Diolch yn Fawr
Telerau ac Amodau ar gyfer Gwobrau
Addo eich cefnogaeth
Y wobr yw 1 noson yn Caban, Pentywyn mewn ystafell ar gyfer hyd at 2 oedolyn a 2 blentyn yn yr ystafell orau sydd ar gael wrth archebu.
Y dyddiadau pryd y gellir defnyddio'r daleb yw 5 Mehefin tan 14 Gorffennaf a 4 Medi tan 31 Mawrth 2024.
Nid oes gwerth arian parod i'r wobr.
Nid yw'r wobr yn cynnwys unrhyw fwyd na diod.
Ni ddylid rhoi'r wobr i rywun arall i'w defnyddio - rhaid i'r enillydd ar y diwrnod wneud yr archeb.
Mae Rheolau a Rheoliadau'r Caban yn berthnasol gan gynnwys yr amser cyrraedd am 3pm a'r amser gadael am 10am
Unwaith y bydd dyddiad wedi'i archebu, nid oes modd ei drosglwyddo i ddyddiad arall os caiff ei ganslo.
Dweud eich dweud
Ar ôl i chi gwblhau'r arolwg, bydd eich enw’n cael ei roi mewn raffl fawr lle bydd cyfle i ennill Hamper o Gynnyrch Sir Gâr.
Bydd chwe hamper ar gael i'w hennill, a bydd enwau’r enillwyr yn cael eu tynnu am 3pm bob dydd.
Nid yw’r wobr yn gyfwerth ag arian parod.
Gofynnir i'r enillwyr gasglu eu hamper fuddugol erbyn 5pm bob dydd o Stondin Sir Gâr.
Os na fydd yr hamper fuddugol yn cael ei chasglu, bydd yn cael ei rafflo eto neu’n cael ei rhoi i elusen.