English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Yn chwilio am y diwrnod mas perffaith gyda'r ci? Rydych chi wedi dod i'r lle iawn! Mae Sir Gâr yn llawn anturiaethau fydd yn gwneud i gynffonnau siglo — o drenau stêm a chestyll i'w dringo i wibio ar hyd y traethau a gorffwyso mewn tafarndai braf. Cewch grwydro drwy goetiroedd gwyllt, ymlwybro ar hyd glannau afonydd, archwilio cestyll sy'n ganrifoedd oed, neu ymestyn eich coesau ar hyd traethau tywod di-ben-draw. Rydyn ni wedi mapio rhai o'r llefydd gorau i gŵn a'u pobl gael anturio, dadflino, a mwynhau diwrnod gwych allan. Dim cynelau, dim euogrwydd - dim ond anturiaethau gwych gyda'ch ci. 

Abergwili

Am ddiwrnod allan hamddenol gyda'ch ci, mae Abergwili yn cynnig cymysgedd hudolus o lwybrau ar hyd glan yr afon a chludiant o'r oes o'r blaen. Cewch ddechrau eich diwrnod ar Reilffordd Gwili, lle caiff cŵn eu croesawu am ffi fechan. Mae'r daith trên stêm olygfaol hon yn ymdroelli drwy lesni cefn gwlad ac ar hyd Afon Gwili, gyda cherbydau traddodiadol a gorsaf wedi'i hadfer yn gain yng Nghyffordd Abergwili yn ychwanegu at y naws. Ar ôl eich taith ar y trên, ewch draw i Barc yr Esgob gerllaw, man glas tawel ger Afon Tywi sy'n berffaith am dro bach hamddenol. Mae croeso i gŵn ar dennyn, ac mae digonedd o le i ymestyn eich coesau neu fwynhau picnic o dan y coed. Os ydych chi eisiau rhywbeth mwy blasus, ewch i Stacey's Kitchen, caffi cyfeillgar wrth ymyl y parc sy'n gweini ciniawau ysgafn, teisennau a diodydd, a lle mae croeso i gŵn wrth y seddau y tu allan. Os ydych chi'n eistedd ar fainc yn gwylio'r byd yn mynd heibio neu'n mwynhau coffi gyda'ch cyfaill wrth eich traed, mae Abergwili yn ddelfrydol am daith allan hamddenol sy'n addas i gŵn.

 

Llanarthne

Os am ddiwrnod yn llawn gerddi heddychlon, teithiau car drwy gefn gwlad a blas ar fwydydd lleol, mae Llanarthne yn ddewis gwych. Dechreuwch gydag ymweliad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae croeso i gŵn ar ddydd Llun, dydd Gwener, a phenwythnos llawn cyntaf pob mis. Mae digonedd o le i gerdded gyda'r ci ar dennyn drwy borfeydd gwelltog a gerddi thematig, ac ar hyd llwybrau ar ochr y llyn, ond ichi gofio na chaniateir cŵn yn y Tŷ Gwydr Mawr, y Tŷ Trofannol, y Ganolfan Adar Ysglyfaethus na'r mannau chwarae. I ginio, ewch draw i Siop a Chegin Wright's, ond ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y car. Gyda'r naws wledig, cynhwysion lleol o safon, a seddau y tu allan i eistedd gyda'ch ci, mae'n lle perffaith i ymlacio a chael eich gwynt atoch. Os yw'r ci yn dal heb losgi ei holl egni, gorffennwch y diwrnod drwy gerdded i fyny at Dŵr Paxton, ffug-adeilad trawiadol lle cewch weld Dyffryn Tywi yn ei holl ogoniant. Mae croeso i gŵn yn yr ardaloedd agored o amgylch y tŵr, a bydd y golygfeydd yn ddiweddglo gwych i'ch anturiaeth yn Sir Gâr.

