English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llansteffan: taith gerdded ganolig

Llansteffan

Mae gan Lansteffan draddodiad hir o longau – fe'i gelwid yn borthladd yn yr Oesoedd Canol, ac yn ogystal â masnach leol byddai yno longau o Ffrainc a Sbaen yn cario gwin a moethau eraill. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, roedd boneddigion blaengar fel y Lloydiaid o'r Plas yn berchen ar longau masnach neu â chyfran ynddynt. Câi llawer o nwyddau swmpus eu cludo ar y môr, a hyd nes dyfodiad y ffyrdd tyrpeg, y môr a'r afon oedd y ffordd gyflymaf a rhataf o deithio i Gaerfyrddin neu'r tu hwnt. Roedd pysgotwr a chasglwyr cocos lleol hefyd wrth gwrs. Mae'r traddodiadau hyn yn parhau, er mai ychydig iawn sy'n gallu gwneud bywoliaeth amser llawn.


Mae Llansteffan wedi bod yn gyrchfan gwyliau ers cryn amser. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y dosbarthiadau segur a ymwelai â'r lle. Ond newidiodd hynny i gyd pan ddaeth y rheilffordd drwy Lanyfferi, yr ochr draw i'r afon, yn 1852. Arweiniodd twf aruthrol cymunedau glofaol cymoedd De Cymru - yr oedd llawer o'r teuluoedd yno yn arddel eu cysylltiadau â'u gwreiddiau yn Sir Gaerfyrddin - at lawer ohonynt yn mynd ar eu gwyliau i Lansteffan. Roedd y fferi o Lanyfferi yn gollwng teithwyr ar y Grîn pan oedd y dŵr yn isel. Traddodiad poblogaidd sydd wedi'i adfywio'n ddiweddar yw ethol 'Maer Ffug', sef cymeriad lleol neu ymwelydd adnabyddus fel arfer, a gaiff ei benodi yng nghanol llawer o firi a dathlu.


Er cynifer cestyll Cymru, mae'n rhaid bod Llansteffan ymysg y mwyaf trawiadol, ar bentir creigiog wrth geg afon Tywi. Ceir golygfeydd ysblennydd dros y dŵr i aber afon Gwendraeth, Coedwig Pen-bre, Traeth Cefn Sidan a'r tu hwnt i Benrhyn Gŵyr a Phen Pyrod. Saif y castell dros y pentref a'r aber, fel y mae wedi gwneud ers ei godi gan y Normaniaid atgas yn y ddeuddegfed ganrif. Cafodd ei ddinistrio a'i ailadeiladu o leiaf deirgwaith, ac mae bellach o dan ofalaeth CADW ac ar agor i'r cyhoedd.

Ymhlith yr adeiladau eraill o ddiddordeb y mae'r Plas godidog o'r ddeunawfed ganrif, a godwyd ar safle a feddiannwyd gan yr un teulu ers y bymthegfed ganrif. Mae'r siop gron ar sgwâr y pentref wedi'i hadeiladu ar waliau lloc y pentref ar gyfer gwartheg strae. Mae'r eglwys, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, wedi'i chysegru i Ystyffan Sant, o'r chweched ganrif.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded            Plotaroute         

Fideo o daith gerdded Llansteffan

Pam Cerdded?
Taith gerdded arfordirol arbennig yw hon sy'n mynd heibio'r Castell Normanaidd mawreddog ac yn cynnig golygfeydd godidog dros Fae Caerfyrddin a Ffynnon Antwn Sant. Honnir bod dŵr y Ffynnon hon yn gwella llawer o afiechydon! Mae'r daith hon hefyd yn cynnwys traeth tawel, diarffordd ac euraid Bae Scott. Mae teithiau'r ardal hon yn gyfuniad o olygfeydd arfordirol gwych a lonydd gwledig hyfryd. Graddiant graddol sydd i'r llwybrau hyn fel arfer, ac maent yn hawdd i'w dilyn. Yn aml gwelir cloddiau cyforiog o flodau o bob tu. Dalier sylw: Gall rhannau o'r teithiau fod yn fwdlyd hyd yn oed yn yr haf, felly argymhellir esgidiau addas.

