Cyfnod Atal: 23 Hydref – 9 Tachwedd

Rydym wrth ein boddau yn eich gweld chi i gyd ond yn anffodus mae'n rhaid i ni ofyn i chi beidio ag ymweld â ni yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd.

Nid yw teithio hanfodol yn cynnwys ymweld ag ail gartrefi, safleoedd gwersylla, parciau carafannau neu safleoedd tebyg, boed hynny at ddibenion ynysu neu wyliau. Dylai pobl aros yn eu prif breswylfa.

Bydd ein cefn gwlad a'n traethau yma i'w mwynhau o hyd pan ddaw hyn i ben. Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl yn y dyfodol; ond am y tro, #byddwchynddiogel.

Ewch i'n tudalen Newyddion i weld y canllawiau diweddaraf a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Ewch i dudalen newyddion y Cyngor i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Llyn Brianne

Taith o gwmpas harddwch Llyn Brianne a draw i Ddyffryn Teifi

Cychwyn: Llanymddyfri

Cyfanswm Pellter: 93km/58 milltir

Cyfanswm Dringo: 1680m/5500tr

Lefel Anhawster: 9/10

Amcangyfrif Amser: 4 i 5awr

Route map for Llyn Brianne - Llandovery (T2) by Discover Carmarthenshire on plotaroute.com

Cyfarwyddiadau

O Faes Parcio Llanymddyfri ewch allan i’r A40 a’i dilyn am 300 metr, yna trowch i’r dde (cyn y groesfan) i’r A483, arwydd Llanfair-ym-Muallt. Ar ôl 300 metr, trowch i’r chwith, arwydd Llyn Brianne.

Dilynwch y ffordd hon trwy Randir-mwyn ac ymlaen o gwmpas Llyn Brianne. Wrth ichi ddod tuag at ddiwedd y darn o gwmpas y gronfa ddŵr, cadwch i’r chwith a chroeswch y bont, arwydd Tregaron / Soar y Mynydd. Dilynwch y ffordd am 8km cyn ichi gyfarfod priffordd arall ger blwch ffôn gwag a chadwch i’r chwith. Ewch ymlaen dros Gwm Berwyn i Dregaron. Yn Nhregaron yn y gyffordd-t trowch i’r chwith a dilynwch y B4343 / Llwybr Sustrans 82 am 17km gan fynd drwy nifer o bentrefi llai i Gwm-ann.

Yn y gyffordd-t trowch i’r chwith i’r A482 a’i dilyn am 700 metr. Ar ôl croesi croesfan sebra, trowch i’r chwith i is-ffordd a’i dilyn wrth iddi ddringo am ychydig dros 1.5km ac yna trowch i’r dde (diarwydd). Dilynwch y ffordd am 2km i gyffordd-t a throwch i’r chwith yn ôl i’r A482. Dilynwch y ffordd trwy bentref Pumsaint. Ewch yn eich blaen am 6km ar ôl Pumsaint, sy’n cynnwys un ddringfa hir. Wrth i’r ffordd ddechrau mynd ar i lawr trowch i’r chwith, arwydd Porth-y-rhyd. Unwaith rydych ar yr is-ffordd ewch ymlaen trwy bentrefi Porth-y-rhyd a Siloh ac yna i lawr disgyniad hir a chyflym. Ar y gwaelod aiff y ffordd dros bont garreg grwb gul i gyffordd-t. Trowch i’r dde yma ac ewch yn ôl i Lanymddyfri.

Wrth ichi adael Llanymddyfri ceir antur i bob cyfeiriad, ond os ydych yn chwilio am anialdir a ffyrdd tawel mae angen ichi fynd i gyfeiriad gogleddol. O’r holl lwybrau seiclo o Lanymddyfri ar hon y mae’r dringo mwyaf, felly cawsoch eich rhybuddio. O’r cychwyn mae’n mynd ar ffyrdd tawelach ac i mewn i rannau uchaf dyffryn Tywi, gan ddilyn llwybr yr afon wrth iddi fynd ar i fyny. Er bod y ffyrdd  yn fryniog o’r cychwyn, mae’r 10km cyntaf yn gymharol hawdd o gymharu â’r hyn sy’n dilyn, ac ar ôl pentref Rhandir-mwyn y mae’r hwyl yn dechrau o ddifrif.