Llandeilo

Am ddiwrnod sy'n croesawu cŵn yn Llandeilo a'r cyffiniau, bydd digonedd o ardaloedd hardd a thirnodau hanesyddol i ddewis o'u plith, a llefydd gwych i gael tamaid i fwyta. Os ydych chi'n chwilio am dro heddychlon drwy gefn gwlad, a digonedd o le i grwydro, ewch draw i Barc Dinefwr. Mae croeso i gŵn ar dennyn ym mhob rhan o'r gerddi, ar lwybrau drwy'r coetir ac ar barcdir agored - ond ddim y tu mewn i'r plasty nac ym mharc y ceirw. Mae llwybrau’r coetir yn berffaith i grwydro'n hamddenol, a bydd yr allt i fyny at adfeilion Castell Dinefwr yn talu ar ei chanfed wrth ichi fwynhau'r golygfeydd eang o'ch cwmpas. Am daith gerdded fwy garw a dramatig, ewch i Gastell Carreg Cennen ger pentref Trap, lle mae croeso i gŵn yn yr holl ardaloedd allanol. Mae'r adfeilion uchel a'r dirwedd o'u cwmpas yn creu ymweliad sy'n llawn awyrgylch, yn enwedig os yw eich ci wrth ei fodd yn arogli o amgylch muriau cestyll a chaeau agored. Pan fydd hi'n amser bwyd, ewch draw i Diod, caffi a bar sy'n gweini coffi arbenigol, gwin Cymreig, cwrw crefft a thameidiau ysgafn. Mae croeso yno i gŵn, ac mae'r naws yn ymlaciol a chyfeillgar. Rownd y gornel, mae Lolfa yn cynnig awyrgylch hamddenol tebyg, gyda brecwastau, ciniawau a theisennau blasus mewn lleoliad llachar a modern lle caiff cŵn groeso cynnes.

Pen-bre

Os yw'ch ci wrth ei fodd â llefydd agored, gwynt y môr, a phawennau llawn tywod, bydd yn siŵr o wirioni ar ddiwrnod allan ym Mhen-bre. Dechreuwch ym Mharc Gwledig Pen-bre, parc arfordirol helaeth sy'n llawn llwybrau coetir, twyni tywod, a mannau agored helaeth sy'n berffaith ar gyfer teithiau cerdded ar dennyn neu i fwynhau rhedeg oddi ar dennyn mewn ardaloedd penodol. Mae'r parc yn cynnwys amrywiaeth o lwybrau cerdded, a hyd yn oed cae i gŵn gael ymarfer, sy'n ei wneud yn lle gwych i rai sy'n hoffi cael eu pawennau'n rhydd. Am antur ar hyd traeth sy’n wirioneddol epig, dilynwch yr arwyddion am Gefn Sidan, un o draethau hiraf Cymru. Mae'n ymestyn dros bellter anhygoel o wyth milltir, ac mae croeso i gŵn drwy'r flwyddyn ar y rhan fwyaf o'i hyd - gydag ond un ardal milltir o hyd lle gwaherddir cŵn rhwng mis Mai a mis Medi. Edrychwch ar yr arwyddion i weld pa ardaloedd y cewch fynd iddynt. Ar ôl yr holl redeg ac anturio, byddwch yn haeddu seibiant. Am le cyfleus i stopio am funud neu ddau, mae caffi'r Orsaf yn y parc yn cynnig prydau ysgafn, diodydd a hufen ia, ac mae seddau y tu allan ar gael i chi a'ch ci. Neu os ydych chi am fentro ychydig ymhellach i mewn i'r pentref, mae Daisy's Little Coffee Shop yn lle clyd sy'n croesawu cŵn, ac yn adnabyddus am ei wasanaeth da, ei deisennau cartref a'i naws ymlaciol. 

Cenarth a Chastellnewydd Emlyn

Am ddiwrnod sy'n cyfuno glannau afon hudolus, tirnodau hanesyddol a mannau clyd i gael seibiant, mae Cenarth a Chastellnewydd Emlyn yn llefydd perffaith i grwydro gyda'r ci. Dechreuwch yng Nghastellnewydd Emlyn, fu unwaith yn arhosfan brysur ar lwybr porthmyn yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Cewch grwydro gyda'ch ci drwy adfeilion y castell ar y bryn uwch tro yn Afon Teifi, a mwynhau taith gerdded ysgafn ar dennyn drwy lesni'r ardal oddi amgylch. Ar ôl hynny, ewch draw i'r Bunch of Grapes ar Stryd y Bont - tafarn o'r ail ganrif ar bymtheg lle caiff cŵn groeso cynnes a bisged bach am ddim, wrth ichi brofi cwrw lleol, seidr neu ddiferyn o wisgi. Nid yw pentref prydferth Cenarth ond ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y car, ac yno cewch hyd i raeadr trawiadol. Ewch am dro hamddenol ar lan yr afon, gan gadw llygad am gwryglau traddodiadol yn siglo ar y dŵr. Am seibiant ymlaciol, arhoswch am ychydig yn Nhŷ Te Cenarth, ystafell de gyfeillgar â gardd wrth ymyl yr afon, teisennau cartref a naws hamddenol. Gall eich ci ymlacio wrth eich ochr wrth ichi fwynhau te prynhawn.

