English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Gorwedd Llangadog yn nyffryn ffrwythlon dyffryn Tywi, un o ardaloedd harddaf Sir Gaerfyrddin. I’r dwyrain gwelir fod tiroedd comin traddodiadol bryniau Bannau Sir Gaerfyrddin yn parhau i lunio rhostir eang agored sy’n gyfoeth o dystiolaeth archaeolegol o gymdeithasau cynharach. Mae tomenni claddu enfawr o’r Oes Efydd a adeiladwyd rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl yn britho’r gorwel, ac ar ben amryw o’r bryniau lleol gwelir hen gaerau hynafol penaethiaid y rhyfelwyr Celtaidd, a ddefnyddiwyd fwyna 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae afon Tywi wedi bod yn llwybr cyfathrebu pwysig ers y cyfnodau cynhanesyddol ac mae ffordd Rufeinig yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol y dyffryn, gyferbyn â Llangadog.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys a’r mynachdy yma yn ystod y 6ed ganrif gan y sant Celtaidd, Cadog. Yn ystod y 12fed a’r 13eg ganrif roedd y rhan hon o ddyffryn Tywi yng nghanol tiroedd a reolwyd gan dywysogion Deheubarth o’u cadarnle yng Nghastell Dinefwr (ger Llandeilo). Cafwyd nifer o frwydrau gwaedlyd yn ystod y canrifoedd hyn fel y ceisiai’r tywysogion Cymreig, gyda chryn lwyddiant yn aml, atal llif yr ymosodwyr Eingl-Normanaidd. Mae’r cestyll a adeiladwyd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn i’w gweld o hyd yma ac acw yn nyffryn Tywi ac mae un o’r enghreifftiau gorau o gastell mwnt a beili i’w weld o hyd ger Llangadog.

Tua diwedd y 13eg ganrif cyflwynwyd Llangadog a’i thiroedd I Esgob Tyddewi a sefydlwyd bwrdeistref bychan yma. Erbyn yr 16eg ganrif, roedd marchnad wythnosol a saith ffair flynyddol yn cael eu cynnal yma. Mewn cyferbyniad datblygodd Felindre Sawdde, ger llaw o dan reolaeth Arglwyddiaeth Llanymddyfri, ac erbyn y 14eg ganrif roedd ganddi ei ffair a’i marchnad blynyddol ei hun. Mewn cyfnodau diweddarach mae Llangadog wedi gwasanaethu fel canolfan farchnad brysur iawn ar gyfer ardal wledig eang ac mae’n dal i gadw naws tref farchnad bwysig yn y 19eg ganrif.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded      Plotaroute

Pam Cerdded?

Mae'r ddwy daith gerdded yn cynnig golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Tywi a Bannau Brycheiniog. Mae'r teithiau cerdded yn gyfle i gael golwg ar fywyd gwyllt ac maent o ddiddordeb hanesyddol.

Pa mor Hir?

Mae'r daith gylchol fer o amgylch y pentref yn 3.3Km o hyd (2.1 milltir).
Mae'r daith hirach i’r gefn gwlad ehangach yn 10.5Km (6.5 milltir)

Pa mor Anodd?
Mae'r ddau lwybr yn mynd ar hyd y dyffryn ac mae'r ddau yn weddol wastad, neu’n mynd dros bant a bryn yn hytrach na thir serth, gydag ychydig o risiau a chamfeydd i ddelio â nhw ar hyd y ffordd. Gall y caeau a'r darnau coetir fod yn gorsiog mewn mannau ar ôl glaw felly rydym yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau cadarn.

Man cychwyn - Mae man cychwyn da gyda digon o lefydd parcio wrth ochr y ffordd sy'n croesi'r tir comin ger y bont dros afon Sawdde.

Parcio - Pentref Llangadog

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Lluniaeth - ✔

Mannau o Ddiddordeb

1. Mae'n werth treulio ychydig eiliadau wrth y bont dros afon Sawdde i fwynhau'r olygfa. Yn yr haf rydych yn debygol o weld y Siglen Fraith yn chwilio am bryfed ymysg y cerrig mân, tra bod y Wennol, Gwennol y Glennydd a’r Wennol Ddu yn hedfan fry gan arddangos cyfuniad anhygoel o acrobateg. Gyda lwc, efallai y bydd pobl sy'n mynd heibio yn gweld Pibydd y Dorlan, Bronwen y Dŵr neu Las y Dorlan.

2. Mae comin Carreg Sawdde wedi bod yn dir pori agored ers y 13eg ganrif pan roddodd Esgob Tyddewi hawliau pori i fwrdeisiaid Llangadog. Yn y canol oesoedd, roedd Felindre, i'r de o'r comin, yn ystâd i Arglwyddiaeth Llanymddyfri, ac roedd yno lys a chynhaliwyd ffair flynyddol yno hefyd. Gall patrwm y caeau i'r gorllewin o'r pentref adlewyrchu’r hen gaeau stribed canoloesol.

3. Ym 1858 agorodd Cwmni Rheilffordd a Doc Llanelli y rheilffordd o Landeilo i Lanymddyfri fel Rheilffordd Dyffryn Tywi. Mae'r rheilffordd bellach yn rhan o reilffordd Calon Cymru sy'n mynd o Abertawe i'r Amwythig.

4. Roedd melin ŷd Glansefin yn rhan o ystâd Glansefin, lle roedd yn ofynnol i denantiaid yr ystâd ddod â'u hŷd i'w falu.

5. Mae'r llwybr troed yn mynd heibio i hen gerbyty Plasty Glansefin, a arferai fod yn gartref i'r teulu Lloyd, sydd bellach wedi'i droi'n llety gwyliau. Ym 1670, yn unol â dibenion treth, fe'i haseswyd fel tŷ ag wyth aelwyd, sy'n golygu ei fod yn un o'r tai mwyaf yn yr ardal. Gadawodd y teulu’r plas ar ddechrau’r 20fed ganrif, gan ddychwelyd dros dro i ddarparu llety i faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

6. Yn draddodiadol, roedd y llwybr trwy Goed Cae'r Bedw yn cael ei adnabod gan drigolion hŷn fel Heol y Beddau. Dywedid bod y twmpathau isel a oedd i'w gweld ar ddechrau'r 20fed ganrif yn fannau claddu rhyfelwyr a oedd wedi marw o’r pla.

7. Mae Castell Meurig yn enghraifft berffaith o gastell mwnt a beili canoloesol. Saif tŷ modern yn y beili. Mae'r llwybr troed yn cynnig golygfa heb ei hail i gerddwyr o fancyn y beili a'r mwnt sydd wedi'i orchuddio â choed y tu ôl iddo. Cipiodd y Tywysog Maelgwyn ap Rhys y castell oddi wrth y Normaniaid gan ddefnyddio “catapyltiau a sling” ym 1203, ac ar ôl hynny ymddengys na chafodd ei ddefnyddio. Yn ôl traddodiad lleol, roedd tŵr carreg ar y mwnt ar un adeg.

8. Yn yr haf mae teim gwyllt yn tyfu o dan y clawdd, gan ddenu amrywiaeth o bryfed. Mae ei flodau porffor yn denu Gwyfynod Bwrned. Mae blodau gwyddfid yn persawru awyr yr haf ynghyd â blodau gwyn cain y Rhosyn Gwyllt.

pont Llangadog

Golygfa o Langadog