Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn un o brosiectau mwyaf Cymru yn 2026. Ers talwm, roedd rheilffordd dawel yma yn cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo ac mae wedi cael ei thrawsnewid yn llwybr bywiog, di-draffig sy'n gwahodd cerddwyr a'r rhai sy'n dwlu ar natur i grwydro yng nghanol Sir Gâr.
Pellter pob Rhan
Abergwili i Nantgaredig - 3.8 milltir (6.12km)
Nantgaredig i Bont Cothi - 0.46 milltir (0.74km)
Nantgaredig i Bont Tywi - 1.04 milltir (1.67km)
Nantgaredig i Lanarthne - 2.97 milltir (4.49km)
Llanarthne i Ddryslwyn - 1.49 milltir (2.4km)
Dryswlyn i Ffair-fach - 4.97 milltir (8.0km)
Abergwili i Ffair-fach - 13 milltir (20.91km)
1.
Adran 1
Abergwili
Saif Amgueddfa Sir Gâr ym Mharc yr Esgob, hen Balas Esgobion Tyddewi. Yn yr amgueddfa mae Derwen Myrddin a blannwyd yng Nghaerfyrddin gan y dewin chwedlonol yn ôl pob sôn. Edrychwch am adar gwyllt a gweision y neidr o amgylch Pwll yr Esgob, a gwyliwch ystlumod pedol gyda'r cyfnos wrth iddynt wibio allan o adeiladau'r amgueddfa.
Uwchlaw’r dyffryn mae Bryn Myrddin, a chredir mai hwn yw man gorffwys olaf cynghorwr y Brenin Arthur. Gyda mannau picnic, llecynnau tawel a golygfeydd ar draws Dyffryn Tywi, mae'r dirwedd hon yn eich gwahodd i brofi hanes, chwedlau a natur gyda'ch gilydd.
Felin-wen
Yma yn Felin-wen, mae Afon Tywi yn llifo drwy'r dirwedd sy'n enwog ymhlith pysgotwyr ers cenedlaethau. Mae'r ardal, sy'n brydferth ym mhob tymor, yn adnabyddus am y tarth sy'n codi ar draws ei glannau yn gynnar yn y bore. Gwrandewch am alwad glas y dorlan, gwyliwch wennol y glennydd yn gwibio'n isel dros wyneb y dŵr, a chwiliwch am arwyddion o ddyfrgwn ar y banciau.
Yn 1986, daeth yr Arlywydd Jimmy Carter yma i bysgota, ac roedd y dyfroedd hyn yn enwog ar un adeg am eu stwrsiwn anferth. Roedd yr un mwyaf, a ddaliwyd yn 1932, yn pwyso 388 pwys ac yn mesur 9 troedfedd o hyd.
Nantgaredig
Yma mae Afon Cothi, isafon fwyaf Afon Tywi, yn llifo o'i tharddiad ger y Mwyngloddiau Aur Rhufeinig ym Mhumsaint. Bellach dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'n ymdroelli trwy gaeau a ffurfiwyd gan ganrifoedd o fywyd gwledig.
Mae llawer o'r llwybr yn dilyn hen reilffordd a gaewyd yn 1963. Gerllaw mae Maes y Crug, sef beddrod crwn o'r Oes Efydd, sy'n ein hatgoffa o'r bobl a weithiai'r tir hwn yn ystod y cyfnod cynhanesyddol.
2.
Adran 2
Afon Tywi
Y Tywi yw'r afon hiraf sy'n rhedeg trwy Gymru, 75 milltir o'r man tarddu mynyddig i'r môr.
Gyda banciau graeanog, wedi'u gwarchod o achos eu hadar prin, eu pysgod a'u hinfertebratau, defnyddiwyd y darn hwn am ganrifoedd gan deithwyr sy'n croesi dros bont neu ar fferi, gan gysylltu ffermydd, llwybrau masnach a marchnadoedd. Heddiw, mae cloddiau Bremenda Isaf gerllaw yn cael eu rheoli'n ofalus ar gyfer bywyd gwyllt, ac mae mannau picnic a seddau ar gael.
Llanarthne
Mae Tŵr Paxton yn dirnod trawiadol a godwyd yn 1811 gan Syr William Paxton, perchennog Neuadd Middleton (safle Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru erbyn hyn).
