Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Pharcdir Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth
Mae tirwedd hanesyddol yn aros amdanoch....
Mwynhewch grwydro o amgylch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Pharcdir Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth sydd wedi ennill gwobrau. Prosiect pum mlynedd a oedd yn ceisio adfer nodweddion tirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth a grëwyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar gyfer William Paxton ar y tir sydd erbyn hyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
Y prosiect, a gymerodd bum mlynedd i’w gwblhau gan gostio dros £7 miliwn, yw’r mwyaf o'i fath i’w gwblhau yng Nghymru ac mae’n cynnwys dau lyn newydd, pontydd, argaeau, gorlifannau, rhaeadr a rhwydwaith helaeth o lwybrau, i gyd mewn 300 erw o barcdir coediog.
Dyluniwyd yr Ardd i fod yn hygyrch i bob ymwelydd beth bynnag fo’i allu.
Mae pob llwybr o fewn yr Ardd ffurfiol yn addas i gadair olwyn, ac mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael yn y Porthdy.
Os ydych chi’n anabl neu os oes ydych chi yn cael trafferth symud o gwmpas, mae ganddyn nhw hefyd wasanaeth bygis gwennol reolaidd er mwyn eich cludo i’r rhan fwyaf o’r Ardd gan gynnwys i lawr i’r parcdir wedi’i adfer, a mynd â chi nôl i’r Porthdy. Bydd y gyrwyr bygis yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych am eich ymweliad.

Mae modd dod â chŵn i'r Ardd bob dydd Llun a dydd Gwener, ynghyd â phenwythnos cyntaf pob mis. Ewch â'ch ci am dro ar dennyn o amgylch y 568 erw o gefn gwlad godidog a chael golwg ar y parcdir a adferwyd yn ddiweddar.
