English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llanymddyfri

Llanymddyfri

Datblygodd tref Llanymddyfri oherwydd ei bod yn fan pontio pwysig ar lan Afon Tywi. Cydnabuwyd hyn gan y Rhufeiniaid a sefydlodd gaer, ac yn ddiweddarach gan y Normaniaid y mae eu castell adfeiliedig i’w weld o hyd.

Daeth yn fan ymgynnull pwysig i’r porthmyn gyda’u gwartheg duon Cymreig cyn iddynt ddechrau eu taith hir i’r ffin a marchnadoedd Lloegr y tu hwnt. Heddiw, mae’n dal i fod yn ganolfan farchnad bwysig sy’n cadw llawer o gymeriad ac atyniad y dref farchnad yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae ei lleoliad gwledig yn ganolfan ddeniadol i ymwelwyr sydd am archwilio hyfrydwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu’r bryniau o amgylch Pumpsaint, Rhandirmwyn a Llyn Brianne.

Mae Afon Tywi y mae ei tharddiad i fyny’n uchel yn y bryniau y tu hwnt i Randirmwyn (ac y mae Argae Llyn Brianne bellach yn torri ar ei thraws), yn llifo rhyw 112 cilomedr (70 milltir) i’r arfordir ym Mae Caerfyrddin. Mae canrifoedd o lifogydd yn y gaeaf wedi datblygu pridd llifwaddod yng ngwaelod y dyffryn, sy’n cynhyrchu’r glaswellt iraidd sy’n cefnogi diwydiant llaeth y sir.

Mae’n werth i ymwelwyr archwilio strydoedd y dref, ei hadeiladau hardd a’i siopau, caffis a’i chanolfannau crefftau llawn cymeriad.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded                     Plotaroute

 

Pam Cerdded?

Mae Llanymddyfri yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin gan y sawl sy'n dwlu ar weithgareddau awyr agored. Mae'r dref yn fan cyfarfod poblogaidd i feicwyr, cerddwyr, canŵ-wyr a selogion beiciau modur sy'n gwerthfawrogi pa mor ddymunol yw'r dref a'r ardal wledig o'i chwmpas.

Pa mor Hir?

Mae'r daith gerdded ychydig dros 5 cilomedr (ychydig dros 3 milltir) gan ddringo 52 metr (170 troedfedd) yn unig.
Caniatewch 2 awr.

Pa mor Anodd?

Mae hon yn daith gerdded gymharol hawdd dros dir gwastad y bydd y rhan fwyaf o gerddwyr yn ymdopi â hi'n gyfforddus. Mae rhannau o'r daith yn croesi caeau felly argymhellir esgidiau addas at yr awyr agored.

 

Man Cychwyn - Y prif faes parcio yn Llanymddyfri ger y castell.

Parcio - Prif faes parcio'r dref

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth - ✔

Fideo taith cerdded o gwmpas Llanymddyfri

Tref Llandymddyfri

 

Mannau o ddiddordeb

1. Tref Llanymddyfri - Lleoliad tref Llanymddyfri ar fan pontio pwysig ar afon Tywi sy'n gyfrifol am ei tharddiad. Cafodd hyn ei gydnabod gan y Rhufeiniaid a sefydlodd gaer a chan y Normaniaid a adeiladodd y castell. Mae gan y dref hanes hir fel tref farchnad, a gwaddol dyddiau'r porthmyn yw'r tafarndai niferus sydd yn y dref.

2. Castell Llanymddyfri - Bu'r castell yn gadarnle Cymreig a Normanaidd, ac mae'r tŵr crwn neu'r gorthwr dal yno, ynghyd â wal gragen o'r drydedd ganrif ar ddeg. Dargyfeiriwyd nant fechan, Dyfri, i ffurfio ffos llawn dŵr o amgylch y castell.

3. Stryd Cerrig - Codwyd Neuadd y Dref yn 1858, gyda Siambr y Cyngor uwchlaw marchnad agored. Mae Cloc y Dref ar hen Neuadd y Farchnad, a adeiladwyd degawd yn gynharach. Roedd traddodiad hir o wneud clociau yn y dref.

4. Nant Bawddwr - Deillia enw Llanymddyfri o'r afon leiaf o blith y rheiny yng nghyffiniau'r dref. Roedd yn garthffos agored ar un adeg - does dim rhyfedd mai Bawddwr oedd yr enw arni bryd hynny. Yn 1836 fe'i rhoddwyd mewn cwlfert bwaog a gosodwyd wyneb ar y strydoedd.

5. Llinell Rheilffordd Canol Cymru - Roedd Llanymddyfri yn ganolfan bwysig i goetsis ar y ffordd dyrpeg o Lundain (yr A40 erbyn hyn). Pan gyrhaeddodd y rheilffordd Lanymddyfri yn 1858, roedd yn ergyd farwol i fasnach y porthmyn a'r coetsis post.

6. Caer Rufeinig a Ffordd Rufeinig - Mae'r llwybr troed yn dilyn rhan o'r Ffordd Rufeinig a oedd yn arwain i'r gogledd-orllewin tua'r gaer nesaf ym Mhumsaint, a warchodai'r mwyngloddiau aur Rhufeinig.

7. Afon Tywi - A hithau'n 120 cilometr o hyd (75 milltir), afon Tywi yw'r afon hiraf y mae pob rhan ohoni yng Nghymru. Mae'n enwog am ei physgota Brithyll Môr (Sewin yw'r enw lleol) ac Eog. Tardda yn ucheldir Mynyddoedd y Cambria, cyn troelli drwy ddyffrynnoedd culion i wastatiroedd eang. Mae canrifoedd o lifogydd gaeafol wedi creu pridd gwaddodol ar waelod y dyffryn, gan gynhyrchu'r borfa irlas sy'n cynnal diwydiant llaeth y sir. Llifa'r afon i Fae Caerfyrddin a chwrdd â'r môr yn Llansteffan.

8. Y Bont Gadwyn - Dylanwadwyd yn drwm ar ddyluniad y bont gadwyn grog wreiddiol a adeiladwyd yn 1832 gan bont grog Telford dros y Fenai. Codwyd pont newydd yn ei lle yn 1883, ond cyfeirir at y bont bresennol o hyd fel y Bont Gadwyn.

9. Eglwys Sant Dingat - Yn ôl pob tebyg, mae corff yr Eglwys a'r gangell yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n debygol fod y tŵr o'r bymthegfed ganrif. Awgryma'r cysegriad fynwent gynnar, cyn-Normanaidd. Roedd Dingat yn un o feibion Brychan, pennaeth o dras Gwyddelig o'r chweched ganrif a sefydlodd Brycheiniog yn is-deyrnas iddo ef ei hun.

Neuadd y Farchnad

Afon Tywi

Eglwys Sant Dingat

Talacharn

Talacharn: taith 'Sir John's Hill'