English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

I'r rheiny sy'n chwilio am bethau i'w gwneud yn Sir Gâr neu'r rheiny ohonoch sydd angen ychydig o gymorth i gynllunio'ch taith, rydym wedi nodi rhai awgrymiadau o ran ein hoff bethau i'w gwneud.

P'un ai y byddwch yn dewis crwydro'r mynyddoedd neu'r arfordir, mae digonedd o ddewis! 

P'un a ydych yn rhywun sy'n chwilio am gyffro a'ch her nesaf, yn rhamantwyr sy'n chwilio am rywle bach tawel a chysurus neu'n deulu o archwilwyr sy'n chwilota am fwyngloddiau aur a llongddrylliadau - Darganfyddwch Sir Gâr trwy brofiadau ac anturiaethau awyr agored unigryw.

Dechreuwch gynllunio eich ymweliad nawr…

Hwyl i'r Teulu

Yr haf yw'r amser perffaith i fynd â'r teulu allan a darganfod yr hyn sydd gan Sir Gâr i'w gynnig. O weithgareddau awyr agored i atyniadau dan do, mae digon o bethau i blesio pawb o bob oed. 

Pethau i'w gwneud am ddim

Nid oes rhaid i archwilio Sir Gaerfyrddin gostio dim - mae digon o weithgareddau am ddim sy'n gadael i chi fwynhau harddwch naturiol, treftadaeth gyfoethog a diwylliant bywiog y sir heb wario ceiniog. 

Diwrnod Glawog

Er bod y glaw yn disgyn, nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi ohirio eich cynlluniau! Pan fydd awyr Sir Gâr yn troi'n llwyd, mae'n esgus perffaith i gael hwyl dan do.

Gwledda â Golygfa

O olygfeydd panoramig o'r aber i derasau gardd heddychlon a mynyddoedd mawrion dramatig, mae Sir Gâr yn gartref i rai o fannau bwyta mwyaf prydferth Cymru.

Y Picnic Perffaith
Y Picnic Perffaith

Ewch allan a mwynhau'r tirweddau yn ogystal â'r hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu. Rydym wedi creu rhestr o rai o'r mannau gorau yn y sir i gael picnic, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad.

Blasau Lleol

O siopau fferm cartrefol a siopau bara artisan i fwytai arobryn a thafarndai traddodiadol, mae'r lleoedd bwyta lleol yn cynnig taith flasus trwy flasau tymhorol a choginio sy'n llawn calon. 

Awyr Dywyll
Anturiaethau Golau lleuad

Yn Sir Gâr y mae rhai o'r lleoedd â'r awyr dywyllaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n ddelfrydol ar gyfer sêr-dremwyr a seryddwyr. Mae ein safleoedd awyr dywyll yn dod yn fyw yng ngolau’r sêr. Dyma rai o'r lleoedd gorau i weld wybren ysblennydd y nos.

Tirweddau ar gyfer cariad
Pethau Rhamantus i'w Gwneud

Sir Gâr yw'r lleoliad perffaith ar gyfer dêt hyfryd yn ystod y dydd, cinio cysurus yng ngolau cannwyll neu wyliau rhamantus.