English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Chwilio am leoedd newydd i ymweld â nhw gyda'ch ci? Mae yna ddigon o atyniadau sy'n croesawu cŵn yn Sir Gaerfyrddin; o deithio ar drenau stêm i archwilio cestyll a hyd yn oed fynd am dro o amgylch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae digonedd o ddewis i chi.

Does dim yn well na gweld eich ci wrth ei fodd yn rhedeg yma a thraw gan wynto arogleuon newydd rif y gwlith, cyn gwrando arno'n chwyrnu'n fodlon ar ddiwedd diwrnod hwyliog ar grwydr.

Castell Cydweli

Yng Nghastell Cydweli, gall cŵn ar dennyn fentro y tu ôl i'r bylchfuriau am dro trwy dir y gaer ganoloesol. Mae Castell Cydweli ger afon Gwendraeth ac mae yno daith gerdded hardd i'w mwynhau hefyd. Hefyd yng Nghydweli mae camlas Kaymer, lleoliad arall sy’n croesawu cŵn. Camlas Kaymer yw'r hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Thomas Kymer ar ddiwedd y 18fed ganrif i gludo glo o Gydweli. Nid yw’r gamlas wedi bod yn cael ei defnyddio ers nifer o flynyddoedd, ond mae’n daith gerdded boblogaidd iawn, sy'n cynnig  golygfeydd hardd ac yn gynefin bywyd gwyllt ffyniannus i bob math o adar gwyllt a phrin, ac mae'n cael ei chydnabod gan yr RSPB.

Dewch i wybod mwy am Gydweli

Brechfa

Wrth i'r tymhorau newid, mae'r dirwedd yn gwneud hefyd. Mae'n anodd curo wâc hir drwy Goedwig Brechfa a sŵn y sgidie glaw'n crensian drwy garped o ddail coch, oren a melyn, a hynny yng nghwmni ci sy'n cael modd i fyw. Mae'r Llew Du yn Abergorlech yn lle gwych i aros am ysbaid, mae'n croesawu cŵn ac mae yno gardd gwrw ar lan yr afon. Beth gewch chi well?

Dewch i wybod mwy am Brechfa

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae pob dydd Llun a phob dydd Gwener a phenwythnos cyntaf y mis yn ddiwrnod i chi a'r ci yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Ewch â'r ci am dro o gwmpas yr ardd arbennig hon sy'n 568 erw. Mae rhai ardaloedd yn dal i fod ar gau i gŵn ond mae'r rhan fwyaf o'r gerddi ar gael i chi eu mwynhau.

Copyright Tim Jones Photography

Rhaeadrau Cenarth

Mae Rhaeadrau Cenarth wedi bod yn llecyn hardd ers oes Fictoria. Mae Afon Teifi yn enwog am eogiaid yn llamu! Cymerwch saib gyda'ch ci ar y bont garreg gan wylio eogiaid yn neidio'r rhaeadr ar eu ffordd i fyny'r afon i silio. Dewch i weld byd natur ar ei orau, yn enwedig ar ôl glaw trwm. Mae Cenarth yn llecyn hardd a chartrefol y mae modd ymweld ag ef drwy'r flwyddyn ac mae yno dafarn ac ystafell de gyfforddus er mwyn i chi gael saib haeddiannol o'ch wâc.

Castellnewydd Emlyn

Dyma daith undydd berffaith gyda'ch ci - taith ar Reilffordd Dyffryn Teifi sy'n rhoi croeso mawr i gŵn 

Ar ôl y daith, ewch am ginio i dafarn Bunch of Grapes.  Mae croeso i gŵn ufudd yn y dafarn restredig Gradd II hon yng nghanol Castellnewydd Emlyn.

Mae gan y dafarn ddetholiad o fisgedi cŵn yn barod ar y bar, gan gynnwys rhai cartref heb glwten ar gyfer cŵn sy'n tueddu i gael alergeddau. Mae selsig hyd yn oed ar gael ar gais!

Dewch â'ch dydd i ben drwy ymweld â’r castell ac os oes gennych amser sbâr, ewch ar daith gerdded ar hyd llwybr glan yr afon sy'n rhedeg ar hyd dolen yn Afon Teifi.

Dewch i wybod mwy am Gastellnewydd Emlyn

Parc Gwledig Pen-bre

Weithiau mae angen i chi fynd â'ch ci i rywle lle gall redeg (a rhedeg!). Parc Gwledig Pen-bre yw un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o'r arfordir a chefn gwlad. Mae'n gorwedd o fewn 500 erw o goetir ac wrth ymyl wyth milltir o dywod euraidd. Mae yna rai teithiau cerdded arbennig ar eich cyfer chi dros dirweddau gwych.

Dewch i wybod mwy am Barc Gwledig Pen-bre

Gwarchodfa Natur yr RSPB, Rhandir-mwyn

Mae taith gerdded hyfryd sy’n addas i gŵn o amgylch y warchodfa a reolir gan yr RSPB yn un arbennig, a bydd eich ci wrth ei fodd yn dilyn y ffordd o Lanymddyfri ar hyd Afon Tywi. Mae'r daith yn mynd â chi i guddfan Twm Siôn Cati hefyd. Defnyddiai Twm y bryniau anghysbell hyn i osgoi'r awdurdodau am flynyddoedd, ac yn ôl y sôn fe guddiai mewn ogof fan hyn.

Cofiwch ymweld â phentref swynol Rhandir-mwyn cyn bwrw am adref, ac mae'r Royal Oak yn lle gwych i gael lluniaeth.

 

Argymhellion

Y peth mae'n rhaid ei wneud: Beth am sbwylio eich hun a'ch ci ym mharlwr hufen iâ 'Heavenly' yn Llandeilo, sy'n cynnig hufen iâ unigryw i gŵn. Mae'n cynnwys sylfaen soia a dim siwgr ychwanegol i amddiffyn eich ci.

Cyfle i gael llun: gwyliwch y machlud dros oleudy Porth Tywyn.

Lluniaeth: Caffi Bailey’s Dog yn nhref Caerfyrddin; caffi lle mae anifeiliaid anwes yn dod yn gyntaf. Tip ci: te prynhawn i'r ci; puppacino (gyda llaeth almon) a thriawd o fisgedi ci - jammy dodgers, bisged Bourbon, a custard cream.