Cydweli

Gyda'i chastell canoloesol trawiadol, ei llwybrau cerdded ar lan yr afon, a'i chaffis croesawgar, mae Cydweli yn ddewis gwych am ddiwrnod allan sy'n addas i gŵn. Dechreuwch eich antur yng Nghastell Cydweli, un o'r cestyll Normanaidd sydd wedi'u cadw orau yng Nghymru. Mae croeso i gŵn ar dennyn ar y tiroedd, lle gallwch chi a'ch cyfaill archwilio'r waliau allanol glaswelltog a mwynhau golygfeydd dros Afon Gwendraeth. Er na chaniateir cŵn yn y tyrau nac ar y lefelau uchaf, mae digonedd o le o hyd i ymgolli yn yr hanes a mwynhau'r golygfeydd gyda'ch gilydd. Nesaf, ewch i Siop Fferm a Chaffi Parc y Bocs, ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y car. Gyda bwyd cartref, cynnyrch lleol, a gardd hyfryd, mae'n lle perffaith i gael ychydig o seibiant. Mae croeso i gŵn yn yr ardal eistedd allanol a hyd yn oed yn rhan o'r caffi – gyda thamaid bach blasus gan y staff hyd yn oed! Os ydych chi awydd i grwydro ar ôl cinio, mae Llwybr Glan yr Afon yn cynnig tro bach tawel ar lan yr afon drwy'r dref. Mae'r llwybr byr hwn yn ddelfrydol i grwydro ar dennyn, gan gynnig digonedd o awyr iach a golygfeydd agored.

 

Llanymddyfri

Am ddiwrnod allan yn llawn harddwch bywyd gwyllt, chwedlau lleol, a chroeso cynnes i gŵn, ewch draw tua'r bryniau i'r gogledd o Lanymddyfri. Dechreuwch eich antur yn RSPB Gwenffrwd-Dinas, gwarchodfa natur heddychlon lle mae croeso i gŵn ar dennyn. Mae'r llwybr cylchol hwn ar lan yr afon yn dilyn glannau Afon Tywi ac yn troelli drwy goetir derw hynafol sy'n llawn cân yr adar a chyfoeth o fywyd gwyllt. Ar hyd y daith, cewch weld Ogof Twm Sion Cati, cuddfan chwedlonol arwr gwerinol y Cymry, a ddihangodd i'r bryniau pellennig hyn. Gall y llwybr fod ychydig yn serth ac anwastad mewn mannau, felly mae'n syniad da gwisgo esgidiau cryf - ond bydd y golygfeydd a'r naws yn talu ar eu canfed. Ar ôl gorffen eich taith gerdded, ewch draw i bentref cyfagos Rhandir-mwyn, gem gudd sy'n nythu yn Nyffryn Tywi uchaf. Mae'n lle perffaith i ymlacio. Galwch heibio'r Royal Oak, tafarn hyfryd sy'n croesawu cŵn, gyda bar croesawgar, bwyd tafarn traddodiadol, a thanau i'ch cynhesu pan fydd y tywydd yn oer. Fel arall, mae'r  Bear Inn yn Llanymddyfri yn lle clyd arall i gael tamaid o fwyd neu ddiod gyda'r ci. 

Cross Hands

Am ddiwrnod llawn troeon drwy goetiroedd, a mannau i gael seibiant a thamaid blasus o fwyd sy'n addas i gŵn, gallwch ddianc i Cross Hands a'r ardal heddychlon oddi amgylch. Dechreuwch ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain, lle mae llwybrau golygfaol yn igam-ogamu drwy goetir a rhostir, gan amgylchynu llyn tawel. Mae croeso i gŵn ar dennyn, ac mae digonedd o fywyd gwyllt i'w weld ar hyd y daith. Ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y car, gallwch anturio drwy Barc Coetir Mynydd Mawr y Tymbl - hen faes glo sydd bellach yn llawn llwybrau deiliog, glaswelltir agored a cherflun trawiadol o lusern glöwr wrth y fynedfa. Cewch gerdded gyda'ch ci ar dennyn o amgylch y parc, ac mae'n bosib y gwelwch las y dorlan, cnocell y coed neu ddyfrgi hyd yn oed os ydych chi'n ffodus. Pan fydd hi'n amser bwyd, ewch draw i Siop Fferm a Gril Cwmcerrig am blatiaid hael, neu ewch draw i fwyty'r Oriel yn Leekes, lle croesewir cŵn mewn ardaloedd penodol, a lle mae'r teisennau'n werth chweil.

