Traeth Pentywyn
Lleoliad picnic
Mae sawl man picnic ar hyd y traeth hwn sy'n bum milltir o hyd. Gallwch fynd am ychydig fetrau hyd at un o'r meinciau ar lan y môr neu gallwch roi blanced ar y tywod. Dylai'r rhai sydd â mwy o egni fynd tua'r gorllewin i archwilio pyllau glan môr neu ddringo clogwyni dramatig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r golygfeydd o'r fan hon ar draws Bae Caerfyrddin yn wych ond os ydych yn dymuno bwyta eich picnic yma, dewch â blanced gan nad oes yma feinciau! Mae Traeth Pentywyn yn gartref i osod recordiau cyflymder y byd ar dir, ac mae'n berffaith ar gyfer hedfan barcud a chasglu cregyn. Ar adegau penodol y flwyddyn, gallwch hyd yn oed yrru ar hyd y traeth fel y rhai a fu'n torri'r recordiau yno yn y gorffennol!
Cyngor am bicnic: Edrychwch i weld pryd y gallwch yrru ar y traeth a llwythwch y car ar gyfer y profiad gorau o giniawa ar y traeth.
Sut i gyrraedd: Mae maes parcio ar lan y môr ym Mhentywyn.
Taith gerdded a awgrymir: Pentywyn
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Mae'r Deli hwn yng nghanol tref Talacharn, lle mae'r fwydlen ar y bwrdd du yn newid yn barhaus, yn nefoedd i fwydgarwyr. Yno, gweinir coffi masnach de gan farista arbennig, platiaid o gawsiau o Gymru, cacennau cartref a phot o de, heb anghofio peis a thartenni lleol. Mae'r Ferryman Deli ar stryd fawr tref hanesyddol Talacharn, yn agos at y castell a chartref Dylan Thomas ac yn fan delfrydol i brofi hyfrydwch Talacharn.

The Ferryman Deli, Talacharn


Ble i aros:
Gwely a Brecwast- Tŷ Gwledig Broadway - mae hwn yn fan cynnal priodasau, bwyty a gwesty sy'n cynnig lle ymlaciol i'r rheiny sydd am gael gwyliau yn y wlad, ar gyrion Talacharn. Mae gan y gwesty naw ystafell en-suite â gwelyau moethus a golygfeydd o'r môr, ac mae'r bwyty yn cynnig dewis o brydau Cymreig traddodiadol ar ei fwydlen sy'n newid yn barhaus, gan gynnwys ffolen cig oen â thato potsh cennin a Chaerffili, a selsig Morgannwg â siytni cwrw casgen sbeislyd.
Hunanarlwyo- Bythynnod Coastal Wood- Mae Coastal Wood, sydd yng nghanol 17 erw o goetir heddychlon a thawel, yn cynnig pump o fythynnod cerrig wedi'u hadnewyddu'n steilus ar fferm weithredol. Ceir golygfeydd trawiadol dros Fynydd Marros a'r parcdir cenedlaethol, mae'n ddelfrydol i rai sy'n dymuno dianc i'r cefn gwlad.