Triathlon Tri
Llwybr Pentywyn
Pentywyn yw canolbwynt y llwybr hwn - man enwog am yr ymdrechion ar y traeth yno i dorri'r record cyflymder dros y tir. Ar ôl nofio, padl-fyrddio neu gaiacio, byddwch yn beicio drwy rai o bentrefi hynod y de-orllewin cyn mynd ar daith gerdded ryfeddol ar hyd y pentir ar Lwybr Arfordir Cymru, lle byddwch yn dod ar draws cildraeth cudd hardd Morfa Bychan. Yn addas ac yn bosibl ei ddiwygio i bobl o bob lefel ffitrwydd. I ddilyn y llwybr, dilynwch lwybrau Google Map a'r disgrifiadau manwl isod (nid oes arwyddion ar hyd y llwybrau).
NOFIO / PADL-FYRDDIO / CAIACIO - Traeth Pentywyn (1 cilometr)
Mae Traeth Pentywyn ymhlith y traethau hiraf yng Nghymru gan ei fod tua 8 milltir o hyd, ac oherwydd ei fod mor wastad mae wedi cael ei ddefnyddio droeon i geisio torri'r record cyflymder dros y tir. Mwynhewch y golygfeydd anhygoel sydd yng nghyffiniau'r traeth drwy gwblhau her nofio 1 cilometr o hyd. O'r llithrfa ym Mhentywyn, ger sgwâr y pentref, cerddwch i'r traeth ac ewch i'r môr. Oddi yma byddwch yn nofio i'r chwith (wrth edrych tuag at y môr) i fyny'r traeth i gyfeiriad y dwyrain am 500 metr tuag at wylfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Trowch wrth wylfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn gan nofio'n ôl i gyfeiriad y gorllewin tuag at y pentref. Gadewch y dŵr ger y llithrfa ac ewch yn ôl i'r pentref am ddiod haeddiannol iawn! Mae cyfleusterau cyhoeddus yn ymyl y maes parcio ac maent yn ddigon mawr i'w defnyddio fel ystafelloedd newid. Mae'r llwybr hwn yn un rhagorol i'r rheiny sy'n awyddus i roi cynnig ar badl-fyrddio neu gaiacio hefyd. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn gyda chwmni chwaraeon dŵr proffesiynol.
BEICIO - Pentywyn i Sanclêr (45 cilometr)
Bydd y llwybr cylch gwych hwn yn mynd â chi drwy rai o ardaloedd gwledig godidocaf de Sir Gâr, ac mae'n ddelfrydol i'r sawl sy'n chwilio am her a hanner ar y beic gan ymweld â rhai o drefi a phentrefi glan môr gorau'r sir. Gan ddechrau ym Mhentywyn, sy'n enwog am yr ymdrechion fu yno i dorri'r record cyflymder dros y tir ac am ei draeth ardderchog, byddwch yn mynd tuag at Dalacharn, cartref Dylan Thomas, ar yr A4066 (7 cilometr). Yn Nhalacharn gallwch aros i gael te yn y 'Boathouse' a anfarwolwyd gan y bardd enwog, lle mae golygfeydd ysblennydd dros aber Afon Taf. Oddi yma cymerwch yr A4066 i Sanclêr (7 cilometr) - pasteiod y cigydd Phillip Hughes yw'r rhai gorau yn y sir! Cadwch ar yr A4066 trwy Sanclêr, ewch yn syth ymlaen wrth y groesffordd, ac yna trowch i'r dde lle mae'r heol yn fforchio tuag at Langynin (4.5 cilometr) ac wedyn ymlaen i Lanboidy (5 cilometr) ar hyd heol Llanboidy. Ar ôl gadael pentref Llanboidy trowch i'r chwith wrth y gyffordd ac ewch yn syth ymlaen tan fod yr heol yn fforchio i'r chwith. Dilynwch yr heol hon i Hendy-gwyn ar Daf a gofalwch nad ydych yn gadael yno heb ymweld â'r Abaty a Gerddi Hywel Dda. Byddwch yn gadael Hendy-gwyn ar Daf ar y B4328, gan deithio i'r de tuag at Dafarnspite (4.5 cilometr). Ar ôl cyrraedd Tafarnspite trowch i'r chwith i'r B4314 hyd at Ros-goch (2.5 cilometr), a chadwch ar yr heol hon i ddychwelyd i Bentywyn (7 cilometr) i gwblhau eich taith feicio.
RHEDEG / CERDDED - Pentywyn i Amroth (10 cilometr)
O'r traeth ym Mhentywyn dringwch i ben Pwynt Dolwen, i fyny'r grisiau, dros y pentir, ac i lawr y bryn i Forfa Bychan. Cynhaliwyd ymarferion ar gyfer glaniadau D-Day ar y cildraeth cudd hwn ac mae hynny'n amlwg yn syth, a phan fo'r môr ar drai gallwch weld bonion coed yn y tywod - gweddillion coedwig a foddwyd ar ddiwedd Oes yr Iâ. Daliwch ati i fyny'r bryn gan ymuno â llwybr yr arfordir a'i ddilyn ar hyd y clogwyni ac i lawr i draeth Marros. Cerddwch ar hyd y traeth ac yna trowch i'r dde wrth Felin Marros (sy'n adfail bellach) a dringo i'r trac trwy Fferm Marros hyd nes y byddwch yn ymuno â heol yr arfordir ym mhentref Marros (sylwch ar yr eglwys a'r gofeb gerrig). Trowch i'r dde ar ôl yr eglwys. Ewch yn eich blaen am tua 1 cilometr ac fe welwch lôn â meini hirion ar y chwith (os ewch yn syth ymlaen am ychydig mae'r Green Bridge Inn nid nepell o'r fan hon). Trowch i'r dde wrth lôn y meini hirion a dilynwch y llwybr troed yn ôl i Forfa Bychan cyn dychwelyd dros y pentir (ar y chwith) hyd at Bentywyn i gwblhau eich her gerdded.