Pa mor Hir?
Mae'r teithiau'n amrywio o un fer 3 cilometr (1.8 milltir) i un hir 7.7 cilometr (4.7 milltir) ar hyd rhywfaint o Lwybr Arfordir Cymru a thua'r tir drwy gefn gwlad prydferth.

Pa mor Anodd?
Mae'r daith gerdded fer i Ffynnon Antwn Sant (ar hyd y traeth os yw'r llanw allan) ac yn ôl ar y llwybr ar hyd y clogwyni, gan ymweld â'r castell, tua 3 cilometr (1.8 milltir) gan ddringo 62 metr (203 troedfedd).

Mae'r daith gerdded ganolig i Ffynnon Antwn Sant a pharhau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i Lord's Park a dychwelyd ar hyd y clogwyni, tua 5.6 cilometr (3.4 milltir) gan ddringo 144m (472 troedfedd).

Os am wneud taith hir, dilynwch gylch allanol y llwybrau sy'n cael eu hargymell. Mae'r daith hon yn 7.7 cilometr (4.7 milltir), gan ddringo 210 metr (688 troedfedd).

Man Cychwyn / Maes Parcio - Maes Parcio Traeth Llansteffan

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth - ✔

Golygfa o Gastell Llansteffan

Y Crofft

Mannau o Ddiddordeb

1. Y Grîn - Roedd y Fferi o Lanyfferi yn gollwng teithwyr ar y Grîn pan oedd y dŵr yn isel.

2. Codwyd y Plas ar safle adeilad llawer cynharach yn 1788, mewn arddull glasurol gyda ffasâd deulawr cain a Tuscan Portico â phileri.

3. Mae Eglwys Llansteffan yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, ond yn ddi-au fe saif ar safle eglwys o gyfnod cynharach. Yn 1160 rhoddodd Geoffrey de Marmion, Arglwydd Llansteffan, yr eglwys i Knights Hospitaller a oedd yn gofalu am deithwyr a phererinion. Codwyd y tŵr yn y bymthegfed ganrif.

4,5,6. Cafodd hen system caeau agored canoloesol Llansteffan ei ffosileiddio yn siapiau'r caeau presennol. Mae'r dolenni S yn cynrychioli'r timau aredig canoloesol mawr.

7. Roedd Ffordd y Brenin yn bwysig yn y canol oesoedd gan gysylltu'r Fferïau â Thalacharn a Glanyfferi.

8. Ynghudd y tu cefn i ddrws yn y wal y mae Ffynnon Antwn Sant; honnir bod dŵr y ffynnon yn gwella llawer o afiechydon! Mae'r slab cerrig y tu mewn i'r strwythur muriog o amgylch y ffynnon yn honni fod pobl wedi bod yn cael eu hiachau yno ers y chweched ganrif.

9. Trwyn Wharley - ar ddiwrnod clir mae'n bosibl gweld mor bell ag arfordir gogledd Dyfnaint, Ynys Wair a Phenrhyn Gŵyr.

10. Mae Fferm Lord's Park yn enghraifft nodweddiadol o fferm ystâd a ddaeth i fodolaeth wrth i'r caeau ddod yn gaeedig ac wrth i ystadau bonedd newydd gael eu trefnu'n ffermydd plas ac yn ffermydd tenantiaid.

11. Castell Llansteffan - Bryngaer Oes Haearn o'r chweched ganrif cyn Crist oedd y gaer gynharaf ar y safle hwn. Ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif adeiladodd y Normaniaid gaer o bridd a phren, a chodwyd y castell presennol erbyn y drydedd ganrif ar ddeg.

12. Heol y Glo - Mae enw'r heol yn dwyn i gof y diwydiant glofaol lleol a barodd tan yr 1920au. Daethid â glo o Gwm Gwendraeth rownd i Lansteffan ac i fyny afonydd Tywi a Thaf.

Coedwig Y Sticks

Bae Scott

Talacharn

Talacharn - Llwybr Dylan