English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Golwg-yr-Aman

 

Lleoliad picnic

Mae Golwg-yr-Aman yn ffurfio rhan (3.5km) o'r daith gerdded, lle nad oes unrhyw draffig, ar lannau'r afon o Rydaman i Frynaman, sef pellter o tua 14 cilomedr! Mae'n cynnwys capeli hanesyddol, tafarndai clyd, cerrig coffa hynafol a chae rygbi'r Aman!

Cyngor am bicnic

Sut i gyrraedd: Mae'r daith gerdded hon yn dechrau o'r maes parcio ar bwys Capel Bryn Seion, Glanaman.

Taith gerdded a awgrymir:  Golwg Yr Aman

 Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:

Mae'n werth ymweld â The Pear Tree Deli yn Rhydaman i gael ei rholiau sosej poblogaidd! Mae'r rholiau hyn llawn cig o ansawdd, ac ymhlith y gorau! Mae'r ffefrynnau eraill ar gyfer picnic gaeaf yn cynnwys cawl, roliau porc twym a brownis cartref. 

 

The Pear Tree Deli, Ammanford

Ble i aros:

Gwely a Brecwast- Mae Gwely a Brecwast Beudy Bach yn ysgubor 200 oed sydd wedi'i haddasu'n chwaethus ar dyddyn ac mae oddeutu 4 milltir o ddiwedd yr M4.

Hunanarlwyo- Mae Bwthyn Nant Melyn yn fwthyn bach Cymreig 160 oed yng nghanol pentref Brynaman, ac o fewn pellter cerdded i'r siop leol, canolfan dwristiaeth y Mynydd Du, sinema ddelfrydol a thafarndai. Mae'r bwthyn ym mhen uchaf Dyffryn Aman ac ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Y bwthyn hwn yw un o anheddau cyntaf y pentref, ac fe'i hadeiladwyd yn 1851. Mae ganddo ddwy ystafell a lle i hyd at bedwar person gysgu.