Mae'r daflen hon yn rhoi sylw i dri phentref bach ar hyd Dyffryn Tywi, pob un â chyfoeth o archeoleg a hanes: Nantgaredig, Pont-ar-gothi a Llanegwad.
Mae Nantgaredig yn bentref modern a ddatblygodd ar ôl dyfodiad y rheilffordd ym 1865. Caeodd y lein ym 1963, ond mae rhai adeiladau'r orsaf i'w gweld o hyd. Mae'r teithiau cerdded yn croesi'r trac rheilffordd mewn sawl man, felly cadwch lygad am hafnau, gorgloddiau a phontydd.
Mae olion mwy hynafol serch hynny o gwmpas y pentref. Un o’r safleoedd pwysicaf yw olion cloddwaith meingylch a adeiladwyd dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl, sy’n rhoi tystiolaeth o drigolion cyntaf yr ardal.
Credir bod y meingylchoedd hyn wedi bod yn fannau pwysig ar gyfer cynnal seremonïau yn ystod y cyfnod Neolithig, sef oes y ffermwyr cyntaf. Yn ôl pob sôn, gerllaw yn Llandeilo-yr-ynys y ganwyd Teilo Sant yn y 6ed ganrif, sef un o fawrion yr Eglwys Gristnogol gynnar yng Nghymru.
Lle pontio hynafol dros Afon Cothi yw Pont-ar-gothi. Mae’n rhaid bod y ffordd Rufeinig sy’n mynd ar hyd y dyffryn wedi croesi’r afon yn agos i'r fan hon. Roedd melin flawd a chapel yn agos at y bont bresennol yn yr Oesoedd Canol, ond mae Melin Cothi yn segur ers amser maith ac nid yw Capel y Santes Fair yno bellach. Mae’r pentref yn enwog am y tair tafarn sydd yno.
Mae Llanegwad yn dwyn ei enw o Egwad sef un o seintiau’r Oesoedd Tywyll a sefydlodd yr eglwys gyntaf yma yn ôl pob sôn. Tref bwrdeistref fechan dan reolaeth Esgob Tyddewi oedd Llanegwad yn yr Oesoedd Canol. Yn ôl rhôl rent 1326 a elwid Llyfr Du Tyddewi roedd dyletswyddau’r trigolion i’r Arglwydd yn cynnwys cynnal a chadw Melin yr Arglwydd (Melin Cothi gerllaw’r bont ym Mhont-ar-gothi oedd hon yn ôl pob tebyg) a hebrwng carcharorion i lys yr Arglwydd ym Meidrim.
Gwastadedd eang dyffryn afon Tywi gyda gorlifdiroedd a thir amaethyddol helaeth yn rhedeg ar ei hyd yw prif nodwedd yr ardal. Mae’r afon yn cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin ac fe’i dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig. Mae’r ardaloedd sydd i ffwrdd o’r afon hefyd yr un mor ddiddorol sef y cloddiau yn yr haf.
Pam Cerdded?
Mae'r daith gerdded gron i'r gorllewin o'r pentref bach dymunol, Llanegwad, yn cynnig taith hamddenol ar dir eithaf gwastad.
Pa mor Hir?
Mae'r daith oddeutu 9.3 cilomedr (5.77 milltir) o hyd ac mae golygfeydd hardd i'w gweld ar hyd Dyffryn Tywi.
Pa mor Anodd?
Mae’r llwybrau sy’n mynd i’r dwyrain a’r gorllewin o Nantgaredig yn eithaf gwastad ond mae ambell gamfa ar eu hyd. Mae’r llwybrau i’r gogledd o’r A40 ychydig yn fwy anodd gyda pheth tir mwy serth ac mae’n bosibl y byddant yn lleidiog mewn rhai mannau hyd yn oed yn ystod yr haf. Felly awgrymir gwisgo esgidiau cadarn. Sylwch fod rhai o’r llwybrau’n arwain at rannau o ffordd dosbarth "A" gyda thraffig cyflym arni a dim palmentydd. Bydd angen goruchwylio plant yn ofalus iawn.
Man Cychwyn
Parcio - ✔
Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔
Lluniaeth - ✔
Mannau o Ddiddordeb
1. Adeiladwyd y bont gerrig tri bwa wych dros y Tywi yn Llandeilo-yr-ynys, i’r de o Nantgaredig, ym 1786, ar adeg pan gafodd amryw o ffyrdd tyrpeg newydd eu hadeiladu i foderneiddio rhwydwaith ffyrdd y wlad.
2. Roedd y trenau a arferai redeg ar hyd Rheilffordd Canolbarth Cymru a Chyffordd Caerfyrddin (a agorwyd ym 1865) yn sefyll yng Ngorsaf Nantgaredig ar un adeg. Erbyn hyn mae Llwybr Dyffryn Tywi yn dilyn yr hen lein o Gaerfyrddin i Landeilo (13 milltir). Saif Gwesty’r Rheilffordd gerllaw’r hen orsaf ac mae’n dal ar agor er i’r rheilffordd gau ym 1963. Mae cysylltiadau ffyrdd pob cyfnod wedi rhedeg ar hyd gorlifdir y Tywi. Mae’r ffordd Rufeinig rhwng ceyrydd Llandeilo a Chaerfyrddin yn rhedeg yn gyfochrog â’r A40.
3. Weithiau gellir gweld heidiau o wyddau Canada a hwyaid danheddog ar yr afon. Cafodd yr adar prin hyn sy'n bwyta pysgod eu cofnodi am y tro cyntaf fel aderyn bridio yn Sir Gaerfyrddin ym 1980. Yn ystod misoedd yr haf mae’r glannau afon tywodlyd yn darparu mannau nythu i Wenoliaid Glennydd, tra bod Teloriaid y Cyrs i’w gweld neu eu clywed yn aml yn y llwyni a’r coed ar hyd yr afon.
4. Yn union y tu allan i fynedfa’r Gât Ddeheuol i ystad Alltyferin saif Glan-Cothi, sef tŷ fferm yn wreiddiol a newidiwyd yn adeilad mwy crand erbyn blynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif pan oedd yn gartref y teulu Hughes. Bu Howell Harris sef arweinydd enwog y Methodistiaid yn pregethu yma ar sawl achlysur yng nghanol y 18fed ganrif.
5. Mae castell mwnt Pen y Cnap, a saif i’r gorllewin o Lanegwad, yn dyst i’r gwrthdaro yn y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif rhwng tywysogion pwerus Dinefwr, a’r goresgynwyr Eingl-Normanaidd. Brwydrwyd dros ddyffryn Tywi nes cwymp y tywysogion ar ddiwedd y 13eg ganrif. Yn ôl yr hyn a gofnodwyd fe enillwyd Castell Llanegwad gan Rhys Ieuanc, mab Arglwydd Rhys, ym 1203.