English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Triathlon Dau

Her Arfordirol

Mae traeth syfrdanol Cefn Sidan (9 cilometr ohono!) yn gefndir i'r triathlon arfordirol hwn. Ar ôl nofio yn nyfroedd gloyw'r traeth byddwch yn mynd ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n enwog iawn bellach, ar gyfer rhan feicio eich her a hynny'r holl ffordd i'r Bynea, cyn dychwelyd i Gefn Sidan a Phen-bre i redeg neu gerdded drwy Goedwig Pen-bre. Mae'r triathlon hwn yn addas i bobl sydd â lefel ffitrwydd sylfaenol dda. I ddilyn y llwybr, dilynwch lwybrau Google Map a'r disgrifiadau manwl isod (nid oes arwyddion ar hyd y llwybrau)

NOFIO - Traeth Cefn Sidan (1.5 cilometr)

Mae'r traeth euraid hwn, sy'n lle gwych i nofio, yn 9 cilometr o hyd a cheir yno olygfeydd ysblennydd o Fae Caerfyrddin. Dechreuwch nofio o brif fynedfa'r traeth, gan fynd tua'r gogledd-orllewin (i'r dde wrth edrych tuag at y traeth). Oddi yma byddwch yn nofio 750 metr hyd nes eich bod yn gweld ail lwybr mwy o faint yn ymuno â'r traeth. Trowch a nofio'n ôl i brif fynedfa'r traeth er mwyn cwblhau'r her 1.5 cilometr. Mae'r dyfroedd oer, tonnog yn sicr o fod yn her gorfforol, felly rydym yn argymell eich bod yn mynd i'r 'Sidan' i gael tamaid i'w fwyta neu ddiod haeddiannol ar ôl ei chwblhau!

BEICIO - Llwybr Arfordirol y Mileniwm (45 cilometr)

Mae'r llwybr hwn rhwng Pen-bre a'r Bynea ar gyrion Bae Caerfyrddin yn llwybr beicio delfrydol i'r rheiny sy'n chwilio am her a chanddi olygfeydd bendigedig o'r môr. Mae'n 44 cilometr o hyd felly nid taith feicio i'r gwangalon mohoni ychwaith! Dechreuwch eich taith yng Nghanolfan Sgïo Parc Gwledig Pen-bre (mae modd llogi beiciau yma'n ogystal, ffoniwch 01554 834443), ac ar ôl gadael y ganolfan trowch i'r dde ac yna i'r chwith cyn troi i'r chwith eto (cymerwch ofal fan hyn - heol gul a phrysur). Dilynwch Lwybr Arfordirol y Mileniwm i'r dwyrain a fydd yn eich arwain ar hyd arfordir trawiadol Sir Gaerfyrddin. Ar eich taith byddwch yn mynd heibio i draethau euraidd, twyni tywod eang, baeau diarffordd, harbwr hardd Porth Tywyn, a thref fywiog Llanelli â'i Chanolfan Ddarganfod (lle mae caffi gwych os bydd angen lluniaeth arnoch!). Oddi yno byddwch yn dilyn y llwybr beicio o gwmpas Penrhyn Machynys gan fynd heibio i gwrs golff a ddyluniwyd gan 'Jack Nicklaus' a Chanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru. Cadwch at y rhan aberol hon o'r llwybr tan ichi gyrraedd y Bynea. Yma fe welwch bont yn croesi'r heol fawr sy'n dynodi diwedd y llwybr. Trowch yn ôl fan hyn ac ail-ddilynwch y llwybr tua'r gorllewin ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm i gwblhau eich taith 44 cilometr o hyd, gan orffen yng Nghanolfan Sgïo Parc Gwledig Pen-bre.

RHEDEG / CERDDED - Coedwig Pen-bre (10 cilometr)

Pan fyddwch wedi cwblhau'r daith feicio dim ond un cymal o'r triathlon arfordirol fydd ar ôl sef y rhedeg, ac ni chewch leoliad gwell ar gyfer hynny na'r llwybrau godidog sy'n ymestyn am filltiroedd lawer drwy goedwigoedd ac ar draethau Parc Gwledig Pen-bre. I gwblhau llwybr 10 cilometr, dechreuwch yn y caffi agosaf at y traeth. O'r caffi anelwch at y tir a throwch i'r chwith gan ddilyn y trac y tu cefn i'r twyni tywod. Ar ôl rhedeg am 750 metr bydd y llwybr yn troi i'r dde. Ewch yn eich blaen am 200 metr a phan fydd yr heol yn fforchio gwyrwch i'r chwith heibio i'r pwll natur. Ar ôl 300 metr ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd ac i mewn i'r coed am 1200 metr, cyn cymryd y pedwerydd troad ar y dde. Cadwch at y trac gan gymryd yr ail droad i'r dde ar ôl tua 700 metr. Bydd y trac yn eich tywys drwy'r goedwig am oddeutu 3.7 cilometr. Yn y pen draw byddwch yn cyrraedd prif heol fynediad y Parc Gwledig, lle byddwch yn troi i'r dde ac yn dilyn yr heol hon (Heol y Ffatri) hyd at gatiau'r Parc. Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith yn y Parc (wrth arwydd y Ganolfan Sgïo), yna gwyrwch i'r chwith a dilynwch yr heol o gwmpas i'r dde er mwyn dychwelyd i'ch man cychwyn ger y caffi gan ddod â'ch taith redeg i ben. Mae caffi'r traeth yn fan gwych i gael diod oer fel gwobr am weithio mor galed!