English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Heddiw gallai ymwelydd â Chwm Gwendraeth ei chael hi'n anodd dychmygu bod yr ardal ar un adeg yn ganolbwynt diwydiant mwyngloddio prysur a chynhyrchiol iawn, ac eto mae tystiolaeth wedi'i chofnodi o dros 100 o byllau glo ym maes glo Gwendraeth ac Aman.

Dechreuodd y gwaith o fwyngloddio yn y cwm yng nghanol y 1600au a pharhaodd tan ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd haenau o glai a thywodfaen yn gwahanu'r gwythiennau glo, ac roedd rhai ohonynt yn cynnwys cnepynnau haearn, a arweiniodd at y diwydiannau gwneud brics a mwyndoddi haearn cysylltiedig.

Roedd yr afonydd a’r nentydd yn llifo'n ddu ac roedd y lle yn llawn tomenni gwastraff, stablau, tramffyrdd, siediau weindio, sŵn a mwg. Byddai nwyddau a deunyddiau yn cael eu cludo i lawr y cwm i'r llongau a oedd yn aros yng Nghydweli neu, yn ddiweddarach, i'r harbyrau newydd ym Mhen-bre a Phorth Tywyn. I ddechrau, byddai merlod yn symud y glo i gychod ar afon Gwendraeth ond wrth i'r diwydiannau dyfu dyfeisiwyd dulliau newydd.

m 1768 adeiladodd Thomas Kymer, diwydiannwr arloesol, y gamlas gyntaf yng Nghymru o'i byllau glo ym Mhwll y Llygod i'w gei yng Nghydweli. Cafodd hon ei hymestyn ym 1824 cyn belled â Phont-iets. Disodlwyd y gamlas gan ddyfodiad Rheilffordd Cwm Gwendraeth a Phorth Tywyn (Burry Port and Gwendraeth Valley Railway) ym 1866.

Mae llawer o’r dystiolaeth o’r pyllau glo a'r ffatrïoedd bron â diflannu’n llwyr, ond ceir ychydig o nodweddion pwysig ac amlwg o hyd sydd yn ein hatgoffa o'r dyddiau a fu.

Mae olion yr hen gamlas yn dal i fod yn amlwg mewn rhannau hir. Bellach mae'n hafan i fywyd gwyllt gan ei bod yn ffurfio gwlyptir llinellol deniadol, sy'n gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Mae'r rheilffordd a adeiladwyd dros rai rhannau o'r gamlas yn dal i fodoli ond nid oes teithwyr wedi bod arni ers y 1950au.

Mae paneli gwybodaeth ar hyd Taith Dreftadaeth Mwyngloddio Pont-iets yn adrodd hanes y cwm a'i bobl, o'i orffennol cyn-ddiwydiannol hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded           Plotaroute

Pam Cerdded?

Mae'n daith hynod ddiddorol i'r rheiny sy'n dwlu ar natur oherwydd yr amrywiaeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae o ddiddordeb hanesyddol hefyd gan fod y daith yn dilyn y gamlas hynaf yng Nghymru.

Pa mor Hir?

Mae'r darn gwastad i Bontnewydd ac yn ôl ar yr un llwybr yn 5.5km. (3.5 milltir) Caniatewch 2 awr.
Mae'r llwybr cylchol hirach yn 6.5km (4 milltir) o hyd, gan ddringo 59m (193 troedfedd).
Caniatewch 2 1/2 awr.

Pa mor Anodd?
Mae'r darn gwastad wrth ochr yr afon a'r gamlas yn llwybr ag wyneb graean sy'n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr llai abl, tra bod y llwybr cylchol hwy yn bennaf ar hyd llwybr glaswelltog. Mae graddiant y ddau lwybr yn rhesymol.
Sylwer: Mae rhannau wrth ochr yr hen gamlas a'r afon yn agored i lifogydd ar ôl glaw trwm.

Man cychwyn - Pont-iets

Parcio - Pont-iets

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth - ✔

Mannau o Ddiddordeb

1. Mae'r mieri ar hyd y llwybr yn dda iawn ar gyfer pryfed sy'n dwlu ar neithdar ac yn fwyd i ieir bach yr haf a lindys. Gellir gweld ieir bach llygadog neu beunogion, adenydd carpiog a mentyll cochion ar ddiwrnodau cynnes yr haf. Mae'r amrywiaeth o gen sy'n tyfu ar yr hen byst ffensys a'r coed yn arwydd da o aer glân gan fod llawer o gen yn sensitif i lygredd aer.