Mae olion hen reilffordd Llanarthne ac ategwaith ei phont wrth ymyl y caeau lle mae draenogiaid a moch daear yn symud drwy hen wrychoedd.
Dryslwyn
Ar gopa llethr serth sy'n codi o orlifdir Afon Tywi ceir adfeilion Castell Dryslwyn. Bu'r uchelwr Rhys ap Maredudd yn amddiffyn y lle hwn rhag Coron Lloegr yn ystod ei wrthryfel yn 1287. Mae'r castell yn parhau i fod yn adfail mawreddog heddiw, uwchlaw'r dolydd lle mae adar gwyllt yn ymgasglu'n swnllyd.
Yn 1798, paentiodd J. M. W. Turner luniau o ardal Dryslwyn, gan greu brasluniau a dyfrlliwiau manwl o'r castell uwchben Afon Tywi; cedwir y gweithiau hyn bellach yn Oriel Tate Llundain.
3.
Adran 3
Allt Pantglas
Ewch ar y Rhodfa Bren a chrwydro ar hyd coetiroedd gwlyb sy'n llawn bywyd gwyllt. Gallwch glywed y ceirw'n symud drwy'r coed a chri'r crëyr a'r crëyr bach topog wrth iddynt ehedeg dros y pyllau. Cymerwch hoe yn y man picnic wrth ymyl y dŵr a mwynhewch y tawelwch.
Mae'r coetir hynafol yn creu coridorau cysgodol lle hedfana ystlumod gyda'r cyfnos a lle daw adar y coetir i gael lloches. Mae'r coed gwasgaredig yn y parcdir yn hynod ddefnyddiol i fywyd gwyllt ac yn fannau gorffwys ar gyfer anifeiliaid pori.
Dinefwr
Wrth i chi gerdded ar hyd y rhodfa bren, gallwch weld cadarnle canoloesol Castell Dinefwr uwch eich pen, a fu unwaith yn gartref i'r arglwydd pwerus Rhys ap Gruffudd. Islaw'r castell saif Tŷ Newton, a fu unwaith yn gartref i Rhys ap Thomas yr honnir ei fod wedi lladd Richard III ym mrwydr Bosworth. Saif y plasty mawreddog a welir heddiw ynghanol gerddi wedi'u hamgylchynu gan fuchesi o Wartheg Gwynion.
Mae'r ddraenen wen a'r ddraenen ddu yn blodeuo yn y gwanwyn ac yn dwyn ffrwyth yn yr hydref. Mae'r hen hafn reilffordd yn rhoi ymdeimlad o dreftadaeth ddiwydiannol, ac mae banciau graeanog yr afon droellog yn cynnal infertebratau ac adar nythu.
Ffair-fach
Uwchlaw Ffair-fach, mae Llandeilo, sef tref farchnad hanesyddol sy'n llawn siopau bwtîc, caffis, bwytai ac Eglwys Sant Teilo. Mae'r eglwys hon wedi'i chysegru i'r sant Cymreig o'r 6ed ganrif lle mae arddangosfa o Efengylau Sant Teilo, sef llawysgrif werthfawr o'r Canoloesoedd Cynnar a grëwyd gan fynachod lleol yn yr ardal hon.
Gerllaw, mae coetir Coed Tregib a'i goed deri aeddfed a'i gloddiau yn gysgod i bathewod, barcutiaid coch, bwncathod, a chorws o adar coetir. Dan eich traed, ar dir Dinefwr, ceir olion dwy gaer Rufeinig a fu'n ganolfan i filwyr, a lle mae darnau arian a chrochenwaith wedi'u darganfod.
4.
Pethau i'w gwneud
Parkrun - Bob dydd Sadwrn am 9am cynhelir y Parkrun 5k o Heol yr Orsaf, Nantgaredig, SA32 7LQ. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.
Teithiau cerdded cysylltiedig - Ar gyfer teithiau cerdded cylchol oddi ar Lwybr Dyffryn Tywi, beth am roi cynnig ar daith gerdded Pontargothi? Mae'r daith gerdded yn cwmpasu tri phentref bach ar hyd Dyffryn Tywi, pob un â chyfoeth o archaeoleg a hanes.
