Cwestiynau Cyffredin – Diwrnod y Lluoedd Arfog 2026
Pryd a ble mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal?
Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog 2026 ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2026 ym Mharc Gwledig Pembre, Llanelli (SA16 0EJ).
Pryd mae’r digwyddiad yn dechrau ac yn gorffen?
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11:30 gyda gorymdaith fer o safonau, dan arweiniad ein cadetiaid lleol a sefydliadau cyn-filwyr. Bydd yr orymdaith yn gorymdeithio i ardal y llwyfan i osod eu safonau, gan nodi dechrau'r seremoni agoriadol.
Bydd y digwyddiad yn agor yn swyddogol am 12:00. Yn ystod y diwrnod bydd amryw o ddigwyddiadau a’r seremoni clo am 16:00. I gloi’r diwrnod bydd adloniant nos yn dechrau 17:30 ac yn gorffen am 19:30.
Bydd rhaglen lawn o holl weithgareddau’r dydd ac amserlen yn cael ei rhyddhau yn agosach at y digwyddiad yma.
Oes angen tocyn i fynychu’r digwyddiad?
Rydym yn annog ymwelwyr i archebu tocynnau ymlaen llaw i'n helpu i reoli'r digwyddiad, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os byddwch yn mynychu ar y diwrnod heb docyn.
A oes ffi parcio yn berthnasol?
Mae ffi parcio arferol y parc yn berthnasol oni bai eich bod yn ddeiliad hawlen barcio flynyddol.
Er mwyn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog, bydd talebau parcio wedi’u dilysu ar gael i aelodau presennol o’r lluoedd arfog a chyn-filwyr, gan ganiatáu iddynt adael y parc heb dalu. Bydd angen dangos prawf adnabod addas, megis Cerdyn Cyn-filwr neu Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Beth yw’r trefniadau trafnidiaeth gyhoeddus?
Mae gorsaf drenau ym Mhen-bre ac mae bws X11 hefyd yn rhedeg o Gaerfyrddin, Cydweli a Llanelli i Ben-bre.
A yw’r digwyddiad yn hygyrch?
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y digwyddiad mor hygyrch â phosibl. Cynhelir y digwyddiad ar dir caled sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phobl â symudedd cyfyngedig, ac mae toiledau hygyrch ar gael ar y safle. Os oes gennych unrhyw ofynion penodol, cysylltwch â cyfamodylluoeddarfog@sirgar.gov.uk ymlaen llaw.
A ganiateir cŵn?
Mae croeso i gŵn gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Pembre. Fodd bynnag, gofynnwn yn garedig i berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn a sicrhau eu bod yn ymddwyn yn briodol drwy gydol y digwyddiad.
A fydd bwyd a diodydd ar gael?
Bydd amrywiaeth o stondinau bwyd a diodydd gan fusnesau lleol ar y safle drwy gydol y dydd.
A yw’r digwyddiad yn addas i deuluoedd?
Mae’r digwyddiad yn addas i bobl o bob oedran ac yn croesawu teuluoedd. Bydd amrywiaeth o weithgareddau a diddordebau ar gael i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Bydd y diwrnod yn cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys perfformiadau llwyfan byw, stondinau gwybodaeth, arddangosfeydd milwrol, gweithgareddau i blant ac ardaloedd chwarae. Bydd rhagor o fanylion am y rhaglen ar gael yn nes at y digwyddiad.
A oes cyfleusterau gwersylla neu garafanau ar gael?
Mae maes carafanau a gwersylla wedi’i leoli o fewn Parc Gwledig Pembre. Am wybodaeth bellach ac i archebu lle, ewch i: Gwersylla - Parc Gwledig Pen-bre
A oes angen dod â sedd neu flanced bicnic?
Bydd nifer cyfyngedig o seddi ar gael o flaen y llwyfan perfformio. Mae croeso i ymwelwyr ddod â’u cadeiriau neu flanced bicnic eu hunain.