English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Rheilffordd Calon Cymru

Cerdded Llwybr Calon Cymru

Mae Rheilffordd Calon Cymru wedi bod yn daith hamddenol a hardd rhwng Abertawe a'r Amwythig ers dros 150 o flynyddoedd. Erbyn hyn, mae'n rhoi hwyl i gerddwyr hefyd. Mae Llwybr Rheilffordd Calon Cymru, a gwblhawyd yn 2019, yn llwybr 225 cilometr o hyd sy'n cysgodi'r traciau, yn ymlwybro rhwng gorsafoedd a thrwy filltiroedd o gefn gwlad godidog Cymru.

Mae bron hanner y llwybr yn Sir Gaerfyrddin, yn ymestyn o Forlan Llanelli i bentref bychan Cynghordy, yn nyffryn Afon Bran. Ar hyd y ffordd, gellir gweld Bannau, pentrefi porthmyn, adfeilion cestyll, gweundiroedd, tir amaethyddol a gwyrddni diddiwedd.

Er bod angen tipyn o gynllunio, mae trenau dim ond yn rhedeg pedair neu bum gwaith y dydd (dim ond ddwywaith ar ddydd Sul), mae'r rheilffordd yn darparu mynediad hawdd i gerddwyr. “Mae'r lein a'r llwybr yn cyd-fynd â'i gilydd," meddai Les Lumsden, a ddyfeisiodd y llwybr. “Teithio ar y trên, mynd yn araf, cerdded rhwng gorsafoedd - maen nhw'n gweddu i'w gilydd i'r dim."

Cerdded ger y Cledrau mewn Penwythnos

Mae deuddydd yn ddigonedd o amser i ymweld ag arfordir, cestyll, rhosydd, dyffrynnoedd a mwynhau jin ar benwythnos braf o gerdded.

Ar ddydd Sadwrn, beth am gerdded o Bontarddulais i Rydaman (14 cilometr), ar hyd cefnen wyllt Graig Fawr; o fan hyn, ceir golygfeydd gwych o ddyffrynnoedd ffrwythlon i'r gorllewin, Bannau Brycheiniog i'r dwyrain ac Aber arbennig afon Llwchwr i'r de.

I'r gogledd y mae tref Rhydaman sy'n gartref i Espresso Bar, Coffi Coaltown. Mae'r Espresso Bar yng nghanol yr hen Arcêd Fictoraidd yn Rhydaman. O Rydaman, gellir dal y trên i dref brydferth Llandeilo lle mae modd ymweld â Chastell Dinefwr, mwynhau jin a thonic neu ddau yn y Ginhaus neu aros am noson yng Ngwesty cŵl y Cawdor.

Ar ddydd Sul, nid yw trenau Llwybr Rheilffordd Calon Cymru yn dechrau tan ganol dydd, felly dechreuwch gerdded yn syth o Landeilo. Mae'n 16 cilometr i Langadog, heibio i adfeilion pen bryn Castell Carreg Cennen a Bryngaer Oes Haearn Garn Goch. Yn Llangadog, beth am fwynhau cwrw casgen yn y Goose & Cuckoo wrth ichi aros am y trên?

Wythnos o Gerdded ger y Cledrau

Wythnos yn sbâr? Beth am gerdded y cwbwl? Mae rhan Sir Gaerfyrddin o'r llwybr tua 100 o gilometrau amrywiol a hawdd ei chyflawni mewn wythnos.

Neu gallwch ddewis a dethol darnau. Mae'r 11 cilometr rhwng Cynghordy a Llanymddyfri yn cynnwys rhai o'r golygfeydd gorau, ar draws Bannau Caerfyrddin a Bannau Brycheiniog, ac yn gorffen yn hen dref y porthmyn. Yn wir, mae Llanymddyfri yn ganolbwynt da - beth am aros yng ngwesty'r Castell a mwynhau bwyd blasus yn The Old Printing Office.

Mae'r darn canlynol, rhwng Llanymddyfri a Llangadog (19 cilometr) yn cynnig golygfeydd mwy ysblennydd o'r Bannau wrth gerdded i lawr Dyffryn Tywi; beth am ddal y trên yn ôl i Lanymddyfri neu aros yn nhafarn Red Lion, Llangadog.

Cyfunwch y rhan hon sydd wrth droed y mynyddoedd â'r daith rhwng Pontarddulais i Lanelli (19.5 cilometr). Yma, mae'r llwybr yn dilyn Afon Llwchwr tuag at y morfeydd heli a'r môr, gan ddangos ochr wahanol i Sir Gaerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion ar gyfer yr holl lwybrau cerdded ewch i wefan Llwybr Rheilffordd Calon Cymru.

Llefydd gwych y mae'n rhaid ymweld â nhw gan Sarah Baxter

Golygfa orau - traphont Cynghordy

Mae'n anodd iawn i ddewis un olygfan ar hyd y darn gwyllt ac hardd hwn or Lwybr Rheilffordd Calon Cymru, sy'n edrych tuag at Fannau Brycheiniog. Dilyn y cyswllt i gweld y wefan rheilfodd yma.

Lle gorau i wylio adar - Canolfan Gwlyptir Llanelli

Mae'r noddfa aberol hon yn llawn bywyd ac cyffro, gan gynnwys gŵydd fwyaf prin y byd ac, yn eu tymor, hyd at 50,000 o arbennig adar dŵr sy'n gaeafu yno. Lle hyfryd i fynd gyda'r teulu. 

Lle gorau i gysgu – Gwesty'r Castell, Llanymddyfri

Bu'r Arglwydd Nelson yn aros fan hyn unwaith.  Mae'n hen dafarn goets, lle mae'r ystafelloedd yn amrywio o rai modern, cartrefol i rai mawr, moethus. Mae'r bwyd yn dda hefyd.

Coffi gorau – Coaltown Coffee Roasters, Rhydaman

Beth am roi cynnig ar ffa arbenigol a gasglwyd mewn modd cynaliadwy ac a rostiwyd â llaw cwmni Coaltown yn ei Ffreutur Rhostio Coffi ar y safle neu Espresso Bar yn y farchnad Rhydaman.

Rhyfeddod gorau'r rheilffordd – Traphont Cynghordy

Mae Llwybr Rheilffordd Calon Cymru yn teithio ar hyd y nodwedd 18 bwa drawiadol hon ar draws yr hyfryd dyffryn Afon Bran, ychydig i'r gogledd o orsaf Cynghordy.

Caffi cymunedol gorau – Canolfan Ymwelwyr Myddfai

Mae elw o'r caffi cartrefol hwn yn helpu i gynnal pentref bach ynysig Myddfai; mae'r cacennau'n dda ac mae opsiwn i fynd am dro i'r llyn chwedlonol gerllaw sef Llyn y Fan Fach.

Lle bwyta gyda golygfa orau - Brasserie St Elli's Bay, Llanelli

Caffi, bwyty, bistro ac ystafell newydd sbon eu hadnewyddu yn Noc y Gogledd, Llanelli. Y man delfrydol wrth ochr y traeth hyfryd ar gyfer coffi, hufen ia, cacen, swper a phwdin.

Gwersyllfa orau - Parc Carafanio a Gwersylla Erwlon

Dyma barc carafanio a gwersylla teuluol sydd wrth odre Bannau Brycheiniog a gerllaw afon Gwydderig, ceir cabanau pren bach ar lan yr afon. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch.

Pentowyn i Llanrath

Llwybr Arfordir Cymru