Cwm Rhaedr
Lleoliad picnic
Coetir anghysbell a safle picnic yw Cwm Rhaeadr sydd yn rhan uchaf Dyffryn Tywi tua'r gogledd o Lanymddyfri. Mae ymweld â'r ardal hyfryd hon yn ystod yr hydref a'r gaeaf yn golygu bod mwy o ddŵr ac felly mae'r rhaeadrau'n fwy dramatig ac mae lliwiau'r coetir yn syfrdanol o hyfryd. Gosodwch eich picnic ar y byrddau ger y maes parcio islaw'r coed Ffynidwydden Douglas neu mae llwybr cerdded dwy filltir i'r rhaeadrau neu lwybr byrrach sy'n arwain at ddau bwll heddychlon.
Cyngor am bicnic: Os oes gennych rywbeth i'w ddathlu, rhowch botel o siampên yn y rhaeadr i'w oeri.
Sut i gyrraedd: Mae Cwm Rhaeadr ger Llanymddyfri a thua milltir i'r gogledd o bentref Cil-y-cwm.Mae parcio car yn rhad ac am ddim.
Taith gerdded a awgrymir: Rhandirmwyn
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Mae La Patisserie yn Llanymddyfri yn lle da ar gyfer danteithion blasus - gan gynnwys pasteiod sawrus twym, cawl, siocled poeth blasus a thoesenni! Pris: Bydd basged £20 i ddau yn cynnwys fflasg fawr o gawl cartref, talp o fara graneri, darn o gaws cheddar Cymreig, pastai borc gartref ac wy selsig, yn ogystal â thafell fawr o fara brith i bwdin.

La Patisserie, Llandovery