English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026

Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu bob blwyddyn mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth, ac amryw sefydliadau cefnogol.

Yn 2026, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru ar 27 Mehefin ar Gae Saethyddiaeth ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae'r digwyddiad hwn, sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, yn gwahodd y cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.

Wedi'i gynllunio mewn cydweithrediad ag uwch-gynrychiolwyr o'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu, bydd y diwrnod yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau. Gall ymwelwyr edrych ymlaen at amrywiaeth gyffrous o arddangosfeydd ac arddangosiadau milwrol.

Rydym yn annog ymwelwyr i archebu tocynnau ymlaen llaw i'n helpu i reoli'r digwyddiad, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os byddwch yn mynychu ar y diwrnod heb docyn.

Archebwch eich tocynnau

Mae mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Sylwer, fodd bynnag, y bydd ffioedd parcio yn berthnasol ym Mharc Gwledig Pen-bre ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn ddeiliaid trwydded barcio flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i aelodau sy'n gwasanaethu o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Bydd gwasanaeth gwennol bws 16 sedd yn cael ei ddarparu am ddim gan Dolen Teifi a Links (elusen Iechyd Meddwl wedi'i lleoli yn Llanelli) i Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru ar 27 Mehefin 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre. 

Bydd y gwasanaeth yn cychwyn o ganol tref Llanelli (arhosfan bws gyferbyn â Neuadd y Dref) am 10yb a phob awr ar ôl hynny (tan 3yp). 

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cael ei ddarparu o ganol tref Porth Tywyn (Sgwâr Neptune SA16 0EP) am 10:30yb a phob awr tan 3:30yp. 

Bydd y gwasanaeth gwennol yn dychwelyd i Lanelli a Phorth Tywyn drwy gydol y dydd. 

Cofiwch y bydd y gwasanaeth gwennol yn dod i ben ar ôl y seremoni gloi tua 4:30yp. Ni fydd gwasanaeth gwennol ar gyfer y perfformiadau gyda'r nos.

Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn o ddathlu, cydnabyddiaeth ac ysbryd cymunedol yn un o’r digwyddiadau blynyddol yr edrychir ymlaen ato fwyaf yng Nghymru. 

Be Sy’mlaen yn ystod y dydd

Be Sy’mlaen yn ystod y dydd

Ymunwch â ni am ddathliad bythgofiadwy o Ddiwrnod Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig trawiadol Pen-bre.

Paratowch i gael eich rhyfeddu gan arddangosfa barasiwt wefreiddiol, Atlas C.1 A400M yn hedfan heibio, parêd, adloniant trwy'r dydd ac amrywiaeth o arddangosfeydd cyffrous sy'n anrhydeddu ein lluoedd arfog.

Gweld amserlen y digwyddiadau ar gyfer y diwrnod

Parcio

Parcio

Mae mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Sylwer, fodd bynnag, y bydd ffioedd parcio yn berthnasol ym Mharc Gwledig Pen-bre ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn ddeiliaid trwydded barcio flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i aelodau sy'n gwasanaethu o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

I wybod am barcio yn y digwyddiad.

Stondinau

Bydd ystod eang o stondinau ar y diwrnod, gan gynnwys cynrychiolaeth o'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys, elusennau cyn-filwyr a sefydliadau cymunedol lleol.

Rhestr stondinau

Gwersylla

Mae Pen-bre yn darparu cyfleusterau gwersylla ar y safle felly mae'n lle perffaith i deuluoedd, cyn-filwyr ac ymwelwyr sy'n teithio o bob cwr o Gymru a thu hwnt i fwynhau penwythnos cofiadwy.

Cynghorir pobl i archebu'n gynnar ar gyfer gwersyllagan fod disgwyl y bydd galw mawr amdano yn ystod penwythnos y digwyddiad.

Archebu'n gynnar ar gyfer gwersylla

Cwestiynau Cyffredin – Diwrnod y Lluoedd Arfog 2026

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r adran hon wedi'i chynllunio i ddarparu gwybodaeth glir a defnyddiol i gynllunio'ch ymweliad, p'un a ydych chi'n mynychu fel gwestai, cyfranogwr, neu gefnogwr.

Cwestiynau Cyffredin – Diwrnod y Lluoedd Arfog 2026

 

Mae'r digwyddiad hwn wedi’i gefnogi gan:

 

 

Welsh gov logo