English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Ffeiriau ac Arwerthwyr

Enjoy the thrill of hearing the hammer come down, or just enjoy picking over the bits and pieces at the fairs.

Ffeiriau Hen Bethau’r Dderwen

O’r fesen derwen a dyf

Mae gan Ffeiriau Hen Bethau’r Dderwen hanes hir a sefydledig o ddarparu Ffeiriau Hen Bethau yn Sir Gaerfyrddin. Beth am ymweld â ffeiriau gwanwyn, haf a hydref yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Yma fe ddarganfyddwch chi bopeth o ddodrefn derw a phinwydd gwledig Cymreig i glociau Ffrengig a charpedi Persiaidd a llawer iawn mwy. Mae’r ffair hon yn mynd o nerth i nerth ac mae wedi dyblu mewn maint dros y blynyddoedd. Dyblwch y cyfle i chwilio am eich darganfyddiad perffaith i’w brynu ymhlith 60+ o stondinau dan do a marchnad awyr agored sy’n gwerthu eitemau o’r Oes a Fu dan orchudd 20 o bebyll mawr. Gadewch eich ymbarél gartref. Nid oes angen dim arnoch ond bag a phwrs.

Ffeithiau diddorol

Lleoliad eiconig – cewch ddarganfod rhywbeth hanesyddol yn Nhŵr Paxton a rhywbeth sydd o flaen yr oes yng nghromen wydr ganolog hyfryd Foster – y tŷ gwydr crib sengl mwyaf yn y byd.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Llanarthne SA32 8HG

01267 220260

www.derwenantiques.co.uk

Towy Events

Pethau Ail Law

Mae marchnadoedd Hen Bethau a Phethau Rhad Caerfyrddin ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn ddigwyddiadau anhepgor. A hwythau’n nodwedd reolaidd ar fywyd yn Sir Gaerfyrddin, maent yn fagned ar gyfer selogion a chasglwyr pob math o hynafion diddorol sydd wedi bod yn eiddo i eraill ac yn ffefrynnau ganddynt. Ceir bwrlwm y tu mewn a’r tu allan wrth i dyrfaoedd o helwyr trysorau o bob rhan o’r DU godi eitemau y mae’n rhaid eu cael i’r cartref. Fe welwch chi bopeth yma – Hen Bethau, dodrefn o Oes Siôr, offer garddio, crochenwaith Cymreig, pethau o’r Oes a Fu, eitemau sy’n efelychu ffasiynau’r gorffennol, eitemau wedi’u huwchgylchu, mae’r rhestr yn eclectig ac yn ddiderfyn. Mae gennych naw cyfle i fod yn rhan o’r bwrlwm yn 2018. Peidiwch â cholli’r cyfle. Dewch yn gynnar. Achubwch y blaen ar y tyrfaoedd. Bachwch fargen.

Ffeithiau diddorol

Lleoliad cyfleus – funudau i ffwrdd o farchnad hanesyddol a thref sirol Caerfyrddin, ar lannau’r odidog Afon Tywi.

Maes Sioe Caerfyrddin Nant-y-ci SA33 5DR

01267 220260

www.towyevents.co.uk 

Peter Francis Auctioneers

Dan y morthwyl

Mae enw Peter Francis Auctioneers yn gyfystyr ag ansawdd a phroffesiynoldeb, a hwythau’n arbenigo mewn prynu, gwerthu a phrisio hen bethau, celfyddydau cain ac eitemau ar gyfer casglwyr. Pa un a ydych yn brynwr neu werthwr difrifol, ynteu’n syml yn chwilfrydig, ymwelwch â’u hocsiynau pythefnosol rheolaidd yng Nglantywi. Yma gallwch fwrw golwg ar rhwng 650 a 750 o lotiau o bob math o eitemau hyfryd a bendigedig, o feysydd cyffredinol i feysydd arbenigol megis hen gerbydau, cerameg ddwyreiniol, teganau a gwaith ieuenctid, rygiau a thecstilau ac, wrth gwrs, diddordeb Cymreig. Ond nid dyna’r cyfan. Ceir Gwerthiannau Catalog Cain cyfnodol ac arwerthiannau wedi’u hamseru ar-lein hefyd. Gwnewch gynnig. Mwynhewch wefr y morthwyl yn cwympo.

Ffeithiau diddorol

Ar ddiwrnodau ocsiynau mae’n agor am 08.00 ac ocsiynau’n dechrau am 09.30

Towyside Salerooms Heol yr Hen Orsaf Caerfyrddin SA31 1JN

01267 233456

www.peterfrancis.co.uk

 

Jones and Llewellyn Auctions

Mwy i’w archwilio

Mae Jones and Llewelyn yn enw mawr ledled Cymru a’r tu hwnt. Nid yw’n syndod mewn gwirionedd gan fod miloedd o eitemau y mae angen eu prisio a’u rhoi ar ocsiwn yn pasio trwy eu dwylo dibynadwy o ddydd i ddydd. Dyna pam nad ydynt byth yn brin o ystod helaeth o wrthrychau a gweithiau sy’n aml yn unigryw ac wastad yn ddiddorol i’w rhoi ar ocsiwn yn eu harwerthiannau pythefnosol y mae cryn sôn amdanynt yn Llandeilo. Yno fe ddewch o hyd i lotiau mawr. Dros 1,000 ym mhob arwerthiant, sy’n rhoi cymaint mwy i chi ei archwilio. Dewiswch o blith hen ddodrefn, eitemau casgladwy, tsieni prin, celfyddyd gain, teganau a dodrefn modern gwerthfawr ac o ansawdd. Ewch adref gyda’r darn hwnnw nad oeddech yn gwybod fod arnoch ei eisiau nes i chi ei weld.

Ffeithiau diddorol

Wedi’i leoli funudau yn unig o dref farchnad hyfryd Llandeilo, sy’n gyforiog o siopau arbenigol a mannau bwyta ffynci. Gwnewch ddiwrnod ohoni a daliwch i fynd am 10km ar hyd Heol Talyllychau a threuliwch amser yn Abaty’r 12fed ganrif yn Nyffryn Cothi.

Ystafelloedd Ocsiwn Llandeilo Heol Talyllychau Llandeilo SA19 7HR

01558 823430

www.jonesandllewelyn.com