English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae enw’r Abaty a’r pentref yn deillio o’r llynnoedd (tal = pen, llychau = llynnoedd). Mae paill ffosil yn Llynnoedd Talyllychau yn awgrymu fod y coetir wedi cael ei glirio rhyw 3000 o flynyddoedd yn ôl. Mae olion o’r Oes Haearn yn dangos mai gwasgarog oedd yr anheddfannau yn y cyfnod hwnnw heb unrhyw fryngaerau i’r gogledd o rannau uchaf dyffryn Cothi, a’r ardal yn dal i fod yn goediog iawn gyda phoblogaeth oedd yn bennaf ddibynnol ar bori anifeiliaid.

Mae coed cyll yn ailymddangos yn y cyfnod Rhufeinig, a gwyddys am y gweithgareddau milwrol fu yma – caer ym Mhumsaint, cloddfa aur yn Nolaucothi ac o bosibl mwyngloddiau arian-plwm yn Rhandirmwyn. Dilynwyd cyfnod y Rhufeiniaid yn y 5ed a’r 6ed ganrif gan deyrnasoedd bychain Cymreig, pan ymddengys fod y coetiroedd wedi ail dyfu.

Mae’r newid sylweddol nesaf yn nodi fod y coetiroedd wedi cael eu clirio’n raddol ac y bu cynnydd mewn amaethu, sy’n adlewyrchu sefydlu’r Abaty yn Nhalyllychau yn y 12fed a’I ddulliau o amaethu. Bu’r Arglwydd Rhys yn hael yn ei rodd o diroedd i’w abaty newydd a gawsai ei redeg fel ffermydd ystadau. Roedd maenorau’r ucheldir o gwmpas Talyllychau yn canolbwyntio ar fagu defaid a gwartheg gyda maenorau’r gwastadeddau yn tyfu grawn.

Mae’r rhannau o’r daith gerdded dros yr ucheldir yn rhoi cyfle da i weld y newid yn y dirwedd a’r effaith a gafodd cau’r tir comin ar yr ucheldir. Mae rhai o’r cloddiau a arferai gau’r tir comin yn y 18fed a’r 19ed ganrif bellach wedi diflannu, sy’n tystio i’r newidiadau parhaus sy’n digwydd yn nhirwedd ein cefn gwlad. Mae rhai o’r teithiau yn dilyn ffyrdd y porthmyn – parhawyd i ddefnyddio porthmyn hyd at hanner cyntaf y 19eg ganrif.

Yn yr ugeinfed ganrif, un o’r newidiadau mwyaf a welwyd oedd dirywiad y bonheddwyr a’u plastai. Nid yw’n bosibl i werthfawrogi hanes Talyllychau heb wybod am ddylanwad teulu Williams Edwinsford o’r Oesoedd Canol hyd y 1970’au. Gall ymwelwyr heddiw weithredu fel ditectifs tirwedd a dod o hyd i olion tirwedd ‘ystad’ – y rhodfeydd coediog ffurfiol, porthdai, giatiau, ac ati.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded          Plotaroute

Pam Cerdded?

Mae'n werth ymweld â'r ardal hyd yn oed os mai i weld adfeilion yr abaty yn unig. Mae'r daith yn mynd â chi'n uchel i'r llechwedd gan gynnig golygfeydd panoramig ar draws y rhan hyfryd hon o Sir Gaerfyrddin sydd heb ei difetha.

Pa mor Hir?

oddeutu 4km (2.5 milltir)

Pa mor Anodd?

Mae esgyniadau a disgyniadau eithaf serth ar y llwybr ac fe allai rhai cerddwyr ei chael hi'n anodd ymgymryd â'r her.

Parcio - Hyn a hyn o leoedd parcio sydd ar gael y tu allan i furiau'r Abaty ond mae maes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru ar agor fel rheol yn y coetir gyferbyn.

Cyfleusterau - Mae toiled cyhoeddus ar gael ond does dim caffis na siopau yno; fodd bynnag, mae adfeilion yr Abaty yn lleoliad perffaith i gael picnic.

Man Cychwyn – Abaty Talyllychau

1. Talyllychau a'r Abaty.
Disodlwyd rheolaeth Rufeinig yn y 5ed a’r 6ed ganrif gan ‘deyrnasoedd’ bach Cymreig a daeth yr ardal yn fwyfwy amaethyddol. Sefydlwyd yr Abaty yn y 1180au gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd o Ddeheubarth a roddodd swm hael o dir hefyd. Caeodd Harri VIII yr Abaty, a oedd wedi mynd yn dlawd ac wedi'i esgeuluso yn yr Oesoedd Canol diweddarach, ac atafaelodd yr ystadau. O dan nawdd Williamsiaid Rhydodyn, adeiladwyd eglwys newydd y plwyf ym 1773, gan ddefnyddio cerrig yr Abaty.

2. Cyfoeth Naturiol Cymru - Maes parcio a theithiau cerdded.
Yn ychwanegol at y daith gerdded y sonnir amdani yma, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru bolisi mynediad agored yn eu coetiroedd sy'n caniatáu i bobl fynd ar sawl taith gerdded bosibl arall yn yr ardal.

3. Gwaith Plwm Pen-y-garreg
Bu adeiladau prosesu, prif siafft a ‘lefelau’ eraill hen Waith Plwm Pen-y-garreg yn weithredol tan 1892. O dan y ffordd i’r gogledd o’r Abaty roedd siafft aer, ac yn y coetir, roedd mynedfa yn cael ei gyrru i gyrraedd y wythïen blwm.

4. Llynnoedd Talyllychau a Thomen y Castell
Mae dau lyn Talyllychau yn ddelfrydol ar gyfer bywyd gwyllt. Cawsant eu ffurfio ar ddiwedd Oes yr Iâ gan falurion a adawyd gan y llenni iâ wrth iddynt gilio. Mae'r Llyn Isaf yn Warchodfa Natur sydd dan reolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru, ac mae'n gartref i hwyaid copog, mulfrain a gwyachod mawr copog. Castell mwnt a beili yw’r twmpath sydd wedi'i orchuddio â choed rhwng y llynnoedd, amddiffynfa frodorol Gymreig o bosibl wedi'i hadeiladu ar byst pren. Gwaith teulu Rhydodyn yw’r ‘gamlas’ rhwng y ddau lyn.

5.Mynydd Cynros - Tir Comin a Thir Caeëdig
Yn yr ardal hon yr oedd Comin Talyllychau, oedd yn darparu porfa gyffredin i rydd-ddeiliaid y faenor. Bu'n rhaid cau'r comin yn unol â Deddf Seneddol 1817. Mae llinellau syth a phatrwm rheolaidd y ffiniau yn cyfleu patrwm y tir caeëdig yn glir iawn. Cafodd Fferm Cwm-yr-Efail mwy na thebyg ei hadeiladu yn ystod yr un cyfnod.

Abaty Talyllychau

Llynnoedd Talyllychau