English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Anturiaethau Egnïol

Ewch amdani!

Triathlonau i Deithwyr

I'r sawl sy'n chwilio am wyliau egnïol neu am her newydd, efallai taw Triathlon y Teithwyr yw'r union beth.

Mae'r gyfres yn cynnwys tri llwybr triathlon unigryw

1. Llwybr Pentywyn,

2. Yr Her Arfordirol, 

3. Llwybr Glannau'r Afon

ac maent oll yn cyfuno nofio neu gaiacio, beicio, a rhedeg neu gerdded mewn tair ardal wahanol o'r sir. Golyga hyn y byddwch yn dod ar draws cymoedd gwyrddlas, coetiroedd toreithiog, afonydd byrlymus, a thraethau godidog (a llawer iawn mwy!) Yn fras mae'r triathlonau i gyd yn seiliedig ar bellterau Triathlon Olympaidd, ac maent wedi'u cynllunio i'w cwblhau'n annibynnol, ar eich cyflymder eich hun. Nid oes yn rhaid ichi fod yn berson hynod ffit, oherwydd mae modd addasu pob triathlon yn ôl lefelau ffitrwydd a gellir cerdded yn lle rhedeg, caiacio neu badl-fyrddio yn lle nofio, a chwtogi pellterau'r llwybrau.

Gellir eu cwblhau mewn diwrnod fel her ffitrwydd neu'n fwy hamddenol dros sawl diwrnod. Mae'n bosibl cyfuno elfennau o bob un i greu llwybrau triathlon newydd personol - gallwch eu gwneud fel y mynnoch!

 

Y Llwybrau!