English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Yn yr Hydref, mae gan Sir Gâr arlliw cochlyd. Mae'r dail yn ein coetiroedd hynafol yn troi'n wahanol fathau o felyn, oren, copr a brown. Mae'r dyddiau'n byrhau ond mae'r rhestr o bethau i'w gwneud yma yn hirach nag erioed.

 Yn ein barn ni, yr hydref yw'r tymor prysuraf yn Sir Gâr - yr adeg o'r flwyddyn pan mae natur yn cynnig sioe fendigedig. Yn Rhaeadr Cenarth, wrth glywed sŵn raeadrau'r Afon Teifi, gallwch weld eogiaid yn llamu i fyny'r afon. Maent yn naturiol yn dychwelyd i'w safleoedd silio. Yn yr hydref hefyd mae'r drudwy yn gwibio trwy'r awyr yn y nos. Ewch i gael sêt flaen yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli a mwynhau'r perfformiad.

Os yw'n well gennych fod yn egnïol, dyma'r amser delfrydol i gerdded neu feicio o amgylch arfordir a chefn gwlad Sir Gâr. Mae Coedwig Brechfa yn gyrchfan i feicwyr mynydd ond mae hefyd yn llecyn delfrydol ar gyfer mynd am dro yn yr hydref. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd arfordir Sir Gâr, ac yn yr hydref mae ar ei orau. Wrth i'r dyddiau byrhau a'r nosweithiau tywyll ymestyn, rydych chi'n fwy tebygol o'i rannu â llwynog, wiwer neu bathew nag ymwelydd arall.

Yn yr hydref mae lliwiau ein coetiroedd hynafol yn dod i'w hanterth, megis Coed Castell Moel ger Caerfyrddin. Yma, eurfrown yw lliw'r hydref. Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae coed masarn Japan yn tywynnu oherwydd eu dail rhuddgoch a fflamgoch. Yn ddiweddarach yn yr hydref mae ymwelwyr yn mwynhau golau cynnes tân coed. Y lleoliad perffaith i fwynhau ffair hydref leol sy'n cynnig gwreiddlysiau ac afalau o berllannau cyfagos.

 

Teithiau cerdded hydrefol

Cerdded yn Sir Gar

Mae'r Hydref yn adeg berffaith o'r flwyddyn i fwynhau gwyliau byr a darganfod teithiau cerdded gwych o amgylch Sir Gâr. Os ydych chi'n chwilio am dirweddau dramatig, ewch am dro i Fforest Brechfa. Yn yr hydref, gall cerddwyr ymgolli yn y coetir sy'n arddangos coed o bob cwr o'r byd.

Ewch am daith o Gastellnewydd Emlyn i Raeadr Cenarth. Mae'r llwybr yn eich tywys trwy ardaloedd coediog sy'n cynnig golygfeydd o fryniau cyfagos sy'n llawn lliwiau cynnes yr hydref. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld yr Eog yn llamu yn Rhaeadrau Cenarth. 

Hydref yw'r adeg gorau i fwynhau Talacharn a'r arfordir o gwmpas. Dilynwch Lwybr Pen-blwydd Dylan Thomas sy'n cynnig golygfeydd godidog dros yr aber. Dyma'r daith gerdded a gymerodd ar ei ben-blwydd bob blwyddyn ym mis Hydref o'i gartref, y 'Boathouse', i fryn Syr John ac yn ôl i'r dref. Dewch i brofi'r golygfeydd a'r synau a ysbrydolodd cerdd Dylan Thomas sy'n dwyn y teitl priodol "Poem in October.” 

Ein Trefi

Llefydd

Dewch i weld yr hyn sydd gan ein trefi i'w gynnig yn ystod yr Hydref gan gynnwys bwytai sy'n gweini prydau tymhorol a manwerthwyr annibynnol.

Gallwch ymweld â threfi megis Caerfyrddin a Llanelli, neu efallai y byddai'n well gennych drefi marchnad gwledig hardd megis Llandeilo a Chastellnewydd Emlyn neu ewch i bentrefi glan môr Llansteffan a Glanyfferi. 

Ffordd wych o brofi ehangder ein sir ac unigrywiaeth ein trefi a'n pentrefi yw trwy roi cynnig ar Ffordd Wledig y Porthmyn, sef llwybr gyrru ledled tirweddau Sir Gâr.

Diwylliant

Cestyll a Phlastai Hanesyddol

Mae'r sir yn llawn hanes a diwylliant felly ewch i ddysgu mwy drwy ymweld â'n hamgueddfeydd a mwynhau eu harddangosfeydd tymhorol. 

