English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Rydych chi wedi clywed am yr hygge yn Sgandinafia; nawr beth am gwtsh Cymreig go iawn? Does yna ddim cyfieithiad Saesneg llythrennol o cwtsh. Fodd bynnag, gellir ei ddisgrifio fel cofleidio, anwesu. Ail ystyr iddo yw cwpwrdd lle byddwch yn cadw pethau’n ddiogel. Felly, wrth gyfuno’r ddau ystyr mae gennym air sy’n cyfleu’r teimlad o fod yn glyd.

Mae gan y canllaw Cwtsho Lan yn Sir Gâr, awgrymiadau ynglŷn â’r gwyliau gaeaf byrion perffaith, pan gewch lapio’ch hun mewn profiadau cysurlon, gwledda ar dirluniau fydd yn mynd â’ch gwynt a chael anturiaethau adfywiol yn yr awyr agored, gyda bwyd cysurlon, blasus i ddilyn wrth danllwyth o dân. 

Felly chwiliwch am eich siwmperi gwlân a chofleidiwch yr elfennau i ddod o hyd i’ch cwtsh chi y gaeaf yma, cofleidiad Cymreig gwresog i’r enaid ...

Cymerwch ddeg o wyliau byrion clyd

Cwtsh Gwerth am Arian

Mae Caban yn gwtsh gwerth am arian gwych lle mae'r ystafelloedd yn costio llai na £100 y noson ac mae croeso cynnes i bawb. Mae hynny'n golygu ffrindiau, pobl ar eu pen eu hunain, teuluoedd a chŵn, yn ogystal â chynnig ystafelloedd hygyrch ym mhentref arfordirol Pentywyn. Mae yna gaffi, bwyty a phob math o ddigwyddiadau gwych. Mae'n edrych dros draeth Pentywyn, sy'n 7 milltir o hyd, ac mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg y drws, sy'n gwneud hwn yn opsiwn penigamp i'r rheiny sy'n dymuno dod heb gar. Mae llwyth o bethau i'w gwneud yn Sir Gar gan gynnwys gweithgareddau am ddim fel ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru neu Amgueddfa Sir Gaerfyrddin neu'n syml, mwynhau picnic gaeafol yn Nhŵr Paxton neu fynd ar daith gerdded fer i fyny Castell Dryslwn am olygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Tywi.

Cwtsh Croesawu'r Gwyllt

Beth am groesawu'r nosweithiau hir â breichiau agored drwy fynd ar antur ychydig bach yn wahanol i'r arfer ac ymuno â 'Thaith Gerdded yng ngolau'r Lleuad' dan arweiniad Lisa Denison o Quiet Walks. Mae'n daith gerdded 90 munud i fyny o amgylch bryngaer o'r Oes Haearn sy'n digwydd unwaith y mis i gyd-fynd â'r lleuad lawn. Neu ewch i Barc Arfordirol y Mileniwm i fynd am dro neu i fynd ar eich beic. Llwybr di-draffig 7 milltir o hyd rhwng Llanelli a Pharc Gwledig Pen-bre. Os oes well gennych fwynhau hwyl mwdlyd, gallwch wastad ddewis fynd i feicio mynydd, neu beth am feicio o amgylch ambell dafarn gynnes a chlyd ar e-feic. Gall cwtsho lan mewn caban neu yurt diarffordd fod yn hynod o hudolus hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf felly beth am roi cynnig ar glampio gaeafol mewn yurt yn Embrace the Space neu mewn caban yn Under Starry Skies sy'n fan cychwyn perffaith ar gyfer y rhaglen Quiet Walks. Os oes well gennych lety Gwely a Brecwast moethus, yna ewch i edrych ar Blas Glangwili ac archebwch le yn y Caban Pren 'Stargazer Log Cabin' ar gyfer pryf o fwyd preifat a chyfle i wylio'r sêr. Neu ewch i’r Plough, Felin-gwm ar gyfer eu nosweithiau Asado a mwynhewch wledd wedi’i choginio dros dân mewn cegin awyr agored bwrpasol.

