Afon Teifi yw'r ail afon hiraf sy'n llifo yn gyfan gwbl drwy Gymru. Mae'n llifo o'i tharddle yn Llynnoedd Teifi yn y Mynyddoedd Cambriaidd am 73 milltir i lawr i'w haber yn Aberteifi. Ychydig dros hanner ffordd ar hyd ei chwrs saif tref Castellnewydd Emlyn. Mae'n dref brysur, draddodiadol gyda marchnad fawr bob dydd Gwener a siopau annibynnol gwych.
Mae Castellnewydd Emlyn mewn gwirionedd yn ddwy gymuned o boptu'r afon, gydag Adpar ar y lan ogleddol yng Ngheredigion a Chastellnewydd Emlyn ar yr ochr ddeheuol yn Sir Gaerfyrddin. Gyda'i gilydd maent yn ffurfio cymuned fwy a dyfodd o amgylch man croesi'r afon.
Fe ofynnon ni i Tudur Phillips, cyflwynydd a chlocsiwr proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau, am y dref sy'n agos at ei galon. Cafodd Tudur ei fagu ym mhentref ger y dref ac er ei fod bellach yn teithio ledled Cymru yn cynnig gweithdai clocsio, mae wrth ei fodd yn dychwelyd i'r ardal.
Pwy yw brenin y castell?
Roedd afon Teifi ddolennog yn creu safle amddiffynnol naturiol, felly ni ddylai fod yn llawer o syndod bod castell yma. Ond yr hyn sy'n unigryw am y castell yng Nghastellnewydd Emlyn yw iddo gael ei adeiladu'n wreiddiol fel sedd sirol, yn hytrach nag un filwrol - a chredir mai dyma'r unig gastell o garreg a adeiladwyd gan y Cymry yn y rhan hon o Gymru. Cafodd y castell ei sefydlu tua 1240 gan y tywysog Maredudd ap Rhys, a newidiodd ddwylo sawl gwaith wedi hynny. Gorymdeithiodd Owain Glyndŵr i'r dref ym 1403 a'i rhoi dan warchae, ond yn dilyn canrifoedd o ymosodiadau ac adnewyddiadau, yn y diwedd cafodd y castell ei chwythu'n ddarnau â phowdwr gwn ym 1645 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Ers 1995 mae draig wedi gwarchod y porth i'r castell. Derbynnir yn gyffredinol bod hon yn cynrychioli Gwiber Emlyn, y ddraig olaf yng Nghymru, a fu'n codi arswyd ar bobl y dref. Dywed y chwedl bod y ddraig, tra oedd ffair yn cael ei chynnal yn y dref, wedi hedfan i lawr dros y dref, wedi glanio ar furiau'r castell ac ar hynny wedi setlo i lawr i gysgu. Aeth milwr dewr ati i osod clogyn coch ar wyneb yr afon ac yna aeth i guddio. Pan ddeffrodd y ddraig, gwelodd y clogyn ac wrth iddi hedfan i ymosod arno cafodd ei thrywanu i farwolaeth gan y milwr.
Mae Tudur o'r farn y dylai unrhyw un sy'n ymweld â'r dref fynd i weld y castell a mynd am dro ar y llwybr sy'n rhedeg ar hyd dolen yn Afon Teifi.
Sôn am y dref
Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif roedd y man i groesi'r afon a'r farchnad da byw (sy'n parhau hyd heddiw) yn golygu bod Castellnewydd Emlyn yn dref bwysig ar lwybr y porthmyn. Arferai moch a Gwartheg Duon Cymreig gael eu masnachu yma a'u hanfon i bob cwr o'r wlad. Mae nifer y tafarndai sydd i'w cael yn y dref yn etifeddiaeth o'r cyfnod hwn. Mae'r dafarn deuluol The Bunch of Grapes, ar stryd hanesyddol Heol y Bont, yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif a dywedir ei bod wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio peth cerrig o adfeilion y castell gerllaw. Mae'n cynnig dewis eang o gwrw lleol, ynghyd â chasgliad arbennig o wisgi brag. Os ydych chi'n teithio gyda'ch ffrindiau pedair coes, mae croeso iddyn nhw yma hefyd – ac yn wahanol i ni bobl, bydd staff y bar yn rhoi eu 'danteithion' iddyn nhw yn rhad ac am ddim.
Mae Tudur yn awyddus i sôn am yr amrywiaeth cynyddol o siopau annibynnol yn y dref. Yn ffodus, does dim prinder siopau teuluol yn gwerthu gweithiau celf, crefftau, anrhegion a hen bethau a chaffis teuluol yn y dref. Mae pobl yn ymweld o bell ac agos i siopa mewn siopau annibynnol megis The Maker's Mark (celf a chrefft), Starfish (dillad, nwyddau cartref ac anrhegion), Vintique (hen bethau a dillad vintage), Fair and Fabulous (cynnyrch Masnach Deg), Scallywag (ffasiynau menywod) a Y Goleudy (goleuadau), yr hyn na fyddwch yn ei ddarganfod yng Nghastellnewydd Emlyn yw rhesi o frandiau'r stryd fawr.