Yn Sir Gâr, ceir nifer o gestyll. Mae gan bob un ei stori ei hun i'w hadrodd a phob un wedi'i adeiladu ar dirweddau neu forluniau dramatig. Yr hydref yw'r amser gorau i ymweld â chestyll rhamantus Sir Gâr wrth iddynt fod dan orchudd coed oren a choch. O Gastell Carreg Cennen, rhyw 900 troedfedd uwchlaw afon Cennen gyda golygfeydd panoramig dros ran orllewinol Bannau Brycheiniog, sy'n edrych hyd yn oed yn fwy dramatig wrth i haul yr Hydref fachlud a thonau cyfnewidiol y coetir ymddangos ar y Mynydd Du, i Gastell Llansteffan ar yr arfordir. 

Mae mis Medi yn amser gwych i ymweld â'n safleoedd hanesyddol drwy'r Cynllun Drysau Agored sy'n cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau a theithiau tywys.

 

Profiadau bwyd

Lwybrau Cynnyrch Lleol 100% Sir Gâr

Ewch yn syth i 'ffynhonnell' bwyd a diodydd a wneir yn lleol, gyda rhai profiadau dilys i'w mwynhau ar hyd y ffordd drwy ein llwybrau Cynnyrch Lleol yn Sir Gâr. 

Os mai Jin yw eich hoff ddiod, yna mae'n rhaid i chi ymweld â Jin Talog. I'r rhai sy'n dwlu ar gaws, cofiwch ymweld â Caws Cenarth. I bobl sy'n dwlu ar siocled, mae ymweld â Heavenly yn brofiad nefolaidd. I weld rhestr lawn o'n cynhyrchwyr gorau a lleoedd i fwyta ac yfed, ewch i 100% Sir Gâr

Beth am fwynhau picnic tymhorol yn rhai o'n lleoliadau gwledig ac arfordirol gorau. Gwledd berffaith yn y natur agored!

Croesewir cŵn 

Croesawu Cŵn

Petai gwefan TripAdvisor ar gael i gŵn, rydym ni'n siŵr y byddai Sir Gâr yn cael 5 seren ganddyn nhw.

Yma, gellir mynd â'ch ci ar sawl wâc wahanol. Os ydych chi'n chwilio am daith gerdded arbennig i chi a'r ci, mae gan Sir Gâr ddigonedd o deithiau cerdded gwych y byddwch chi a'ch ffrindiau blewog yn dwlu arnon nhw.

Bydd pob un o'n traethau yn croesawu cŵn o 1 Hydref a byddant yn bendant yn mwynhau'r amrywiaeth eang o draethau lle gallant redeg, cerdded ac o bosibl nofio. Mae nifer o dafarndai, caffis, gwestai ac atyniadau yn rhoi croeso twymgalon i gŵn.

Digwyddiadau'r Hydref ar gyfer y teulu cyfan

Be Sy’mlaen

Mae'r hydref yn amser gwych i ymweld â Sir Gâr gyda digwyddiadau i'r teulu cyfan eu mwynhau. Ym mis Hydref, dewch i flasu'r bwyd a diod tymhorol sydd ar gael yng Ngŵyl Bwyd a Diod Llanelli. 

Ymgollwch yn llwybr tân hudolus 'Anadl y Ddraig' sef digwyddiad newydd sy'n dod i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy'n cynnwys tân, barddoniaeth, cerddoriaeth a pherfformiad. 

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y sir yn ystod yr hydref gan gynnwys arddangosfeydd tân gwyllt anhygoel a digwyddiadau Calan Gaeaf arswydus. 

Cynigion llety yr hydref ar gyfer darllenwyr Boundless

Mae'r cynigion hyn yn gyfyngedig i Aelodau Boundless yn unig – gofynnir i chi gyflwyno eich rhif aelodaeth Boundless unigryw ar ôl cyrraedd.

A room with a view

Archebwch 2 noson a chael y drydedd noson yn hanner pris. Dylid archebu dros y ffôn a dyfynnu 'Boundless' - 07502 539737. Cynnig ar gael drwy gydol y flwyddyn.

 

Bythynnod Aberglasne

Mwynhewch y gerddi cyfan i chi'ch hun y tu allan i'r oriau arferol a basged o ddanteithion lleol o Gymru wrth gyrraedd. Defnyddiwch y côd BOUNDLESS wrth archebu brêc ar ein gwefan. Cynnig ar gael drwy gydol y flwyddyn.

The Barn Meidrim

Tocyn mynediad i'r teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar gyfer 2 oedolyn a 2 blentyn gyda phob archeb. Dylai gwesteion nodi'r cyfeirnod BOUNDLESS wrth archebu eu gwyliau trwy ein gwefan neu drwy e-bost i hawlio'r fargen hon. meidrim.com. Cynnig ar gael rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025.

