Yn yr Hydref, mae gan Sir Gâr arlliw cochlyd. Mae'r dail yn ein coetiroedd hynafol yn troi'n wahanol fathau o felyn, oren, copr a brown. Mae'r dyddiau'n byrhau ond mae'r rhestr o bethau i'w gwneud yma yn hirach nag erioed.
Yn ein barn ni, yr hydref yw'r tymor prysuraf yn Sir Gâr - yr adeg o'r flwyddyn pan mae natur yn cynnig sioe fendigedig. Yn Rhaeadr Cenarth, wrth glywed sŵn raeadrau'r Afon Teifi, gallwch weld eogiaid yn llamu i fyny'r afon. Maent yn naturiol yn dychwelyd i'w safleoedd silio. Yn yr hydref hefyd mae'r drudwy yn gwibio trwy'r awyr yn y nos. Ewch i gael sêt flaen yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli a mwynhau'r perfformiad.
Os yw'n well gennych fod yn egnïol, dyma'r amser delfrydol i gerdded neu feicio o amgylch arfordir a chefn gwlad Sir Gâr. Mae Coedwig Brechfa yn gyrchfan i feicwyr mynydd ond mae hefyd yn llecyn delfrydol ar gyfer mynd am dro yn yr hydref. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd arfordir Sir Gâr, ac yn yr hydref mae ar ei orau. Wrth i'r dyddiau byrhau a'r nosweithiau tywyll ymestyn, rydych chi'n fwy tebygol o'i rannu â llwynog, wiwer neu bathew nag ymwelydd arall.
Yn yr hydref mae lliwiau ein coetiroedd hynafol yn dod i'w hanterth, megis Coed Castell Moel ger Caerfyrddin. Yma, eurfrown yw lliw'r hydref. Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae coed masarn Japan yn tywynnu oherwydd eu dail rhuddgoch a fflamgoch. Yn ddiweddarach yn yr hydref mae ymwelwyr yn mwynhau golau cynnes tân coed. Y lleoliad perffaith i fwynhau ffair hydref leol sy'n cynnig gwreiddlysiau ac afalau o berllannau cyfagos.
Teithiau cerdded hydrefol
Mae'r Hydref yn adeg berffaith o'r flwyddyn i fwynhau gwyliau byr a darganfod teithiau cerdded gwych o amgylch Sir Gâr. Os ydych chi'n chwilio am dirweddau dramatig, ewch am dro i Fforest Brechfa. Yn yr hydref, gall cerddwyr ymgolli yn y coetir sy'n arddangos coed o bob cwr o'r byd.
Ewch am daith o Gastellnewydd Emlyn i Raeadr Cenarth. Mae'r llwybr yn eich tywys trwy ardaloedd coediog sy'n cynnig golygfeydd o fryniau cyfagos sy'n llawn lliwiau cynnes yr hydref. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld yr Eog yn llamu yn Rhaeadrau Cenarth.
Hydref yw'r adeg gorau i fwynhau Talacharn a'r arfordir o gwmpas. Dilynwch Lwybr Pen-blwydd Dylan Thomas sy'n cynnig golygfeydd godidog dros yr aber. Dyma'r daith gerdded a gymerodd ar ei ben-blwydd bob blwyddyn ym mis Hydref o'i gartref, y 'Boathouse', i fryn Syr John ac yn ôl i'r dref. Dewch i brofi'r golygfeydd a'r synau a ysbrydolodd cerdd Dylan Thomas sy'n dwyn y teitl priodol "Poem in October.”
Ein Trefi
Dewch i weld yr hyn sydd gan ein trefi i'w gynnig yn ystod yr Hydref gan gynnwys bwytai sy'n gweini prydau tymhorol a manwerthwyr annibynnol.
Gallwch ymweld â threfi megis Caerfyrddin a Llanelli, neu efallai y byddai'n well gennych drefi marchnad gwledig hardd megis Llandeilo a Chastellnewydd Emlyn neu ewch i bentrefi glan môr Llansteffan a Glanyfferi.