2. Mae gan y caeau ar waelod y dyffryn briddoedd gwaddodol cyfoethog o ganlyniad i lifogydd rheolaidd o Afon Gwendraeth Fawr. Mae'r dolydd gwlyb yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd eu fflora a'u ffawna cyfoethog ac unigryw. Mae'r borfa frwyn, yr afon a'r hen gamlas i gyd yn hafanau i fywyd gwyllt ac yn ffurfio cynefin gwlyptir pwysig.

3. Gellir gweld rhannau o'r gamlas hynaf yng Nghymru (a adeiladwyd gan y diwydiannwr arloesol Thomas Kymer) ochr yn ochr â rheilffordd fwy diweddar Cwm Gwendraeth a Phorth Tywyn. Adeiladwyd y gamlas ym 1768 ac roedd yn rhedeg o byllau glo Kymer ym Mhwll y Llygod i'r cei yng Nghydweli. Adeiladwyd y rheilffordd ym 1866.

4. Yn fan hyn mae Afon Gwendraeth Fawr yn llifo wrth ochr y llwybr troed, roedd y dŵr yn llifo'n ddu ar un adeg oherwydd y nifer fawr o byllau glo yn y cwm. Mae hi bellach yn afon lanach o lawer felly efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld Glas y Dorlan neu Siglen Lwyd neu efallai Fursennod a Gweision y Neidr, sy'n olygfa gyffredin, yn hedfan ymysg y llystyfiant ar lan y dŵr yn yr haf.

5. Mae coed gwern, fel y rhai sy'n tyfu yn yr ardal wlyb hon, wedi cael eu defnyddio ar gyfer llawer o bethau. Mae'r pren, pan fydd yn cael ei gadw'n wlyb, yn gallu gwrthsefyll pydru. Roedd yn cael ei gafnio a'i droi yn bibellau dŵr, ei gerfio ar gyfer gwadnau clocsiau a'i ddefnyddio ar gyfer adeiladu cychod. Roedd hefyd yn gynhwysyn pwysig wrth gynhyrchu powdwr gwn ac yn un o'r prennau gorau a ddefnyddid i greu siarcol.

6. Mae hen lwybr y gamlas gyda’i ymyl frwynog yn mynd yn ei flaen i lawr i Barc-y-llong sydd 1.3Km (3/4 milltir) i ffwrdd, y tu hwnt i hyn ffos yn unig yw'r gamlas ond mae'n ail-ymddangos eto yng nghei Cydweli. Os clywch sŵn tebyg i wichian mochyn mwy na thebyg mai dim ond Rhegen y Dŵr sy'n galw ymysg y corslwyni. Mae'n annhebygol y byddwch yn gweld yr aderyn dirgelaidd hwn ond yn ystod misoedd yr haf mae'n bosib iawn y clywch ac y gwelwch deloriaid yr hesg a theloriaid y cyrs.

7. Mae'n ymddangos bod llawer o'r coed onnen, derw a chyll yn y goedwig hon yr un oed ac mae ganddynt sawl coes sy'n dangos bod y coetir ar un adeg yn cael ei fôn-docio, efallai i ddarparu coed tân i'r gymuned leol neu bren ar gyfer y pyllau glo. Ar ddiwrnodau sych a chynnes mae'r goedwig yn fyw gyda chaneuon titwod tomos las, mwyeilch a bronfreithod.

8. Tan yn ddiweddar, roedd yr ardal sydd wedi'i gorchuddio gan y cwrs golff yn waith glo brig. Rhoddodd y prosiect adfer gyfle delfrydol i greu cynefinoedd lled-naturiol sydd o fudd mawr i fywyd gwyllt. Mae pyllau wedi'u creu, ac mae brwyn, gweiriau a blodau gwyllt fel ysgallen y gors, y bengaled a llewyg y chwannen (mae'r enw yn awgrymu iddo gael ei ddefnyddio ar un adeg i gael gwared â chwain) i ailsefydlu bywyd gwyllt yn ardaloedd garw'r cwrs golff.

9. Mae gan yr hen lôn gysgodol amrywiaeth hyfryd o redyn a blodau yn tyfu ar gloddiau gwrychoedd serth. Ymhlith y rhedyn mae rhedynen y derw, rhedynen y cadno a thafod yr hydd. Yn gynnar yn y gwanwyn mae'r gwrychoedd yn frith o flodau melyn euraidd llygad Ebrill a blodau gwyn yn dod yn eu hynt gan gynnwys rhosod gwyn gwyllt, mefus gwyllt a serenllys.

Llwybr beicio

Rhosyn Gwyllt

Golau'r haul ar redyn