English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Y Côd Cŵn

Rydym ni eisiau ichi wir fwynhau'ch gwyliau gyda'ch cyfaill gorau. Mae hyn yn golygu parchu'r ffaith nad yw pawb yn hoff o gŵn a chofio bod yn rhaid ymddwyn yn briodol. Rydym wedi nodi rhai pwyntiau allweddol o'r Côd Cefn Gwlad ochr yn ochr â rhai awgrymiadau defnyddiol i sicrhau eich bod chi a'ch ci yn cael y gwyliau gorau.

 

Nod y Côd Cefn Gwlad i’w helpu’r cyhoedd i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad. Mae cefn gwlad yn lle delfrydol i ymarfer cŵn ond mae’n ddyletswydd ar bob perchennog i sicrhau nad yw ei gi yn peri perygl na niwsans i anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt na phobl eraill:
• Gadewch bob giât, boed ar agor neu ynghau, fel y cawsoch hi.
• Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi reoli eich ci, a'i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn byr pan fyddwch ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd gydol y flwyddyn pan fyddwch yn agos at anifeiliaid fferm.
• Cyn belled â'ch bod yn cadw eich ci dan reolaeth dynn, nid oes raid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae'n well ei gadw ar dennyn os nad ydych yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cŵn sy'n anafu neu'n poeni eu hanifeiliaid.
• Byddwch yn arbennig o ofalus nad yw eich ci yn dychryn defaid ac wyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy'n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall - buan y bydd wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw heb rieni i’w gwarchod.
• Gŵyr pawb mor annymunol yw baw ci ac y gall ledaenu heintiau, felly, gofalwch eich bod yn glanhau ar ôl eich ci bob tro, a'ch bod yn cael gwared â'r baw mewn modd cyfrifol. Er lles ei ddiogelwch ei hun a diogelwch anifeiliaid eraill a phobl, gofalwch hefyd fod eich ci yn cael ei drin yn rheolaidd ar gyfer llyngyr.
• At rai adegau, ni chaniateir cŵn i fynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid eu cadw ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion. Cewch ragor o wybodaeth am y rheolau hyn drwy gyrchu www.naturalresourceswales.gov.uk 

Cerdded ymhlith gwartheg

Mae nifer o lwybrau yn croesi tir amaethyddol lle bydd gwartheg yn pori. Ni waherddir cadw gwartheg ar dir a groesir gan hawliau tramwy. Yn aml chwilfrydedd fydd yn peri gyr o wartheg mewn cae i ddod tuag atoch. Fodd bynnag doeth fyddai i fod yn ofalus wrth fynd drwy gae o wartheg gan fod achosion difrifol wedi digwydd o wartheg yn ymosod ar bobl yn neilltuol pobl â chŵn. Rhoddir y cyngor canlynol
• Wrth gerdded drwy gae o wartheg cadwch yn dawel a cherddwch yn bwyllog a digynnwrf.
• Peidiwch â chael eich hun rhwng buwch a’i llo.
• Os oes gennych gi gyda chi, y peth pwysicaf yw ei ryddhau Yn ôl pob tebyg bydd gan y gwartheg fwy o ddiddordeb ynddo ef nag ynddo chi a gall y ci deithio’n llawer mwy cyflym a chael ei hun i fan diogel. Eich diogelwch chi ddylai fod flaenaf yn eich meddwl.

Cŵn sydd ar goll
Os yw'r gwaethaf yn digwydd a bod eich ci yn mynd ar goll, cofiwch sicrhau eich bod chi'n gwybod â phwy i gysylltu. Efallai gallech baratoi pecyn gwybodaeth am eich ci cyn ichi adael sy'n cynnwys pethau fel llun da o'ch ci, disgrifiad da a'ch manylion cyswllt. Mae'n bosibl y bydd gan Gynghorau Lleol warden cŵn neu efallai byddai cysylltu â'r heddlu'n helpu. Gallech hefyd gysylltu â gwarchodfeydd a milfeddygon lleol. Ar gyfer cŵn coll a strae neu i roi gwybod am faw cŵn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 234567.

Milfeddygon
Gwnewch nodyn o'r milfeddygon lleol neu yn y rhan fwyaf o achosion, gall eich gwestywyr neu'r bobl leol hyd yn oed eich helpu a'ch cynghori. Cysylltwch â ni yn y ganolfan wybodaeth drwy ffonio 01267 231557 i gael cyngor.

Microsglodynnu
Mae'n bosibl bod tag ar goler eich ci ond mae modd colli'r tag ond ni ellir colli microsglodyn. Mae'n werth gwneud hyn oherwydd gallai sicrhau bod eich ci yn cael ei adnabod ar ôl iddo golli ei goler.