Cwtsh Arfordirol

Ym Mhentywyn, cewch deimlo’n un â harddwch ysgythrog ynghyd â danteithion bwytadwy arfordir Sir Gâr drwy ymuno â Craig Evans sy’n feistr ar bopeth yn ymwneud â chwilota arfordirol, wrth iddo chwilio am gregyn, cocos a llysiau môr a mwy ar ei gyrsiau bwyd gwyllt. Ar y diwedd, bydd yn coginio popeth yr ydych wedi ei ddarganfod dros stof gannwyll, wedi ei gwneud â llaw, ar y traeth, gan gysgodi yn un o’r llu o ogofâu. Arhoswch dros nos yng Ngwesty Brown’s yn Nhalacharn, man yfed gorau Dylan Thomas, hoff fardd Cymru. Yma cewch fwynhau cig eidion, brid prin etifeddol yn nhŷ bwyta Dexters Steak House & Grill cyn swatio yn eich gwely o wlân Cymreig. Drannoeth, ewch i archwilio adfeilion Castell Talacharn, bwytewch y tapas yn y Ferryman Deli neu fwyd tafarn blasus yn y New Three Mariners a cherddwch ran o Lwybr Arfordirol Cymru, gan aros ar y ffordd am de prynhawn ger y dŵr yng Nghartref Dylan Thomas.

Cwtsh Diwylliannol

Beth am grwydro plastai arswydus, ymweld â theatrau art deco traddodiadol a dysgu am recordiau chwaraeon a mwy? Mae gan dref Llanelli orffennol diddorol y mae'n rhaid dysgu amdano. Mae'n rhaid ymweld â Phlas Llanelly, plasty o'r oes Sioraidd, sydd wedi'i leoli yng nghanol Llanelli. Plymiwch i'r gorffennol ar daith dywysedig. Mae Parc Howard wedi'i leoli mewn 24 erw o barcdir, i'r gogledd o ganol tref Llanelli, ac yma gallwch weld y casgliad cyhoeddus mwyaf o Grochenwaith Llanelly. Bydd arddangosfa newydd yn edrych ar fywydau'r bobl a wnaeth ac a ddefnyddiodd y brand enwog. Teithiwch yn ôl mewn amser i 1912 yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr. Mae Plas Dinefwr sy'n adeilad Gradd II* yn wledd o ffenestri a cholofnau Gothig, gyda thyrau pigog ym mhob cornel. I ddysgu mwy, argymhellir taith dywysedig. Mae'r Amgueddfa Cyflymder newydd sbon, ym mhentref arfordirol Pentywyn, yn adrodd hanes eiconig Traeth Pentywyn a'r recordiau chwaraeon enwog a osodwyd yma, mewn ffordd ryngweithiol, drwy brofiad. Beth am ymweld ag un o'r tair theatr yn Sir Gâr, pob un yn unigryw o ran yr hyn mae'n ei gynnig.

Cwtsh Creadigol

Mae'r arlwy crefftau yn Sir Gâr yn ffynnu sy'n golygu bod blancedi a nwyddau gwlân gaeafol gwych ar gael i'w prynu gan Davies & Co neu Jen Jones yn ogystal â gwneuthurwyr campus i ymweld â nhw fel Tim Lake Ceramics , Rural Kind a Rosa Harradine, gwneuthurwr brwshys traddodiadol sydd hyd yn oed yn cynnig gweithdai hanner diwrnod. Gan gyfuno cwrs crochenwaith a seibiant byr dros nos yn y llety sydd ganddynt, mae Siramik yn cynnal cyrsiau penwythnos bob mis ac mae Small Holding Secrets, ger Cydweli yn cynnig Gwehyddu ar Ŵydd Pegiau. Mae'r Fforest Arms ym Mrechfa (ystafelloedd a bwyd) yn daith fer yn y car o West Wales Willows sy'n cynnig cyrsiau plethu gwiail helyg (basgedi, bagiau, cewyll a nwyddau cynnal planhigion) am ddiwrnod neu ddau - Willow Workshops – West Wales Willows. Neu i gyfuno gweithdy ffeltio â seibiant byr mewn bwthyn bach tawel ar gyrion Mynyddoedd Cambria, beth am archebu lle yn Cambrian Escapes yn yr un pentref, lle ceir twba twym wedi'i wresogi â choed tân sy'n fan perffaith i fanteisio i'r eithaf ar yr awyr dywyll.

