English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Boed yn crwydro ar hyd ein harfordir hyfryd neu'n cerdded ar draws ein bryniau godidog, mae gan Sir Gâr ddigonedd o anturiaethau i chi a'ch ci eu mwynhau.

Os ydych chi'n chwilio am y lle delfrydol i ddiddanu eich ci, dyma'r lle i chi! Rydym wedi chwilio am rai o'r cyfrifon Instagram gorau i gŵn yn Sir Gâr, er mwyn i chi ddod o hyd i'r mannau perffaith i dynnu lluniau a rhoi pawen lawen!

Rydym wrth ein bodd yn gweld lluniau ohonoch chi a'ch ci allan yn Sir Gâr, felly cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar Instagram.

Dyma rai o'n hoff gŵn Instagram yn mwynhau rhyfeddodau Sir Gâr

Mannau gorau i gael picnic

Gwisgwch eich esgidiau cerdded a phaciwch eich blancedi picnic i archwilio'r mannau gorau i gael picnic. Mae golygfeydd trawiadol a thraethau hardd yn aros amdanoch chi a'ch ci.

Cŵn Cefn Gwlad

Mae ein bryniau tonnog, ein mannau agored a'n milltiroedd ar filltiroedd o wyrddni godidog yn golygu bod ein sir yn baradwys i gŵn. Mae Rupert y Cavapoo pert yn mwynhau mynd am dro yn Fforest Brechfa.

Beth am fynd i'r traeth?

Mae gan Sir Gâr rai o'r traethau hiraf yn y DU. Mae Llew wrth ei fodd yn ymuno â'i berchennog Craig, fforiwr glan môr, ar hyd traethau Sir Gâr.

Atyniadau sy'n Croesawu Cŵn

Mae Maggie wrth ei bodd yn ymweld ag atyniadau Sir Gâr a dyma lun ohoni gyda Chartref Dylan Thomas yn y cefndir. Ewch â'ch ci i'r atyniadau yn Sir Gâr sy'n croesawu cŵn.