English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae pentref Glanyfferi bron yng nghanol Arfordir Bae Caerfyrddin ac yn agos i'r man lle mae tair o brif afonydd Sir Gaerfyrddin yn mynd i mewn i'r môr, sef y Taf, y Gwendraeth a'r Tywi.

Fel y mae'r enw'n awgrymu, roedd Glanyfferi yn groesfan bwysig ar afon Tywi gan ddarparu llwybr byr i bobl leol, masnachwyr a phererinion a oedd yn teithio i'r gorllewin tuag at Dyddewi a Sir Benfro. 

Anheddfannau ym Mhlwyf Llanismel

Erbyn heddiw mae tair prif anheddfa – un pentref coll o dan y twyni, un hen bentref ac un pentref newydd. Mae olion pentref coll i’w gweld ar lan y dwˆr y tu isaf i’r rheilffordd yn Salmon Scar. Yn ddiau dyma bentref Llanismel, gyda’r eglwys yr unig ran ohono sy’n bodoli o hyd. Yr esboniad mwyaf tebygol am i’r pentref ddiflannu ywmstormydd a llifogydd mawr 1606. Oherwydd symudiad y twyni a newidiadau i lan y dŵr boddwyd y pentref a’i gladdu o dan y twyni. Mae’n ddigon tebygol fod y rhan fwyaf o’r pentref yn parhau i orwedd o dan y twyni sydd bellach wedi sefydlogi ac yn ffurfio seilwaith y rheilffordd bresennol.

Ar gopa’r bryn mae hen bentref Llan-saint. Yn ôl pob tebyg tyfodd o amgylch hen fynwent Gristnogol gynnar lle yr adeiladwyd eglwys yn ddiweddarach. O gwmpas y pentref mae olion o’r cyn ‘gaeau agored’ a geid yn y Canol Oesoedd. Mae’r rhain ar ffurf lleiniau cul o dir sydd wedi’u hamgylchynu – arwydd sicr o bentref sylweddol yn perthyn i’r Oesoedd Canol.

Ac yn olaf mae pentref presennol Glanyfferi. Mae’r pentref hwn wedi tyfu o gwmpas ffordd hynafol – ac un newydd. Yr hen ffordd yw’r fferi dros yr afon i Lansteffan, sy’n rhoi i’r pentref ei enw. Y ffordd newydd yw rheilffordd y Great Western a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel a agorwyd yn 1852. Ar y dechrau gosodwyd y rheiliau yn uniongyrchol ar y cerrig mân yn unol â mesuriadau llydan Brunel. Gan fod yn rhaid adeiladu amddiffynfa rhag y môr i ddiogelu’r rheilffordd ail adeiladwyd y rheilffordd ar yr arglawdd. Parhaodd Glanyfferi i ddatblygu fel pentref pysgota a chyrchfan gwyliau i’r bonedd ar ôl iddynt ymddeol.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded      Plotaroute

Pam Cerdded?

Mae hon yn ardal wledig hyfryd gyda golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir i Benrhyn Gŵyr a Sir Benfro. Mae rhan o'r daith hefyd yn rhedeg ar hyd llwybr Arfordir Cymru.

Pa mor hir?

8km (5 milltir)

Pa mor anodd?

Nid yw'r daith gerdded yn arbennig o anodd, mae'r rhan fwyaf o'r rhannau ar i fyny yn raddiant rhesymol. Mae rhannau o'r llwybr ar hyd traciau fferm, ond mae rhai rhannau'n croesi caeau sy'n gallu bod yn fwdlyd ar ôl glaw.

Man cychwyn - Pentref Glanyfferi

Parcio - Mae maes parcio ger canol y pentref wrth fan dechrau/gorffen y daith gerdded.

Trafnidiaeth gyhoeddus - ✔  Mae Glanyfferi wedi'i leoli ar brif reilffordd a gellir cyrraedd Glanyfferi yn hawdd o Gaerfyrddin, Abertawe neu Lanelli.

Lluniaeth: - ✔  Er nad yw Glanyfferi yn bentref mawr, mae ganddo siop, caffi a thafarn.

Mannau o ddiddordeb

1.Mae'r fflatiau llaid a'r morfeydd heli yn y bae yn safle pwysig i filoedd o rydwyr sy'n gaeafu megis Pibydd, Hutan y Tywod a Rhostogion. Gellir gweld Pibydd Coesgoch a Phïod y Môr mewn niferoedd llai drwy gydol y flwyddyn ynghyd â Chrëyr a Hwyaid yr Eithin.

2. Sefydlwyd Ysgol Gynradd y pentref ym 1856 gan Gomisiynwyr yr Eglwys ac mae'n parhau i wasanaethu'r gymuned leol.

3. Mae'r llwybr ar hyd y Clogwyni yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n 870 milltir (1,400Km) o hyd sy'n dechrau yn Fferi Isaf yn y gogledd ac yn gorffen yng Nghas-gwent yn y de.

4. Ceir golygfeydd godidog o'r llain arfordirol ac ar draws bae Caerfyrddin i bentref Llansteffan a Chastell Normanaidd, a adeiladwyd o fewn gwrthgloddiau Bryngaer Oes Haearn.

5. Mae pentref Llansaint ar ben bryncyn ac mae ganddo ddrysfa o ffyrdd cul sydd yn arwain at yr eglwys. Gellir gweld cerrig arysgrifedig o'r 5ed neu'r 6ed ganrif o hyd ac maent yn rhan o wead yr eglwys. Maent yn gerrig beddau ar gyfer dau unigolyn, Vennisettl a Cimesetl, a allai fod wedi bod yn benaethiaid lleol o dras Wyddelig.

6. Rhoddwyd Bryn Tregoning i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan y teulu Tregoning a ddaeth yn wreiddiol o Gernyw. Roedd cyfoeth y teulu yn seiliedig ar y gweithfeydd tunplat yn Llanelli.

7. Yr ochr arall i'r rheilffordd ar lan y dŵr mae cerrig Salmon Scar, ac mae modd gweld gweddillion y 'pentref coll' pan fydd y llanw yn isel.