Cwtsh Coginio, Cocos a Chawl

Yn aml, yr unig bethau sy'n rhoi cysur a gwres yn y gaeaf yw bwydydd blasus a chacennau cartref. Yn llythrennol, cysur mewn powlen yw Cawl, pryd traddodiadol Cymreig wedi'i wneud un ai â chig oen neu â chig eidion ac sy'n llawn dop o wreiddlysiau a chennin. Mae'r White Hart Inn yn cynnig Cawl ar y fwydlen yn ogystal â thanllwyth o dân ac mae'n un o'r llefydd i stopio ar y llwybr O Gawl i Gawl , llwybr sy'n tynnu sylw at yr holl lefydd gorau i wledda ar y pryd blasus nodweddiadol hwn. Neu gallwch gofrestru eich plant i goginio prydau Cymreig mewn Gweithdai Coginio yn Ysgol Goginio y Sied, lle gallant ddysgu sut i goginio pice ar y maen, ffordd berffaith o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi! Fel arall, beth am ddechrau'r diwrnod mewn ffordd wirioneddol Gymreig a mynd i Flows on Market Street yn Llandeilo i gael brecwast o gocos, bara lawr a sbigoglys gyda ŵy wedi'i ffrio ar y top. Ar ôl yr holl gacennau, cocos a chawl, beth am orffwys yn Picton House, bwyty a gwesty bach ger Sanclêr.

Cwtsh Botanegol

Mae tywydd oer y gaeaf yn esgus perffaith i ganolbwyntio ar ychydig o hunan-ofal. Ewch draw i Myddfai Trading yn Llanymddyfri lle gallwch brynu anrhegion a nwyddau ymolchi moethus. Byddwch yn dychwelyd â digonedd o sebonau, gwasgarwyr persawr, bomiau bath, eli a balmau er mwyn mwynhau bath moethus yn y ffermdy gwledig modern Ardderfin. Mae gan y llety arbennig hwn, sydd dim ond deg munud o Lansteffan, le i wyth person gysgu felly gallech hyd yn oed gwrdd yno fel grŵp o ffrindiau am wyliau'n llawn pampro a gwledda o amgylch y tân. Neu, os oes well gennych brofiad mwy moethus mewn bwyty ag ystafelloedd ichi aros, beth am archebu lle yn Mansion House Llansteffan i fwynhau bwyd môr lleol a golygfeydd o'r môr yn ei Bwyty Moryd. Os oes chwant trît go iawn arnoch i ginio, mae bwyty Y Polyn o fewn cyrraedd mewn hanner awr yn y car lle gweinir cig oen morfa heli, cig carw Dinefwr a chynhwysion lleol eraill, digon i dynnu dŵr o ddannedd unrhyw un. Y diwrnod wedyn, beth am fynd i ddarganfod botanegion o fath gwahanol yn nano-ddistyllfa Jin Talog (ymweliadau wedi'u harchebu ymlaen llaw yn unig), lle bydd Anthony a David yn dangos ei jin bendigedig sydd wedi ennill gwobrau lu, perlysiau cartref a dŵr ffynnon Cymreig.

Cwtsh Croesawu Cŵn

Mae gallu mynd am wacen gyda'ch cŵn yn hawdd ac yn hwyl, p'un ai eich bod yn mynd i draethau neu fynyddoedd, mae digonedd o gaffis, atyniadau a theithiau cerdded sy'n croesawu cŵn.  Yng nghysgod y Bannau Brycheiniog, mae Basel Cottages yn lleoliad penigamp i gŵn a'u perchnogion sy'n hoffi hunanarlwyo. Caiff gŵn aros am ddim ac mae yno erddi caeedig, stofiau ar gyfer llosgi coed tân, teithiau cerdded o'r bythynnod a gwasanaeth gofalu am gŵn. Mae'r rhan fwyaf o draethau ac atyniadau lleol yn croesawu cŵn bach, felly mae ras ar hyd yr wyth milltir o dywod euraidd yng Nghefn Sidan yn sicr yn werth ychwanegu at y rhestr o bethau i'w gwneud. Neu, beth am ei throi hi tuag at brydferthwch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar gyfer ei Diwrnodau i Chi a'r Ci sy'n ddigwyddiad cyson yno neu fwynhau ychydig o hanes yng Nghastell Llansteffan.Ar ôl yr holl gerdded, mae'n siŵr y bydd chwant bwyd arnoch ac mae danteithion blasus a thanau agored ar gael i gŵn a'u perchnogion eu mwynhau yn nhafarn yr Inn at the Sticks.