Rhai pethau i'w cofio….

Sut i Archebu
Ar ôl i chi ddod o hyd i rywle i aros, sicrhewch fod croeso i gŵn yno. Mae'n werth gofyn a oes unrhyw gyfyngiadau ar frîd, nifer neu faint y cŵn cewch fynd gyda chi. Cofiwch ofyn bob tro oherwydd mae'n bosibl na fydd cyfyngiadau wedi'u hysbysebu'n glir. Cofiwch ofyn a oes tâl ychwanegol am gŵn neu unrhyw daliadau ychwanegol am lanhau ar ôl cŵn - nid pob lle sy'n cynnig gwyliau am ddim i gŵn. 

Paciwch ar gyfer eich ci
Bydd angen bag ar eich ci hefyd! Cofiwch fynd â hoff bethau'ch ci gyda chi, er enghraifft, ei flanced, ei bêl a'i bowlen. Gwnewch restr er mwyn sicrhau nad ydych chi'n anghofio unrhyw beth oherwydd rydym ni gyd yn gwybod bod pob pêl yn wahanol o ran gwneuthuriad, blas, arogl neu bwysau a bydd eich ci yn gwybod hyn hefyd. Efallai byddai'n syniad buddsoddi mewn tennyn troellog, tennyn hirach neu siaced os yw hi'n mynd i fod yn oer ac yn wlyb!

Teithio
Sicrhewch fod eich ci yn gyfforddus wrth ichi deithio i'ch cyrchfan gwyliau. Cofiwch ei hoff flanced. Cofiwch agor y ffenestri er mwyn sicrhau bod digon o aer. Cofiwch roi dŵr iddo - rhowch gynnig ar un o'r powlenni neu'r poteli teithio. Os ydych chi'n gyrru i'ch cyrchfan gwyliau, cofiwch stopio'n ddigon aml er mwyn mynd i'r tŷ bach ac ymestyn eich coesau - mae hyn yn bwysig i chi a'ch ci. Peidiwch â gadael eich ci/cŵn yn y car. Os yw’r tymheredd y tu allan yn 22°C wyddech chi y gallai godi i 47°C mewn car a hynny o fewn 60 munud? Os ydych chi'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ffoniwch a sicrhewch y caniateir cŵn. Bydd rhai bysiau a threnau yn caniatáu cŵn ond mae'n werth gofyn yn gyntaf.

Bwyd a Phrydau Bwyd
Os ydych yn aros mewn pabell neu fwthyn neu unrhyw lety hunanarlwyo, gallwch goginio bwydydd rydych chi gyd yn eu hoffi ond os ydych chi'n aros mewn Gwely a Brecwast neu westy, mae'n werth gofyn am drefniadau bwyta. Mae rhai lleoedd yn caniatáu cŵn mewn mannau lle gweinir bwyd cyn belled â'ch bod yn eistedd y tu allan neu mae'n bosibl bod ganddynt drefniadau eraill ond mae lleoedd eraill sydd heb fod yn caniatáu cŵn yn agos i fyrddau. Mewn gwirionedd, mae'n bosibl bod rheoliadau a deddfau hylendid yn golygu na chaniateir cŵn wrth eich bwrdd amser bwyd ac yn yr achos hwn, cofiwch ofyn a yw'ch ci yn cael aros yn yr ystafell hebddoch. Bydd gan rai lleoedd erddi cwrw, llecynnau yn yr awyr agored neu feysydd parcio lle gellir cadw golwg ar eich cŵn os ydych wedi'u gadael yn y car. Mae'n bosibl y bydd lleoedd hyd yn oed yn cynnig gwasanaeth ystafell ond cofiwch ofyn yn gyntaf er mwyn ichi allu blaengynllunio a goresgyn unrhyw broblemau. Ewch i peth i ddiddanu'r ci a chi er mwyn gweld rhestr o dafarnau a sefydliadau eraill sy'n croesawu cŵn. Cofiwch roi cynnig ar Hufen Iâ arbennig Heavenly ar gyfer cŵn. Cofiwch fynd â digon o fwyd gyda chi ar gyfer eich ci. Ewch â'i fwyd arferol gyda chi boed yn fwyd tin, bwyd gwlyb mewn pecyn neu'n fwyd sych sydd angen ei gymysgu ac ewch â digon ohono ar gyfer y gwyliau cyfan oherwydd mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu prynu'r un bwyd yn lleol.

