Be Sy’mlaen yn ystod y dydd
Bydd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys amrywiaeth eang o arddangosfeydd ac arddangosiadau milwrol.
Bydd mwy na 50 o stondinau hefyd ar y safle drwy gydol y dydd, gan gynnwys Help for Heroes, Cadetiaid Môr Llanelli, Age Cymru Dyfed, Dolen Teifi. Rhestr lawn i ddod yn fuan.
Rydyn ni’n annog ymwelwyr i archebu tocynnau ymlaen llaw i'n helpu i reoli'r digwyddiad, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os byddwch yn mynychu ar y diwrnod heb docyn.
Amserlen:
11:30 : Digwyddiad yn agor
Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dechrau gyda gorymdaith fer o safonau, dan arweiniad ein cadetiaid lleol a sefydliadau cyn-filwyr. Bydd yr orymdaith yn gorymdeithio i ardal y llwyfan i osod eu safonau, gan nodi dechrau'r seremoni agoriadol.
11:40 : Band Catrawd a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol a gorymdaith
12:00 : Seremoni agoriadol
12:30 - 15:45 : Adloniant prynhawn
Bydd Mari Grug yn cyflwyno perfformiadau gan Meibion Elli, Kelly Ann Watt, Band y Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli, côr Hospital Notes y GIG a mwy...
15:45 : Tîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol *yn dibynnu ar y tywydd*
16:00 : Seremoni gloi
17:30 – 19:30 : Adloniant gyda'r nos
Mae'r rhaglen o berfformwyr adloniant gyda'r nos yn cynnwys: Newshan, Liam J Edwards o rownd derfynol Y Llais 2025 a'r prif berfformiwr fydd Samuel Wyn Morris o'r West End.
Cyflwynydd y Dydd a’r Nos
Mari Grug
Mae Mari Grug yn gyflwynydd profiadol ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C ers dros ugain mlynedd. Mae wedi cyflwyno nifer o brif ddigwyddiadau diwylliannol Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol Gymreig, ac mae’n aelod o dimau cyflwyno Heno a Prynhawn Da. Yn 2025, enillodd ei phodlediad Cymraeg ar ganser, 1 mewn 2, Wobr Podlediadau Prydain, ac mae hi’n llysgennad i Ymchwil Canser Cymru.
Cyfarwyddwr Artistig
Cerith Owens
Mae Cerith Owens yn gyd-sylfaenydd Loud Applause Rising Stars (LARS) ac yn Gyfarwyddwr Loud Applause Productions. Mae’n gynhyrchydd profiadol sy’n trefnu cyngherddau cerddorol ac yn mentora perfformwyr ifanc ledled De Cymru.
Parêd - Band Catrawd y Cymry Brenhinol
Mae Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol yn un o’r ychydig fandiau pres yn unig o fewn Cerddoriaeth Byddin Prydain, gan ddenu chwaraewyr o dreftadaeth a diwylliant bandiau pres cyfoethog De Cymru i’w rengoedd. Mae pob cerddor yn aelodau o’r Fyddin Wrth Gefn ac yn ymrwymo i’r Band o amgylch eu hastudiaethau addysgol neu eu galwedigaethau sifil.
Perfformwyr Adloniant Prynhawn
Meibion Elli
Ffurfiwyd Meibion Elli yn Llanelli yn 2019 fel grŵp o ddynion oedd yn rhannu cariad at ganu. Mae’r côr bellach yn cynnwys dros 30 o gantorion ac yn perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau cymunedol a dinesig.
Llanelli Royal British Legion Band
Mae Band Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli yn fand chwyth sy’n cynnwys cyn-gerddorion milwrol, sy’n perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau coffa, seremonïau a chyngherddau elusennol.
Connor Horton
Mae Connor Horton, 18 oed o Gaerfyrddin, wedi derbyn cynnig i astudio llais ar y cwrs BMus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Isla Lloyd
Mae Isla Lloyd, 18 oed o Benarth, yn ddisgybl yn Ysgol Howell yng Nghaerdydd ac yn aelod o Loud Applause Rising Stars.
Kelly Ann Watt
Mae Kelly Ann Watt yn gantores broffesiynol o Gastell-nedd sydd wedi perfformio yn y DU ac yn rhyngwladol fel artist llong fordaith. Mae ei chyflwyniadau thematig a theyrnged yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled y byd.
Georgia Barley
Mae Georgia Barley, 19 oed o Blackwood, yn fyfyrwraig Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn aelod addawol o Loud Applause Rising Stars.
Rhys Hunter
Mae Rhys Hunter, 21 oed o’r Mwmbwls, yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Nghonservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban yn Llundain.
Perfformwyr Adloniant Nos
Liam J Edwards
Mae Liam J Edwards o Gorseinon yn raddedig Dosbarth Cyntaf o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gystadleuydd rownd derfynol Y Llais.
Samuel Wyn Morris
Mae Samuel Wyn Morris o Lanelli yn berfformiwr theatr gerdd rhyngwladol llwyddiannus ac ar hyn o bryd yn chwarae’r Phantom ar Daith Ryngwladol The Phantom of the Opera.
Lauren Elizabeth Williams
Mae Lauren Elizabeth Williams, 23 oed o Glyn-nedd, wedi bod yn aelod o Loud Applause Rising Stars ers pum mlynedd. Eleni, mae’n cwblhau ei gradd Meistr mewn Astudiaethau Llais ac Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Newshan
Band o Geredigion yw Newshan, sydd wedi sefydlu ers 25 mlynedd eleni. Maent yn diddannu cynulleidfaoedd ar draws Cymru, gan ganu caneuon poblogaidd Cymraeg a Saesneg. Maent wrth ei bodd yn canu ac yn cael lot o sbort fel band.
