English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Castell Dryslwyn

Lleoliad picnic

Yn sefyll ar graig uwchlaw Dyffryn Tywi, mae'r castell hwn o'r 13eg ganrif mewn safle amddiffyn perffaith ac yn cynnig golygfeydd hyfryd iawn ar gyfer picnic. Gallwch edrych draw at Dŵr Paxton yn y pellter gyda seidr twym yn eich dwylo wrth feddwl am y brwydrau a ddigwyddodd yma amser maith yn ôl. Mae'r castell hwn, a gafodd ei adeiladu gan un o dywysogion teyrnas y Deheubarth, wedi newid dwylo sawl gwaith yn ystod y brwydrau rhwng y Cymry a'r Saeson ganrifoedd yn ôl. Caiff ei ystyried yn un o'r strwythurau mwyaf pwysig (adeilad rhestredig gradd 1) sydd dal yn sefyll heddiw a adeiladwyd gan bennaeth o Gymru.

Cyngor am bicnic: Cewch foddhad llwyr wrth dynnu eich picnic gaeaf allan o'ch gwarbac ac eistedd i fwyta yng nghanol golygfeydd perffaith y dirwedd hon yng nghysgod Tŵr Paxton a Chastell Dryslwyn, sy'n drawiadol o unrhyw leoliad. Ewch â digon o fwyd a diod er mwyn gwledda ar harddwch y golygfeydd hyn a chreu atgofion melys.

Sut i gyrraedd: Wrth i Farcudiaid Coch hedfan yn urddasol uwchben y dirwedd gysegredig hon, rhaid i ni grwydro oddi tanynt â'n picnics ar y ffordd rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin ar y B4297 ar ôl gadael yr A40.

Taith gerdded a awgrymir: Nantgaredig

 

Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf

Deli Ginhaus
Mae'n cynnwys Focaccia Glanbrydan, 150g yr un o ddau gaws Cymreig megis Perl Wen a Pherl Las, pot o olifau cymysg, pecyn o Salami Cymreig Bakers Pig, pot o gnau cymysg a jar fechan o siytni Miranda. Pris: £22 am ddau berson - rhoddir y bwyd mewn bag papur brown gyda chyllyll a ffyrc tafladwy. Mae dewis i fynd â bwrdd o bren (gyda blaendal i'w ddychwelyd i chi) i osod eich picnic yn daclus. Gall eitemau ychwanegol gynnwys Jin Cymraeg, fflasg o goffi neu gawl, neu gall cwsmeriaid ddewis y cynnwys eu hunain.

Hamper from Ginhaus Deli, Llandeilo

 

 Ble i aros:

Gwely a Brecwast - Mae Tŷ Cefn Tre-gib yn Nyffryn Tywi gerllaw Llandeilo. Mae ystafelloedd ar gael drwy gydol y flwyddyn ac mae carafán 'Airstream' a yurts hefyd ar gael o fis Ebrill tan ddiwedd mis Hydref.

Hunanarlwyo - Mae Bythynnod Gwyliau Strangwrach mewn lleoliad heddychlon rhwng Llandeilo a Brechfa, a cheir erwau o erddi prydferth a golygfeydd godidog o'r cefn gwlad agored. Mae tri bwthyn ac mae lle i 2–8 o bobl gysgu.