Teithiau Cerdded
Ewch i llwybr hydrefol i'r ci a chi er mwyn gweld y teithiau cerdded perffaith ar gyfer cŵn. Ceir hefyd wybodaeth ynghylch lleoedd lle nad oes croeso i gŵn.

Baw Cŵn
Cofiwch fynd â digon o fagiau ar gyfer baw cŵn gyda chi a a gwaredu’r baw yn ofalus. Mae’n ofynnol dan y gyfraith bod perchenogion cŵn yn glanhau baw eu cŵn. Os ydych yn caniatáu i’ch ci faeddu ac yn peidio â’i lanhau gallech dderbyn cosb benodol gan y Warden Cŵn. Does neb yn hoffi baw cŵn, felly cofiwch lanhau ar ôl eich ci!

Hiraeth
Ar eich gwyliau, mae'n bosibl y bydd newid cynefin, amgylchedd a gwahanol dymheredd a nifer o ffactorau eraill yn achosi peth pryder i'ch ci. Bydd hyn yn gwella gydag amser wrth i'ch ci addasu'n gyflym i'r newid. Dylech geisio sefydlu amserlen wyliau o ran amser bwyd, amser mynd am wâc ac ati a bydd eich ci yn teimlo'n gartrefol yn gynt. Rhowch gynnig ar Rescue Remedy neu unrhyw foddion arall sydd ar gael er mwyn tawelu ofnau - gallai helpu i gysuro'ch ci yn gynt. Mae'n werth cysylltu â'ch milfeddyg i gael cyngor ynghylch meddyginiaethau.

Gwaith Sychedig
Cofiwch gario dŵr gyda chi ar gyfer eich ci. Mae poteli a bowlenni teithio yn wych oherwydd maent wedi eu creu yn benodol er hwylustod. Bydd hyn yn sicrhau na fydd eich ci yn sychedig. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn tywydd cynnes neu boeth.

Ffitrwydd
Efallai eich bod yn bwriadu cael gwyliau egnïol yn cerdded neu'n beicio neu rywbeth mwy eithafol ond cofiwch sicrhau os ydych chi'n ymarfer i fynd ar wyliau egnïol, eich bod chi'n ymarfer eich ci hefyd. Bydd gwell lefelau ffitrwydd er mwyn ymdopi â'ch gwyliau yn golygu bod angen ymarfer ar eich ci hefyd! Dylech ofyn i'r milfeddyg am hyn os yw'ch ci yn hen neu â chyflyrau meddygol. Ar eich gwyliau, dylech fonitro'ch ci er mwyn sicrhau nad yw'r holl ymarfer yn ormod iddo.

Yswiriant Anifail Anwes
A oes gennych yswiriant anifail anwes? Efallai byddai'n werth buddsoddi mewn yswiriant o'r fath er mwyn helpu â biliau'r milfeddyg ond hefyd ar gyfer damweiniau a difrod posibl. Cofiwch wirio'r polisi am atebolrwydd trydydd parti. Hyd yn oes os yw'ch ci yn bihafio'n dda gartref, gallai'r newid mewn amgylchedd a threfn achosi ymddygiad afreolus neu ddinistriol hyd yn oed a bydd yswiriant yn helpu ag unrhyw broblemau!

Ymddygiad
Efallai eich bod chi'n gwybod mai bod yn gyfeillgar mae'ch ci pan fo'n neidio arnoch ond dydy pobl eraill ddim yn gwybod hyn! Sicrhewch fod eich ci wedi'i hyfforddi'n dda ac yn bihafio o amgylch cŵn a gwesteion eraill ac efallai byddai'n syniad mynd ar gwrs hyfforddiant atgoffa cyn eich gwyliau!

Dere 'ma MOT...MOT!
Os ydych chi'n gadael i'ch ci redeg yn rhydd heb fod ar dennyn... cofiwch sicrhau y bydd yn dod ynôl. Dydy'r ffaith ei fod e'n dod yn ôl gartref ddim yn golygu y bydd yn gwneud hynny ar wyliau. Gallai arogleuon newydd a lleoedd newydd wneud iddo eisiau crwydro mwy. Os oes amheuaeth, cadwch eich ci ar y tennyn!

Gofal Dydd i Gŵn
Os ydych chi ar wyliau ac eisiau mynd i rywle sydd heb fod yn caniatáu cŵn, peidiwch â phoeni. Mae'n bosibl y bydd ambell lety yn cynnig gwasanaeth gwarchod cŵn neu efallai bod gwasanaeth gofal dydd i gŵn ar gael yn yr ardal neu weithiau mae rhai cynelau lleol yn cynnig i gŵn sefyll am y diwrnod.