Glannau Afon Teifi, Cenarth
Lleoliad picnic
Pentref bach ar lannau Afon Teifi yw Cenarth, ac mae ganddo gyfres o raeadrau a phyllau bychain. Mae hefyd yn enwog am ei gaws. Gallwch brynu darnau o gaws o siop fferm Caws Cenarth cyn crwydro tuag at lannau'r afon am bicnic ger y rhaeadrau i edrych am ddyfrgwn a glas y dorlan.
Cyngor am bicnic: Galwch heibio'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol ar y ffordd. Mae'r siop yn llawn blancedi Cymreig arbennig sy'n wych ar gyfer eich picnic.
Sut i gyrraedd: O Genarth, ewch ar y B4332 tuag at Foncath. Cadwch lygaid am arwydd y Comisiwn Coedwigaeth ar y chwith ac yna dilynwch y lôn i'r chwith, mae'n arwain i fyny'r rhiw lle gallwch barcio'r car ac mae safle picnic gwych i'w gael yma.
Taith gerdded a awgrymir: Cenarth i Castell Newydd Emlyn
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Galwch yn Petit Biarritz yng Nghastellnewydd Emlyn, trysor o le sy'n cynnig bwyd lleol sy'n dod â dŵr i'r dannedd ac sydd wedi'i ysbrydoli gan Wlad y Basg. Y lle perffaith i gasglu nwyddau ar gyfer eich picnic.

Petit Biarritz, Castellnewydd Emlyn