
Ffordd Wledig y Porthmyn
Taith odidog 180 milltir o hyd ar lonydd gwledig Sir Gâr
> Teithio ar hyd hewlydd bach gwledig y sir
> Dilyn ôl traed y porthmyn mor bell yn ôl a'r Oesoedd Canol
> Wedi'i rhannu'n dair adran y gellir eu mwynhau ar wahân am seibiannau byrrach
> Mae'r enwau Llanwenog a Balwen wedi'u cymryd o fridiau defaid Cymreig
> Araf amdani Mae'n werth caniatáu 3 - 4 diwrnod i grwydro'r llwybr cyfan
> Lawrlwythwch daflen Ffordd Wledig y Porthmyn (pdf)
Heiptro Ho! Llwybr cylchol ar lonydd gwledig Sir Gâr, gan grwydro ar hyd hewlydd bach y wlad am fwy na 180 o filltiroedd, yn union fel gwnaeth y porthmyn mor bell yn ôl â'r oesoedd canol.
Er na fydd gan y rhai sy'n teithio heddiw ddefaid, moch na gwyddau i'w crynhoi, fe gawn nhw'r un croeso cynnes wrth yrru drwy gymoedd a thros fynyddoedd, o dref farchnad i dref farchnad, gan ddarganfod treftadaeth y darn hwn o'r Gymru go iawn.
Nid yw lonydd gwyrdd a ffyrdd gwledig troellog Sir Gâr yn cael eu troedio mwyach gan y porthmyn a'u hanifeiliaid – daeth dyfodiad y rheilffyrdd ganol y 19eg ganrif â diwedd i hynny – fodd bynnag mae atgofion o'r hen draddodiadau yn frith o hyd yn y rhanbarth.
Rhoddir cipolwg i ni ar orffennol Sir Gâr ar ffurf tafarndai gwledig traddodiadol, llociau anifeiliaid o gerrig, tolldai, a gefeiliau lle câi 'ciws' metel eu rhoi ar garnau'r gwartheg.
Fe ddewch chi ar draws y golygfeydd hyn a llawer o drysorau eraill, yn cynnwys rhai o gestyll mwyaf dramatig a hardd ein gwlad, wrth ddilyn Ffordd Wledig y Porthmyn, sef cylchdaith yrru newydd 180 milltir o hyd o amgylch y sir.
Dros bant a bryn, ymwelir â threfi lliwgar a phentrefi glandeg y sir, ynghyd â'i thafarndai croesawgar a marchnadoedd prysur. Datgelir ar y daith rai o olygfeydd mwyaf trawiadol y sir o fynyddoedd, cymoedd a childraethau. Mewn ambell fan eir ar hyd lonydd culion er mwyn mwynhau golygfeydd llai adnabyddus a chael cipolwg agosach ar hanes.
Mae Ffordd Wledig y Porthmyn yn daith sy'n treiddio'n ddwfn i galon y Sir Gâr go iawn. Dyma ichi deithio araf ar ei orau, ac ni allwch frysio – felly caniatewch o leiaf dri neu bedwar diwrnod i fwynhau'r golygfeydd gorau.
Llwybr Llanwenog
Caerfyrddin i Genarth 54 milltir

Yr Uchafbwyntiau:
> Celf a chrefft lleol yn yr orielau celf a siopau annibynnol ar Heol y Brenin yn Hen Chwarter Caerfyrddin.
> Cerdded i fyny i gastell Llansteffan i weld yr olygfa drawiadol.
> Cofiwch edrych ar y gwaith haearn ar y bont yn Sanclêr, sy'n ymwneud â'r Twrch Trwyth, a wnaed gan y gof-artist David Petersen.
> Dilynwch yn ôl traed Dylan Thomas yn Nhalacharn.
> Ar benwythnos o haf ewch â'ch car i draeth Pentywyn.
> Tynnwch luniau gwych ar y bont garreg berffaith dros Raeadrau Cenarth.
> Mwynhewch foment dawel yng Ngardd a Chanolfan Ddehongli Hywel Dda i gael cipolwg ar y deddfau a basiwyd yma dros fil o flynyddoedd yn ôl.
Llwybr Balwen
Cenarth i Llanymddyfri 54 milltir

Yr Uchafbwyntiau:
>Yn ystod mis Medi a mis Hydref, gallwch weld eogiaid yn llamu i fyny'r afon yn Rhaeadrau Cenarth.
>Mwynhewch fynd am dro a chael picnic ar hyd yr afon yng Nghastellnewydd Emlyn, sy'n lle gwych ar gyfer sgimio cerrig a phadlo.
>Dilynwch y broses o Gnu'r Ddafad i'r Defnydd yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol.
>I gael ychydig funudau mewn lleoliad heddychlon a drysfa y bydd plant wrth eu bodd, dilynwch yr arwyddion ar gyfer eglwys fach Llanfihangel Rhos-y-corn.
>Rhowch gynnig ar banio am aur ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi.
>Y mannau prydferth godidog sydd heb eu difetha a'r bywyd gwyllt rhyfeddol mewn mannau fel gwarchodfa RSPB Rhandir-mwyn a Gwenffrwd-Dinas yn Ystrad-ffin, lle mae'r Tywi yn llifo heibio.
Llwybr yr Eidion Du
Llanymddyfri i Gaerfyrddin 73 milltir

Yr Uchafbwyntiau:
>Cadwch lygad am adeilad y King's Head yn Llanymddyfri, lle agorwyd Banc yr Eidion Du am y tro cyntaf ym 1799.
>Gallwch barcio ar gomin Llangadog ger afon Sawdde i fynd am dro neu gael picnic. Mae'r comin wedi bod yn dir pori agored ers y 13eg ganrif.
>Ffair-fach, wedi'i enwi ar ôl y ffeiriau a gynhelir yno – ac os ydych yn cael cyfle i fynd ar ddydd Sadwrn olaf y mis fe welwch pa mor brysur yw'r farchnad da byw hyd yn oed heddiw.
>Ewch i weld yr olygfa yng Nghastell Carreg Cennen; mae ffotograffwyr ac artistiaid wrth eu bodd â'r castell hwn.
>Galwch heibio i Ganolfan y Mynydd Du, Brynaman, gallwch weld arddangosfa a mwynhau paned.
>Ewch ar daith ar fferi tir a môr Glansteffan sy'n rhedeg rhwng Glanyfferi a Llansteffan