Y diwydiant gwlân
Tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o'r dref y mae pentref pert Dre-fach Felindre. Yr oedd unwaith yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlân ffyniannus, a enillodd iddo'r enw 'Huddersfield Cymru’. Er nad oes llawer ar ôl o'r diwydiant yma nawr, bydd Amgueddfa Wlân Cymru, sydd wedi'i lleoli yn hen Felin y Cambria, yn rhoi cipolwg diddorol i chi ar sut beth oedd bywyd pan oedd y gwlân a gneifiwyd gan ffermwyr lleol yn cael ei wehyddu cyn cael ei ddefnyddio i wneud crysau, siolau, blancedi a sanau. Gall ymwelwyr hen ac ifanc gael tro ar gribo, troelli a gwnïo ac mae staff cyfeillgar yr amgueddfa wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a rhoi arddangosiadau.
Dewch ar y trên bach
Mae Rheilffordd Dyffryn Teifi rywbeth tebyg o ran pellter i'r dwyrain o Gastellnewydd Emlyn ym mhentref Henllan. Mae'r rheilffordd gul 2 droedfedd (610mm) hon wedi'i chreu o linell gangen o Reilffordd y Great Western a fu unwaith yn gwasanaethu ardal wledig Gorllewin Cymru. Ewch ar daith 2 filltir y tu ôl i un o'u trenau stêm, Alan George a Sgt Murphy, neu un o'r injans diesel, John Henry a Sammy. Bydd teuluoedd â phlant bach wrth eu bodd yn mynd ar y Lein Pixie i Pixie Halt ar y Toot Toot Tallulah. Yna gall y rhai bach gael gwared â pheth o'u hegni yn yr ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored, tra bod eu rhieni yn mwynhau paned o de a chacen mewn heddwch (cymharol).
Mynd ar drywydd rhaeadrau
Ni fyddai unrhyw ymweliad â'r gornel hon o Sir Gaerfyrddin yn gyflawn heb ymweliad â phentref hudolus Cenarth. Os ydych chi awydd cyrraedd yno yn eich nerth eich hun, mae'n daith gerdded ddymunol 8 milltir yno ac yn ôl, gan ddilyn lonydd gwledig. Y prif atyniad yng Nghenarth ers Oes Fictoria yw'r rhaeadrau ar afon Teifi. Yn yr Hydref daw ymwelwyr o bell ac agos i wylio golygfa ryfeddol yr eogiaid yn llamu. Yn y ffenomen naturiol hon gwelir eogiaid mudol yn llamu am y gorau dros y rhaeadr a mynd i fyny'r afon i silio.
Mae Cenarth hefyd yn un o'r ychydig leoedd sydd ar ôl ym Mhrydain lle defnyddir cwryglau o hyd. Mae pysgotwyr yma yn defnyddio'r cychod bach hyn â gwaelodion crwn, sydd wedi'u gwneud o bren helyg neu onnen a'u gorchuddio â deunydd sy'n dal dŵr, i deithio i lawr yr afon a dal eog a sewin. Galwch heibio i Ganolfan Genedlaethol y Cwrwgl i ddysgu mwy amdanynt, yna beth am gael te prynhawn yn Nhŷ Te Cenarth, cyn mynd yn ôl i Gastellnewydd Emlyn. Rydych chi'n ei haeddu!
Fe ofynnon ni i Tudur Phillips, cyflwynydd a chlocsiwr proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau, am y dref sy'n agos at ei galon. Cafodd Tudur ei fagu ym mhentref ger y dref ac er ei fod bellach yn teithio ledled Cymru yn cynnig gweithdai clocsio, mae wrth ei fodd yn dychwelyd i'r ardal.
Awgrymiadau Tudur
Y peth mae'n rhaid i ymwelwyr ei wneud – Mwynhau picnic gan edrych dros y castell.
Y Lle Delfrydol i dynnu llun - Afon Teifi, efallai gyda physgotwr cwrwgl.
Cymeriad Lleol – Cadwch lygad allan am y gweithiwr cyngor Peter Williams, sydd allan ym mhob tywydd yn cadw strydoedd Castellnewydd Emlyn yn edrych yn lân ac yn daclus.
Ffaith Annisgwyl – Yma ym 1872 y defnyddiwyd y cyffion canoloesol ofnadwy am y tro olaf yng ngwledydd Prydain.
Ei Ffefryn Personol – Ymweld â Chlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn – lle gwych i ddod i adnabod cymeriad y dref.
Man i gael tamaid blasus – Sglodion Teifi yn Central Café - sefydliad pwysig yng Nastellnewydd Emlyn.