Ffordd wych o brofi ehangder ein sir ac unigrywiaeth ein trefi a'n pentrefi yw trwy roi cynnig ar Ffordd Wledig y Porthmyn, sef llwybr gyrru ledled tirweddau Sir Gâr.
Diwylliant
Mae'r sir yn llawn hanes a diwylliant felly ewch i ddysgu mwy drwy ymweld â'n hamgueddfeydd a mwynhau eu harddangosfeydd tymhorol.
Yn Sir Gâr, ceir nifer o gestyll. Mae gan bob un ei stori ei hun i'w hadrodd a phob un wedi'i adeiladu ar dirweddau neu forluniau dramatig. Yr hydref yw'r amser gorau i ymweld â chestyll rhamantus Sir Gâr wrth iddynt fod dan orchudd coed oren a choch. O Gastell Carreg Cennen, rhyw 900 troedfedd uwchlaw afon Cennen gyda golygfeydd panoramig dros ran orllewinol Bannau Brycheiniog, sy'n edrych hyd yn oed yn fwy dramatig wrth i haul yr Hydref fachlud a thonau cyfnewidiol y coetir ymddangos ar y Mynydd Du, i Gastell Llansteffan ar yr arfordir.
Mae mis Medi yn amser gwych i ymweld â'n safleoedd hanesyddol drwy'r Cynllun Drysau Agored sy'n cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau a theithiau tywys.
Profiadau bwyd
Ewch yn syth i 'ffynhonnell' bwyd a diodydd a wneir yn lleol, gyda rhai profiadau dilys i'w mwynhau ar hyd y ffordd drwy ein llwybrau Cynnyrch Lleol yn Sir Gâr.
Os mai Jin yw eich hoff ddiod, yna mae'n rhaid i chi ymweld â Jin Talog. I'r rhai sy'n dwlu ar gaws, cofiwch ymweld â Caws Cenarth. I bobl sy'n dwlu ar siocled, mae ymweld â Heavenly yn brofiad nefolaidd. I weld rhestr lawn o'n cynhyrchwyr gorau a lleoedd i fwyta ac yfed, ewch i 100% Sir Gâr.
Beth am fwynhau picnic tymhorol yn rhai o'n lleoliadau gwledig ac arfordirol gorau. Gwledd berffaith yn y natur agored!
Croesewir cŵn
Petai gwefan TripAdvisor ar gael i gŵn, rydym ni'n siŵr y byddai Sir Gâr yn cael 5 seren ganddyn nhw.
Yma, gellir mynd â'ch ci ar sawl wâc wahanol. Os ydych chi'n chwilio am daith gerdded arbennig i chi a'r ci, mae gan Sir Gâr ddigonedd o deithiau cerdded gwych y byddwch chi a'ch ffrindiau blewog yn dwlu arnon nhw.
Bydd pob un o'n traethau yn croesawu cŵn o 1 Hydref a byddant yn bendant yn mwynhau'r amrywiaeth eang o draethau lle gallant redeg, cerdded ac o bosibl nofio. Mae nifer o dafarndai, caffis, gwestai ac atyniadau yn rhoi croeso twymgalon i gŵn.
Digwyddiadau'r Hydref ar gyfer y teulu cyfan
Mae'r hydref yn amser gwych i'r teulu cyfan ymweld, gan fod amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y sir yn ystod yr hydref gan gynnwys arddangosfeydd tân gwyllt anhygoel a digwyddiadau Calan Gaeaf arswydus.
Mae Bwyd a Diod ar y fwydlen gyda marchnadoedd stryd crefftus bywiog yn ymweld â Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Ym mis Hydref, dewch i flasu'r danteithion yng Ngŵyl Bwyd a Diod Llanelli. Dathlwch flasau'r tymor yng Ngŵyl Fwyd yr Hydref, penwythnos llawn blas, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.