English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae'n bryd ailfeddwl ystyr tymor prysur. Does dim rhaid iddo olygu llawer o ymwelwyr. Beth pe bai'n golygu yr uchafbwynt o ran lliwiau? Neu wir fwynhad? Neu efallai ei fod yn golygu'r amser gorau i fwynhau'r byd naturiol. Gan fod y tywydd cynhesach bellach yn ymestyn i fis Medi a mis Hydref, mae lluniaeth al fresco hefyd yn opsiwn ar gyfer yr hydref. 

Felly, yn ein barn ni, yr hydref yw'r tymor prysuraf yn Sir Gaerfyrddin - yr adeg o'r flwyddyn pan mae natur yn cynnig sioe fendigedig. Yn Rhaeadr Cenarth, wrth glywed sŵn raeadrau'r Afon Teifi, gallwch weld eogiaid yn llamu i fyny'r afon. Maent yn naturiol yn dychwelyd i'w safleoedd silio. Yn yr hydref hefyd mae'r drudwy yn gwibio trwy'r awyr yn y nos. Ewch i gael sêt flaen yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli a mwynhau'r perfformiad. 

 

Os yw'n well gennych fod yn egnïol, dyma'r amser delfrydol i gerdded neu feicio o amgylch arfordir a chefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Mae Coedwig Brechfa yn gyrchfan i feicwyr mynydd ond mae hefyd yn llecyn delfrydol ar gyfer mynd am dro yn yr hydref. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin, ac yn yr hydref mae ar ei orau. Wrth i'r dyddiau byrhau a'r nosweithiau tywyll ymestyn, rydych chi'n fwy tebygol o'i rannu â llwynog, wiwer neu bathew nag ymwelydd arall.  

 

Yn yr hydref mae lliwiau ein coetiroedd hynafol yn dod i'w hanterth, megis Coed Castell Moel ger Caerfyrddin.  Yma, eurfrown yw lliw'r hydref. Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae coed masarn Japan yn tywynnu oherwydd eu dail rhuddgoch a fflamgoch. Yn ddiweddarach yn yr hydref mae ymwelwyr yn mwynhau golau cynnes tân coed.  

Y lleoliad perffaith i fwynhau ffair hydref leol sy'n cynnig gwreiddlysiau ac afalau o berllannau cyfagos.