English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Siopau Arbenigol a Phethau o'r Oes a Fu

Ewch â’r darganfyddiad perffaith a llawer mwy na hynny adref gyda chi. Fel y maent yn dweud, mae pethau hardd yn rhoi llawenydd am byth.

Jen Jones Quilts

Y cwrtsh hanfodol

Mae ymwelwyr o bob rhan o’r byd yn cael eu denu i Jen Jones Quilts. Nid yw’n fawr syndod gan y byddwch yn dod o hyd i haen ar ben haen o gwiltiau Cymreig sy’n cynrychioli holl sbectrwm cwiltio yng Nghymru rhwng muriau’r siop hon mewn bwthyn gwyn. Hwn yw’r casgliad mwyaf a welwch yn unrhyw le, a ddygwyd ynghyd dros ddeugain mlynedd o angerdd gan y perchennog sydd wedi arbed ac achub yr hyn a oedd i rai yn ddim ond ‘hen ddillad gwely’ sy’n arddangos yr enghreifftiau gorau o hen decstilau a thecstilau o’r oes a fu sy’n tarddu o Gymru. Ewch am dro drwy’r ystafelloedd a chwiliwch am y cwilt perffaith, y blanced neu’r siôl berffaith a thecstilau hyfryd eraill i roi’r cwtsh mwyaf hyfryd i chi. Ansawdd heb ei ail am brisiau rhyfeddol o isel.

Pontbrendu Llanybydder  SA40 9UJ

01570 480160

www.jen-jones.com

Marc's Guitars

Miwsig i’ch clustiau

Dim ond un o blith ystod o siopau annibynnol y dewch chi ar eu traws yng Nghastell-newydd Emlyn yw Emlyn Antiques. Ymhlith yr ystod o hen bethau a thrugareddau, bydd Marc’s Guitars yn fiwsig i’ch clustiau. Mae Marc yn credu bod y gitâr yn ‘ffrind am oes’ ac yn gobeithio bod ganddo’r un prydferth ail law y bydd arnoch chi ei eisiau. Gyda thros 200 mewn stoc, y mae ef wedi’u trwsio, rhoi tannau newydd arnynt a’u paratoi, byddwch mwy na thebyg yn gadael gan fod yn barod i strymio gitâr sylfaenol cyntaf am rhwng £8 a £200. Tannau sy’n tanio’r dychymyg yma, gydag offerynnau cerdd o’r oes a fu, hen offerynnau ac offerynnau mwy newydd o fandolinau a banjos i iwcalilis a thelynau awtomatig a llawer mwy o offerynnau anarferol o bob rhan o’r byd.

Heol Newydd Castellnewydd Emlyn SA38 9BA

01559 370283

www.marcsguitars.co.uk

Vintique

Popeth disglair a hardd

Menter newydd sy’n ymwneud â phopeth sy’n hen ac o’r oes a fu yw Vintique. Mae’n ychwanegu at apêl gynyddol Castellnewydd Emlyn ar gyfer popeth sy’n ail law ac a arferai fod yn ffefryn gan rywun. Y tu mewn i’r siop gryno hon gallwch bori trwy ddetholiad enfawr o ddodrefn gwledig ac wedi’u paentio, yn ogystal â dillad o’r oes a fu a thaclau cegin. Gyda throsiant uchel o ran eitemau casgladwy diddorol, rydych yn siŵr o ddod ar draws yr anrheg unigryw honno. Os oes gennych ddodrefnyn penodol yn eich meddwl, gall y cyfleusterau gweithdy cynhwysfawr gynnig gwasanaeth i ddylunio a gweithgynhyrchu dodrefn gwledig a diwydiannol yn ôl eich manyleb chi hefyd. Gall dodrefn gael eu hatgyweirio, eu hadfer a’u stripio hefyd.

Stryd y Sycamorwydden Castellnewydd Emlyn SA38 9AJ

07855 805546

www.facebook.com/Vintique

Second Hand Rose

Unrhyw beth a phopeth

Mae Neuadd Marchnad Dan Do Caerfyrddin yn fwrlwm o adwerthwyr annibynnol, a does dim un yn fwy na’r eclectig Second Hand Rose. Bum niwrnod yr wythnos, mae’r busnes teuluol hwn sydd wedi hen ennill ei blwyf yn arddangos trysorfa o hen emwaith, gemwaith ail law a gemwaith o’r oes a fu gan gynnwys gemau gwisgo, arian, aur a phlatinwm a phlatinwm. Fe gewch hefyd emwaith cyfoes wedi’i grefftio’n ofalus â llaw. Ond nid dyna’r cyfan. Mae Second Hand Rose yn prynu, yn gwerthu, yn trwsio ac yn adfer gemwaith. Felly ewch dros ben llestri. Byddwch yn barod i gael eich dallu nid dim ond gan emau ond gan tsieni, dillad, ategolion a phob math o eitemau anarferol. Yn wir, unrhyw beth a phopeth y mae lle iddo ar stondin.

Marchnad Da Do Caerfyrddin, Caerfyrddin SA31 1QY

01267 233051

Oriel Mimosa Welsh Art & Antiques

Hen bethau a phethau cyfoes

Os byddwch chi’n meddwl eich bod yn gweld dwbl yn Llandeilo, fyddwch chi ddim yn anghywir. Mae gan Oriel Mimosa ail leoliad yn Stryd y Farchnad sy’n arddangos talentau Cymreig creadigol, sy’n berffaith i’r rhai sy’n dwlu ar gelf a chasglwyr cerameg fel ei gilydd. Mae’n brawf bod celf Gymreig yn fyw ac iach. Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan ystod ryfeddol o’r hen gerameg orau un (gan gynnwys Abertawe a Nantgarw) ochr yn ochr â chrochenwaith Cymreig lleol cyfoes hardd yn ogystal â chelfweithiau gwreiddiol a phrintiau argraffiad cyfyngedig. Felly os oes dirfawr angen yr un darn penodol hwnnw ar eich waliau neu os ydych yn chwilio am yr hen ddarn arbennig hwnnw, fe gewch ddwywaith y dewis yn Oriel Mimosa.

6 Stryd y Farchnad Llandeilo SA19 6AH

01558 822215

www.orielmimosa.com