd i ymweld â nhw gyda'ch ci? Mae yna ddigon o atyniadau sy'n croesawu cŵn yn Sir Gâr; o deithio ar drenau stêm i archwilio cestyll a hyd yn oed fynd am dro o amgylch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae digonedd o ddewis i chi.
Does dim yn well na gweld eich ci wrth ei fodd yn rhedeg yma a thraw gan wynto arogleuon newydd rif y gwlith, cyn gwrando arno'n chwyrnu'n fodlon ar ddiwedd diwrnod hwyliog ar grwydr.
Peidiwch ag anghofio rhannu eich anturiaethau gyda ni ar Instagram.
Castell Cydweli
Yng Nghastell Cydweli, gall cŵn ar dennyn fentro y tu ôl i'r bylchfuriau am dro trwy dir y gaer ganoloesol. Mae Castell Cydweli ger afon Gwendraeth ac mae yno daith gerdded hardd i'w mwynhau hefyd. Hefyd yng Nghydweli mae camlas Kaymer, lleoliad arall sy’n croesawu cŵn. Camlas Kaymer yw'r hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Thomas Kymer ar ddiwedd y 18fed ganrif i gludo glo o Gydweli. Nid yw’r gamlas wedi bod yn cael ei defnyddio ers nifer o flynyddoedd, ond mae’n daith gerdded boblogaidd iawn, sy'n cynnig golygfeydd hardd ac yn gynefin bywyd gwyllt ffyniannus i bob math o adar gwyllt a phrin, ac mae'n cael ei chydnabod gan yr RSPB.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae pob dydd Llun a phob dydd Gwener a phenwythnos cyntaf y mis yn ddiwrnod i chi a'r ci yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Ewch â'r ci am dro o gwmpas yr ardd arbennig hon sy'n 568 erw. Mae rhai ardaloedd yn dal i fod ar gau i gŵn ond mae'r rhan fwyaf o'r gerddi ar gael i chi eu mwynhau.
Rhaeadrau Cenarth
Mae Rhaeadrau Cenarth wedi bod yn llecyn hardd ers oes Fictoria. Mae Afon Teifi yn enwog am eogiaid yn llamu! Cymerwch saib gyda'ch ci ar y bont garreg gan wylio eogiaid yn neidio'r rhaeadr ar eu ffordd i fyny'r afon i silio. Dewch i weld byd natur ar ei orau, yn enwedig ar ôl glaw trwm. Mae Cenarth yn llecyn hardd a chartrefol y mae modd ymweld ag ef drwy'r flwyddyn ac mae yno dafarn ac ystafell de gyfforddus er mwyn i chi gael saib haeddiannol o'ch wâc.
Castellnewydd Emlyn
Dyma daith undydd berffaith gyda'ch ci - taith ar Reilffordd Dyffryn Teifi sy'n rhoi croeso mawr i gŵn
Ar ôl y daith, ewch am ginio i dafarn Bunch of Grapes. Mae croeso i gŵn ufudd yn y dafarn restredig Gradd II hon yng nghanol Castellnewydd Emlyn.
Mae gan y dafarn ddetholiad o fisgedi cŵn yn barod ar y bar, gan gynnwys rhai cartref heb glwten ar gyfer cŵn sy'n tueddu i gael alergeddau. Mae selsig hyd yn oed ar gael ar gais!
Dewch â'ch dydd i ben drwy ymweld â’r castell ac os oes gennych amser sbâr, ewch ar daith gerdded ar hyd llwybr glan yr afon sy'n rhedeg ar hyd dolen yn Afon Teifi.
Parc Gwledig Pen-bre
Weithiau mae angen i chi fynd â'ch ci i rywle lle gall redeg (a rhedeg!). Parc Gwledig Pen-bre yw un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o'r arfordir a chefn gwlad. Mae'n gorwedd o fewn 500 erw o goetir ac wrth ymyl wyth milltir o dywod euraidd. Mae yna rai teithiau cerdded arbennig ar eich cyfer chi dros dirweddau gwych.