Cwtsh yn y coed

Gadewch i'r goedwig eich cofleidio trwy ymlacio yn Fforest Brechfa, lle mae'r coed conwydd a phinwydd yn gefndir gwyrdd hardd drwy gydol y flwyddyn. Mae'n hudolus ar ddiwrnod oer gaeafol pan fydd y niwl yn amgylchynu'r coed a phelydrau'r haul yn hidlo drwy'r canopi i'r tir mwsoglyd islaw. Beth am fynd am dro neu fynd ar gefn beic mynydd ar hyd y llwybrau gan ddilyn yr arwyddion, ac i Ardd y Fforest lle mae coed cochion a phinwydd anferthol.   Cymerwch saib am fflasg o goffi yn safle picnic y coetir yn Abergorlech, lle mae afonydd Gorlech a Chothi yn cwrdd, yna ewch i'r Black Lion i dwymo wrth fwynhau cinio ger y tân. Wedi'i leoli ar yr afon yn Abergorlech, mae'r croeso yma yn gynnes, mae'r seidrau a'r cwrw o fragdai lleol a'r cig eidion o ffermydd cyfagos. Neu, ewch i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain er mwyn mynd ar y llwybr cerdded drwy'r goedwig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda thylluan neu hebog yn hedfan yn gwmni ichi, gan lanio ar eich maneg wrth ichi fynd am dro drwy'r coed. Bydd y rheiny sy'n hoffi ymlacio yn y goedwig yn y gaeaf yn mwynhau yn Tŷ Mawr Country Hotel lle mae'r perchnogion wedi darparu teithiau cerdded ar fap i'r rheiny sydd eisiau rhoi cynnig arni. Gan fod Fforest Brechfa sy'n 16,000 erw gerllaw, mae'n fan perffaith i arfer y grefft o ymlacio yn y goedwig ac yna ei throi hi yn ôl am y gwesty i fwynhau gwres y tân a bwydydd blasus wedi'u gwneud â chynhyrchion lleol.

Cwtsh Treftadaeth

Mae aros yn nhref marchnad Llanymddyfri ar gyrion Bannau Brycheiniog yn golygu eich bod mewn man delfrydol i fynd ar daith gerdded arbennig i glirio'ch pen a dilyn ôl-troed y porthmyn o'r amser a fu sy'n nodweddiadol o'r dref. Neu, os yw'n well gennych fynd ar daith mewn car, yna treuliwch ychydig ddyddiau yn crwydro'r llwybr golygfaol newydd – Ffordd Wledig y Porthmyn. Pan ddaw i wledda yn Llanymddyfri, gallwch ddewis rhwng coctels, byrgyrs neu fwyd llysieuol Asiaidd yn y Bear Inn a phastai helgig neu 'Cinio Porthmon' (terîn coesgyn ham, Wy Selsig, Caws Cheddar Cymreig a siytni) yn y Castle Hotel. Ar ôl ichi lenwi eich boliau, beth am orffwys ychydig ym moethusrwydd Jacobeaidd y gwesty bach o'r 17 ganrif The Drovers B&B a dihuno i fwydydd brecwast blasus fel cacennau cennin a chaws Sir Gaerfyrddin wedi'u coginio gan Jill, y perchennog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio yn La Patisserie am ddanteithion melys neu sawrus ac am goffi gwych, ewch i Ystafelloedd Te Penygawse. Os oes chwant mynd ar daith gerdded arnoch a dysgu am hanes ar yr un pryd, beth am fynd i Lyn-y-Fan, llyn sy'n gorwedd yng nghysgod Ban Brycheiniog a Bannau Sir Gâr. Yno, gallwch ddysgu am chwedl Morwyn y Llyn, a briododd mab ffermwr lleol a'u plant nhw sef meddygon enwog Myddfai.

Cystadleuaeth Cwtch

Cofrestrwch nawr