English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Triathlon Un

Llwybr Glannau'r Afon

Mae'r llwybr hwn yn dilyn Afon Teifi, gan gyfuno nofio yn yr afon ei hun rhedeg / cerdded a beicio ar hyd ei glannau drwy brydferthwch Dyffryn Teifi. Bydd eich taith yn mynd â chi i dref farchnad hyfryd Castellnewydd Emlyn, yn ogystal â phentref Cenarth sy'n enwog am ei eogiaid sydd i'w gweld yn aml yn llamu drwy'r rhaeadrau. Yn addas ac yn bosibl ei ddiwygio i bobl o bob lefel ffitrwydd. I ddilyn y llwybr, dilynwch lwybrau Google Map a'r disgrifiadau manwl isod (nid oes arwyddion ar hyd y llwybrau).

 

NOFIO / AFON DOWCIO / CAIACIO - Afon Teifi yn Llandysul (750 metr)

Ewch i ogledd y sir ac i'r Afon Teifi yn Llandysul sy'n fan delfrydol ichi ddechrau eich her triathlon. Oherwydd natur heriol y dŵr rydym yn awgrymu eich bod yn cael cymorth tywysydd o Ganolfan Ceufad Llandysul Paddlers wrth nofio. Gan ddechrau yng Nghanolfan Ceufad Llandysul Paddlers, byddwch yn mynd i'r afon mewn man lle mae modd nofio am 750 metr i lawr yr afon wrth iddi lifo drwy Ddyffryn Teifi. Mae coedwig odidog ar lannau'r afon ac mae golygfeydd ysblennydd o'r bryniau cyfagos (ewch o dan bont yr heol gan orffen ychydig cyn y tro yn yr afon). Gall y rheiny sy'n chwilio am rywbeth mwy hamddenol 'Afon Dowcio' neu Gaiacio i lawr yr afon, ac unwaith eto mae cyfarpar a chymorth tywysydd ar gael drwy Ganolfan Ceufad Llandysul Paddlers. Mae llwybr caiacio hunan-dywysedig yn dechrau ger y Ganolfan yn Llandysul ac yn gorffen yn Llangeler (cyfeirnod grid SN377393), sef tua 5.2 cilometr. Argymhellir y llwybr hwn i gaiacwyr galluog yn unig. Fel arall, gall y rheiny sydd am her nofio hunan-dywysedig fynd i'r dŵr yn llyn Llandysul ar safle Canolfan Ceufad Llandysul Paddlers, lle mae 8 cylchdro llawn o amgylch ymyl y llyn yn 1.5 cilometr o hyd - her wirioneddol Olympaidd.

BEICIO - Llwybr Beicio Castellnewydd Emlyn (24 cilometr)

Ar ôl sychu, gwisgwch eich helmed a theithiwch i dref farchnad Castellnewydd Emlyn yng nghornel gogledd-orllewinol y sir ar gyfer ail gam eich triathlon - i'w gwblhau ar y beic! Ychydig yn fyrrach na'r pellter Olympaidd arferol, mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol i'r rheiny sy'n dechrau ymddiddori mewn beicio neu'r sawl sydd am rywbeth mwy hamddenol. Dechreuwch y llwybr yng nghanolfan hamdden y dref, trowch i'r dde wrth adael y Ganolfan Hamdden a chymerwch yr ail droad i'r chwith, gan ymuno â'r A484. Oddi yma byddwch yn gadael Castellnewydd Emlyn ar yr A484 gan feicio yn harddwch Dyffryn Teifi a dilyn Afon Teifi wrth iddi ymdroelli ar lawr y dyffryn. Cadwch ar yr heol hon tan ichi gyrraedd Cenarth, sy'n lle perffaith i gael hoe yn y siop de leol ac i gael cip ar y golygfeydd trawiadol o'r afon yn byrlymu dros Raeadrau Cenarth. Neidiwch yn ôl ar y beic ac arhoswch ar yr A484 gan fynd tuag at Lechryd. Ar ôl cyrraedd y pentref trowch i'r chwith gan groesi'r bont gerrig (mae'r Carpenter's Arms rownd y gornel i'r dde os bydd angen hoe arall arnoch), ac ar ôl ei chroesi trowch i'r chwith eto. Oddi yma, gallwch fwynhau beicio ar hyd lonydd tawel cefn gwlad rhwng caeau glas ffermwyr Dyffryn Teifi hyd nes cyrraedd y gyffordd gyntaf. Trowch i'r chwith yma i fynd ar hyd yr heol i Benrhiw. Ym Mhenrhiw trowch i'r chwith wrth y gyffordd lle byddwch yn ymuno â'r B4332. Gwyrwch i'r chwith wrth y gyffordd nesaf ac i'r chwith eto wrth y gyffordd wedyn. Yna cymerwch yr ail droad i'r dde oddi ar y B4332. Arhoswch ar yr heol hon am 2.5 cilometr, wedyn ewch yn syth ymlaen ar draws y gyffordd nesaf cyn gwyro i'r dde. Dilynwch yr heol hon am 2.6 cilometr a byddwch yn ailymuno â'r A484. Trowch i'r dde wrth y gyffordd hon a dilynwch yr heol yn ôl i Gastellnewydd Emlyn i gwblhau eich taith!

CERDDED / RHEDEG - Castellnewydd Emlyn i Genarth (11 cilometr)

Y ffordd berffaith o ddod â'ch triathlon yng ngogledd y sir i ben yw trwy gerdded neu redeg gan ddilyn llwybr o Gastellnewydd Emlyn i Genarth ar hyd cwrs afon Teifi - 5.5 cilometr o bellter (11 cilometr yno ac yn ôl). Gan ddechrau yn y Castell yng Nghastellnewydd Emlyn, tref ar lannau afon Teifi sydd â'i chastell ei hun a adeiladwyd gan dywysog lleol, ewch ar y llwybr glan afon o amgylch y castell, gan ddychwelyd i'r castell cyn mynd tua'r dref a throi i'r dde i Stryd y Bont. Yna trowch i'r chwith ar ôl Gwesty'r Emlyn gan ddilyn llwybr gwledig hyd nes ichi gyrraedd yr A484. Yn ôl y sôn, mewn pwll dwfn ar hyd y rhan hon o'r afon o'r enw 'Pwll Dafi Williams' y lladdwyd y ddraig olaf ym Mhrydain, a hynny ar ôl cael ei thrywanu gan saeth wenwynig a boddi wedyn yn y pwll. Dilynwch yr A484 i'r gogledd gan droi i'r chwith wrth Eglwys y Mormoniaid (tua 1 cilometr o'r dref). Yna pan fo'r llwybr yn fforchio trowch i'r dde a bydd y daith yn eich hebrwng drwy lecynnau tawel y wlad a thrwy gaeau ffermwyr gan ddilyn dyffryn yr afon hyd at Genarth. Mae Cenarth yn bentref diddorol ac yn enwog am yr eogiaid sy'n llamu dros ei raeadrau. Galwch yn yr Amgueddfa Cwrwgl ac yn yr ystafell de i gael te a chacen flasus cyn dechrau ar eich taith yn ôl i Gastellnewydd Emlyn.