English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llyn y Fan Fach

 

Lleoliad picnic

Mae'n sicr fod hwn yn un o safleoedd picnic mwyaf dramatig y Deyrnas Unedig. Mae'n edrych dros Lyn rhewlifol Llyn y Fan Fach ar ochr orllewinol Bannau Brycheiniog. Mae cerdded i fyny o'r maes parcio yn dipyn o waith caled ond mae'n werth pob eiliad. Mae'r golygfeydd ar draws y llyn yn hudol ac mae'n anodd meddwl am safle gwell nag edrych tua'r gorllewin i gyfeiriad machlud yr haul wrth yfed cawl twym. Eisteddwch ar flanced ac edrych i lawr ar y llyn gan fyfyrio ynghylch chwedl Morwyn y Llyn.

Cyngor am bicnic: Mae diwrnod oer, gwyntog a chymylog yr un mor brydferth â'r haf, hyd yn oed yn y fan agored hon. Cyn belled â'ch bod wedi gwisgo'n addas, mae'n bosibl mwynhau picnic urddasol yma yn y gaeaf. Dewiswch y ryseitiau hydrefol gorau ar gyfer eich picnic, sy'n bendant o fod at ddant pawb a chyffroi'r ymennydd drwy liwiau a bywyd byd natur.

Sut i gyrraedd: Ewch oddi ar yr A40 yn Nhrecastell gan deithio tua'r de-orllewin i Landdeusant. Yna dilynwch yr arwyddion i Lyn y Fan Fach.

Taith gerdded a awgrymir: Llyn y Fan Fach

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:

Mae La Patisserie yn Llanymddyfri yn un da ar gyfer danteithion blasus - gan gynnwys pasteiod sawrus twym, cawl, siocled poeth blasus a thoesenni! Pris: Bydd basged £20 i ddau yn cynnwys fflasg fawr o gawl cartref, talp o fara graneri, darn o gaws cheddar Cymreig, pastai borc gartref ac wy selsig, yn ogystal â thafell fawr o fara brith i bwdin.

La Patisserie, Llandovery