Gwarchodfa Natur yr RSPB, Rhandir-mwyn
Mae taith gerdded hyfryd sy’n addas i gŵn o amgylch y warchodfa a reolir gan yr RSPB yn un arbennig, a bydd eich ci wrth ei fodd yn dilyn y ffordd o Lanymddyfri ar hyd Afon Tywi. Mae'r daith yn mynd â chi i guddfan Twm Siôn Cati hefyd. Defnyddiai Twm y bryniau anghysbell hyn i osgoi'r awdurdodau am flynyddoedd, ac yn ôl y sôn fe guddiai mewn ogof fan hyn.
Cofiwch ymweld â phentref swynol Rhandir-mwyn cyn bwrw am adref, ac mae'r Royal Oak yn lle gwych i gael lluniaeth.
Llyn Llech Owain
Mae Llyn Llech Owain yn llecyn 73 hectar (180 erw) lle ceir llwybrau natur, ardal antur ynghyd â lle chwarae ar wahân i blant bach a safleoedd picnic. Trwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded hirach o amgylch y parc gwledig. Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig). Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel. Ewch â phicnic gyda chi neu gallwch fwynhau coffi a chacen yn y caffi ar y safle.
Castell Talacharn
Dewch â’ch ci gyda chi ar dennyn i Gastell Talacharn lle gallwch grwydro tir y castell yr oedd Dylan Thomas, preswylydd enwocaf Talacharn, wrth ei fodd ag ef.
Parc a Chastell Dinefwr
Ceir yma deithiau cerdded gwych i ymestyn cymalau cŵn a phobl a hynny dros dirweddau bendigedig - taith hamddenol o amgylch gwartheg gwynion y parc er mwyn cael cipolwg ar y gwartheg a’r lloi, neu daith gerdded fwy heriol i fyny at Gastell Dinefwr lle gallwch chi a’ch ci fwynhau golygfeydd o ddyffryn Tywi. Gallwch hefyd alw yn y caffi awyr agored sy'n gwerthu byrbrydau. Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hamser yn y parc gofynnir i chi gadw eich ci ar dennyn a chodi ei faw. Yr unig ardaloedd na chaniateir cŵn iddynt (ac eithrio cŵn tywys) yw'r parc ceirw hynafol, y rhodfa bren a Phlas Dinefwr. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fwthyn gwyliau yn Ninefwr sef Penparc, sy'n croesawu cŵn. Trwy aros yno gall ymwelwyr gael mynediad hwylus i'r teithiau cerdded hyn sy'n croesawu cŵn.
Rheilffordd Gwili
Taith yn ôl mewn amser y gallwch chi a'ch ci ei mwynhau. Rheilffordd Gwili yw un o'r rheilffyrdd mwyaf prydferth y DU ac mae wedi'i lleoli yn harddwch cefn gwlad sydd â digonedd o fywyd gwyllt. Mae'r rheilffordd yn mynd ar hyd Afon Gwili i fyny'r bryn trwy dir fferm a llechweddau coediog.
Rheilffordd Dyffryn Teifi
Dyma leoliad y bydd eich ci yn mwynhau mas draw, rheilffordd gul a adeiladwyd ar hen reilffordd gangen Castellnewydd Emlyn (GWR) yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.
Argymhellion
Y peth mae'n rhaid ei wneud: Beth am sbwylio eich hun a'ch ci ym mharlwr hufen iâ 'Heavenly' yn Llandeilo, sy'n cynnig hufen iâ unigryw i gŵn. Mae'n cynnwys sylfaen soia a dim siwgr ychwanegol i amddiffyn eich ci.
Cyfle i gael llun: gwyliwch y machlud dros oleudy Porth Tywyn.
Lluniaeth: Caffi Bailey’s Dog yn nhref Caerfyrddin; caffi lle mae anifeiliaid anwes yn dod yn gyntaf. Tip ci: te prynhawn i'r ci; puppacino (gyda llaeth almon) a thriawd o fisgedi ci - jammy dodgers, bisged Bourbon, a custard cream.