Amgueddfa a Gerddi Parc Howard
Amgueddfa a Gerddi Parc Howard
Dewch i ymweld ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin i ddarganfod gweithiau celf a hynafiaethau cyfareddol a hynod o orffennol Sir Gaerfyrddin. Dyma'r lle perffaith i fwynhau hanes rhan o Gymru sy'n llawn treftadaeth, mythau a chwedlau.
Saif yr amgueddfa mewn parcdir ym mhrydferthwch Dyffryn Tywi ac am ganrifoedd yma yr oedd palas Esgob Tyddewi. Gan fod y safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio'n barhaus ers 1290 cafodd ei adnabod fel crud y Dadeni Dysg yng Nghymru, sy'n cydnabod y cysylltiad â sylfeini'r iaith Gymraeg fodern a llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r adeilad presennol yn enghraifft brin o bensaernïaeth 'Arts and Crafts' pan ddaeth cyfle i ailadeiladu'r palas yn 1904 yn dilyn tân trychinebus.
Mae orielau'r amgueddfa yn amgylchynu cwrt dan do ac yn eich tywys ar daith drwy 50,000 o flynyddoedd o hanes dynol. Dewch i ddarganfod esgyrn anifeiliaid o Oes yr Iâ, ffosiliau, aur Rhufeinig, chwedl Derwen Myrddin, cerrig beddau o gyfnod y Brenin Arthur, a chelf werin y credir bod ganddi bwerau gyfriniol. Mwynhewch yr arddangosiadau o fywydau'r gorffennol, megis bwthyn Elsa, sef bwthyn Cymreig traddodiadol, hen gegin y palas, dulliau gwledig o gynhyrchu bwyd, a chapel hardd y palas sydd wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig.
Twitter: @CarmsMuseums, Facebook: Amgueddfeydd Sir Gâr – Carmarthenshire Museums, Instagram: carmarthenshire_museums
Enw ar Tripadvisor: Parc Howard Museum
Fila urddasol o gerrig nadd yw Amgueddfa Parc Howard gyda gerddi prydferth o'i chwmpas. Mae'r arddangosfeydd a geir yno yn adrodd stori tref ryfeddol, ei phobl, ei chymeriadau a'r hyn a ddigwyddodd yno. Mae'r amgueddfa hefyd yn gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf o grochenwaith Llanelli a gweithiau celf gan arlunwyr lleol.



Cyfleusterau
-
Hygyrchedd
-
Toiledau