 

Talacharn

Mae Talacharn yn dref hamddenol sy’n croesawu cŵn, lle cewch chi a'ch ci fwynhau cymysgedd o hanes, golygfeydd arfordirol a llefydd clyd i gael seibiant. Dechreuwch yng Nghastell Talacharn, lle croesewir cŵn ar dennyn byr i archwilio'r tir a'r gerddi heddychlon â golygfeydd ysgubol o'r aber. O'r fan honno, ewch ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas — llwybr cylchol golygfaol dwy filltir o hyd sy'n cynnwys sied ysgrifennu'r bardd, cartref Dylan Thomas, a'i hoff olygfeydd ar hyd Afon Taf. Ar ôl eich taith gerdded, stopiwch wrth Gaffi Stone Range, lle mae croeso i gŵn wrth fyrddau awyr agored a lle cewch fwynhau coffi, teisen neu ginio ysgafn. Am rywbeth mwy sylweddol, mae'r Tŷ Glo yn ffefryn arall yn y pentref sy'n croesawu cŵn. Mae'n cynnig pitsas wedi'u coginio dros dân coed, danteithion melys, ac awyrgylch hamddenol, gyda seddau y tu allan sy'n berffaith i chi a'r ci. Gyda'i naws lenyddol, ei olygfeydd hanesyddol, a'i gaffis croesawgar, mae Talacharn yn lle gwych am ddiwrnod allan heddychlon sy'n addas i gŵn.


Llanelli 

Mae Llanelli yn lle gwych i fynd â chi am dro, yn bennaf oherwydd Llwybr Arfordir y Mileniwm, sydd yn eang, yn weddol wastad ac yn ddi-draffig. Mae'n ymestyn dros tua 13 milltir rhwng Bynea a Pharc Gwledig Pen-bre, ac yn berffaith i gŵn ar dennyn gael ymestyn eu pawennau a mwynhau golygfeydd o'r aber, y twyni, y gwlyptiroedd a'r traethau tywodlyd. Ar hyd y llwybr byddwch yn mynd heibio Bae Sant Elli, caffi a gelateria deniadol sy'n wynebu'r traeth wrth Ddoc y Gogledd, ac sy'n croesawu cŵn yn ei fistro ar y llawr gwaelod ac wrth ei seddau y tu allan - yn ddelfrydol i fwynhau coffi, cinio ysgafn neu hufen ia gyda'ch ci wrth eich ochr. Os dilynwch y llwybr i'r gorllewin i Borth Tywyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â Chaffi Crazie Crepes, lle hwyliog sy'n croesawu cŵn ac sy'n adnabyddus am ei ddanteithion melys, ei seddau allanol, a'i Puppuchinos am ddim i ymwelwyr blewog - y wobr berffaith ar ôl cerdded ar hyd yr arfordir.

Brechfa

Os yw eich cynllun am ddiwrnod gwych allan gyda'r ci yn cynnwys llwybrau heddychlon drwy'r goedwig, ymlwybro ar hyd glannau afonydd, a thafarn groesawgar ar ddiwedd y daith, Brechfa yw'r lle perffaith i chi. Yng nghesail bryniau coediog canolbarth Sir Gâr, pentref bach yw Brechfa ar ymyl un o'r coedwigoedd mwyaf o ran maint a mwyaf croesawgar i gŵn yn y rhanbarth. Mae Coedwig Brechfa yn cynnig milltiroedd o lwybrau cerdded golygfaol ar gyfer pob gallu, o droeon hamddenol ar lan yr afon hyd at deithiau cerdded hirach drwy goetir - ac mae llawer o'r rhain yn ddelfrydol i anturio gyda'r ci ar dennyn neu'n rhydd, yn dibynnu ar yr ardal. Ar ôl taith gerdded dda, ewch draw i'r Forest Arms ym mhentref Brechfa – tafarn draddodiadol sy’n croesawu cŵn lle gallwch chi a’ch cyfaill orffwys a chael tamaid i'w fwyta neu dorri eich syched. Fel arall, am rywbeth ychydig yn fwy coeth, mae Gwesty Gwledig Tŷ Mawr yn cynnig pryd o fwyd mewn lle sydd yn wirioneddol groesawgar i gŵn. Gyda seddau dan do ac awyr agored lle mae croeso cynnes i gŵn, digonedd o ddŵr ffres a rhai danteithion, mae'n lle hyfryd i fwynhau pryd o fwyd hamddenol ar ôl treulio'r diwrnod yn y goedwig.

Croesawu Cŵn

Croesawu Cŵn