Pam Cerdded?
Dilynwch lwybr cerdded cilffordd Abaty Hendy-gwyn ar Daf o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf i fyny at Abaty hanesyddol Hendy-gwyn ar Daf, a alwyd yn Fam Dŷ y Sistersiaid Cymreig. Ardderchog i bobl sy'n cerdded eu cŵn neu sy'n dymuno gwneud ymarfer corff hamddenol. Mae'r llwybr hwn yn mynd â chi ychydig i'r de o Hendy-gwyn ar Daf i Lanbedr Felffre, gan ddefnyddio rhan o Lwybr y Landsker am ran helaeth o'r ffordd.
Taith gerdded linol yw hon.
Pa mor hir?
Mae'r daith gerdded ychydig dros 5km.
Man cychwyn: Mae'r daith gerdded hon yn dechrau ychydig i'r de o Hendy-gwyn ar Daf ar ôl Trefechan.
Maes Parcio: ✘ Canol tref Hendy-gwyn yw eich maes parcio agosaf.
Trafnidiaeth Gyhoeddus: ✔
Lluniaeth: ✔ Mae digon o gaffis a thafarndai yn Hendy-gwyn ar Daf