Yn fuan wedyn mae’r graddiant yn mynd yn fwy cyson, gan godi wrth i’r ffordd ddringo tuag at Lyn Brianne. Er mwyn gweld yr argae a’r slipffordd rhaid teithio darn ychwanegol byr iawn, ac mae’n werth ei wneud i weld yr olygfa i’r gronfa ddŵr ac i lawr y slipffordd i’r ganolfan hydro ar y gwaelod. Yn ôl ar y llwybr, mae’r dringo’n parhau ac mae’r ffordd yn dechrau troelli wrth iddi ddilyn ymyl y gronfa ddŵr. Ni fyddai’n syndod peidio gweld cerbyd arall ar hyd 15-20km y ffordd wrth iddi nadreddu o gwmpas.

Mae’r boblogaeth yn y rhan hon o Gymru yn arbennig o wasgarog, ac nid oes ond dyrnaid o ffermydd a thai rhwng Rhandir-mwyn a’r dref nesaf, Tregaron. Mae nifer o nodweddion nodedig ar hyd y llwybr, gan gynnwys yr hyn oedd yn flwch ffôn mwyaf anghysbell Prydain, ac er ei fod erbyn hyn yn wag mae’n dal yn ei le. Mae’r daith hir ar i lawr i dref Tregaron yn ddifyr, gan gynnwys golygfeydd draw at y môr os yw’r tywydd yn dda.

O Dregaron mae’r llwybr yn troi i’r gorllewin ac yn dilyn hynt afon hir arall yng Nghymru, y Teifi. A hithau’n afon sy’n enwog am ei physgod, llifa i’r môr yn Aberteifi ac mae’n un o’r afonydd hiraf yng Nghymru. Mae’r ffordd sy’n dilyn yr afon yn donnog, ond o gymharu â’r ffordd o gwmpas Llyn Brianne mae bron yn hawdd. Dewch i bentref Cwm-ann ar ddarn byr o ffordd A cyn troi ar isffordd i osgoi darnau prysurach y ffordd. Rydych yn ailymuno â’r ffordd ar ddarn uchel, a elwir yn Dafarn Jem. Mae’r golygfeydd oddi yma draw at Fannau Frycheiniog ar ddiwrnod clir yn rhyfeddol.

Mae’r llwybr yn gyflym i bentref Pumsaint ac yna ceir un ddringfa olaf, ac o gofio’r pellter a’r dringo a wnaed yn barod mae’n debygol o fod yn galed, ond mae’r ffordd yn ôl i Lanymddyfri o’r copa yn un ddymunol wrth iddi droi’n ôl ar isffordd, trwy Borth-y-rhyd ac yna Siloh, cyn y disgyniad cyflym olaf yn ôl i gyrion y dref.

Uchafbwyntiau

Llyn Brianne – Ffordd dawel o gwmpas y gronfa ddŵr odidog

Cwm Berwyn – Mor agos i anialdir go iawn ag a gewch yng Nghymru, gyda thirwedd ucheldir a phrin unrhyw wareiddiad

Tregaron i Lanbedr Pont Steffan – 16km o ffordd droellog trwy bentrefi tawel yn cynnwys Llanddewi Brefi

Cyfle am hoe

Tregaron – Siop gyffredinol Spar

Llanymddyfri – Ystafelloedd Te Penygawse

Llanymddyfri – Caffi’r Ganolfan Grefftau

Llanymddyfri – West End Cafe

Gwybodaeth ddefnyddiol

County Cycles – Siop feiciau, Cross Hands

Cycle-tec – Siop feiciau – Llanfair-ym-Muallt