 

Basel Cottage

Sesiwn Rhagflas Saethyddiaeth am ddim ar y safle ar gyfer holl westeion Boundless, a ddarperir gan Jonah sy'n hyfforddwr cymwys Archery GB neu Sesiwn Rhagflas Saethu Targed gyda Reiffl Awyr a ddarperir eto gan Jonah sydd hefyd yn Hyfforddwr BASC cymwys. Mae'r sesiynau rhagflas hyn yn cynnwys brîff diogelwch llawn, yr holl offer a hyfforddiant cymwys am 1 awr. Mae'r sesiynau rhagflas hyn yn werth £20 y person. (Sylwch y bydd angen archebu'r Sesiynau Rhagflas am ddim hyn ymlaen llaw ac maent yn ddibynnol ar y tywydd). Nodwch 'Boundless' ar y System Archebu i hawlio cynnig. Cynnig ar gael ar gyfer archebion hyd at fis Medi 2025.

Brechfa Forest Barns

15% oddi ar unrhyw frêc tan ddydd Gwener 20 Rhagfyr gan ddefnyddio'r côd BOUNDLESS yn yr adran dalu wrth archebu brêc ar ein gwefan.

Glangwili Mansion

Archebwch 2 noson a chael y drydedd noson yn hanner pris. Mae'r cynnig yn rhedeg rhwng 16 Medi a 19 Rhagfyr 2024 (yn amodol ar argaeledd). Dylid archebu dros y ffôn a dyfynnu 'Boundless' - 01267 253735 glangwilimansion.co.uk

Glansevin Mansion

10% oddi ar archebion ar gyfer y prif blasty ar dariff 2025 ar y wefan. Daw'r cynnig i ben ar 20 Tachwedd ar gyfer archebion hyd at 30 Ebrill 2025. Nodwch 'BOUNDLESS' wrth archebu ar ffurflen ymholiad y wefan neu dros y ffôn - 07355 510486.

Great Welsh Escapes

Gostyngiad o £50 oddi ar frêc 3 noson neu £75 oddi ar arhosiad 7 noson. Defnyddiwch y côd BOUNDLESS50 ar gyfer arhosiad 3 noson a BOUNDLESS75 ar gyfer arhosiad 7 noson. Mae'r cynnig yn ddilys ar gyfer arosiadau hyd at fis Mawrth 2025. GreatWelshEscapes.com

 

Holidays for Dogs

Gostyngiad o 10% oddi ar unrhyw archeb o 3 noson neu fwy. Dylid archebu dros y ffôn a dyfynnu 'Boundless' - 07966 282242. Cynnig ar gael rhwng Hydref 2024 a Mai 2025. www.holidaysfordogs.com 

Glas Nant Stone Barn

Gostyngiad o £50 ar arhosiad 2 noson yn Hydref 2024. Côd disgownt i'w nodi wrth archebu yw: boundless. Derbynnir archebion tan 14 Rhagfyr 2024 ar gyfer dyddiadau llety rhwng 01 Hydref - 01 Ebr 2025.

Llanerchindda

10% oddi ar bris y llety wrth aros am o leiaf 3 noson. Mae'r cynnig hwn ar gael pan rydych yn aros rhwng 1 Hydref 2024 a 31 Mawrth 2025. Dylid archebu dros y ffôn a dyfynnu 'Boundless' - 01550 750274 

Plas Llangoedmor 

Bydd cyplau sy'n archebu gwyliau byr drwy'r cynnig hwn rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025 yn derbyn trît am ddim sef hamper brecwast (gwerth £15) sy'n cynnwys y gorau sydd gan Sir Gâr i'w gynnig o ran cynnyrch brecwast lleol a byddant hefyd yn derbyn dau ŵn tŷ moethus i fwynhau yn ystod y seibiant. Dylai gwesteion nodi'r cyfeirnod BOUNDLESS wrth archebu eu gwyliau drwy ein gwefan neu drwy e-bost i hawlio'r fargen hon. welshstays.com 

Talog Country Retreat

Archebwch 2 noson a chael gostyngiad o 50% ar y drydedd noson. Neu archebwch 3 noson a chael y bedwaredd noson AM DDIM. Gallwch archebu dros y ffôn naill ai drwy ffonio neu drwy anfon neges at 07412 324249 a dyfynnu 'BOUNDLESS' facebook.com/TalogCountryRetreat. Offer available from September until end of June 2025.

Ty Log

2 docyn am ddim i Gerddi Aberglasne i aelodau Boundless. Bydd y cynnig ar gael tan 5 Ebrill 2025. Dylid nodi'r cyfeirnod BOUNDLESS wrth archebu gwyliau trwy ein gwefan neu drwy e-bost i hawlio'r fargen hon. independentcottages.co.uk